Canllawiau newydd i helpu i wirio manylion eiddo
Mae gan y VOA ganllawiau newydd i gwsmeriaid sydd am wirio’r manylion sydd gennym am eu heiddo busnes.

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) wedi cyhoeddi canllawiau newydd i’ch helpu i ddarparu’r wybodaeth gywir am eich eiddo, wrth wirio’r manylion ar gyfer:
-
ffatrïoedd, gweithdai a warysau
-
siopau
-
swyddfeydd
Os byddwch yn darparu gwybodaeth ffug efallai y codir cosb arnoch. Mae hyn yn cynnwys os yw’r wybodaeth yn cael ei darparu gan asiant rydych wedi’i benodi i weithredu ar eich rhan.
Rydym hefyd wedi diweddaru ein canllawiau ynghylch pryd y gallem roi cosb, gan gynnwys beth sy’n wybodaeth ffug.
Os yw asiant yn rheoli eich ardrethi busnes, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr wybodaeth y maent yn ei rhoi i’r VOA yn gywir.
Dywedodd Alan Colston, Prif Brisiwr y VOA: “Rydym am i’n prisiadau eiddo fod yn seiliedig ar yr wybodaeth fwyaf cywir posibl. Dyna pam rydym yn gwneud mwy i gefnogi cwsmeriaid i wneud pethau’n iawn wrth ddefnyddio ein gwasanaeth Gwirio a Herio, a defnyddio cosbau fel dewis olaf yn unig.”
Os ydych chi’n defnyddio asiant, mae’n bwysig eich bod chi’n dewis un ag enw da. Mae gennym restr wirio ar sut i ddewis asiant ardrethi busnes. Mae gennym hefyd safonau asiant sy’n esbonio’r hyn y dylech ei ddisgwyl gan asiant.
Gallwch reoli eich ardrethi busnes eich hun drwy greu cyfrif prisio ardrethi busnes ar GOV.UK.