Datganiad i'r wasg

Gorsaf bŵer niwclear newydd wedi’i chlustnodi ar gyfer Gogledd Cymru

Wylfa ar Ynys Môn yw’r safle y mae’r llywodraeth yn ei ffafrio ar gyfer gorsaf bŵer niwclear gigawat fawr.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2022 to 2024 Sunak Conservative government
  • Wylfa ar Ynys Môn yw’r dewis cyntaf o ran safle ar gyfer gorsaf bŵer niwclear gigawat fawr
  • y llywodraeth yn lansio trafodaethau gyda chwmnïau ynni rhyngwladol i archwilio adeiladu gorsaf bŵer ar y safle
  • Ynys Môn i elwa o filoedd o swyddi a buddsoddiad lleol mewn pŵer glân, dibynadwy a rhatach

Wylfa ar Ynys Môn yw’r safle sy’n cael ei ffafrio gan y llywodraeth ar gyfer trydedd gorsaf bŵer niwclear enfawr y DU – gan roi Gogledd Cymru yn y sefyllfa orau i elwa o hwb i’w ffyniant economaidd a chefnogi diogelwch ynni hirdymor y DU.

Mae’r llywodraeth yn dechrau trafodaethau gyda chwmnïau ynni byd-eang i ystyried adeiladu’r orsaf bŵer newydd, a allai ddarparu digon o bŵer glân a dibynadwy ar gyfer tua 6 miliwn o gartrefi am 60 mlynedd. Mae’n dod â’r DU yn nes at ei huchelgais o sicrhau bod hyd at chwarter ei hanghenion trydan yn dod o ynni niwclear cynhenid erbyn 2050, er mwyn cryfhau annibyniaeth y genedl o ran ynni.

Mae’r llywodraeth yn edrych ar adeiladu gorsaf bŵer niwclear fawr, tebyg o ran maint i orsaf Hinkley yng Ngwlad yr Haf a Sizewell yn Suffolk. Byddai’r prosiect newydd hwn yn adfywio hanes niwclear Wylfa ac yn dod â miloedd o swyddi a buddsoddiad i’r ardal, gan roi hwb i’r economi leol.

Mae Wylfa, sy’n eistedd ar arfordir Gogledd Cymru, yn safle delfrydol oherwydd ei agosrwydd at ddŵr oeri a’i dreftadaeth niwclear.

Yn ddiweddar, fe wnaeth Great British Nuclear – sy’n gyfrifol am wireddu cystadleuaeth adweithyddion modiwlaidd bach cyflymaf y byd – sicrhau Wylfa ac Oldbury-on-Severn yn Swydd Gaerloyw fel dau safle posibl ar gyfer prosiectau ynni niwclear newydd. Dyma’r tro cyntaf i’r llywodraeth brynu tir ar gyfer ynni niwclear newydd ers y 1960au.

Dywedodd Claire Coutinho, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net:

Rydyn ni’n bwrw ymlaen â’r ehangfa mwyaf o ynni niwclear mewn 70 mlynedd.

Mae gan Ynys Môn hanes niwclear balch ac mae’n gwbl briodol y gall, unwaith eto, chwarae rhan ganolog yn y gwaith o roi hwb i ddiogelwch ynni’r DU.

Nid yn unig y byddai Wylfa yn dod â phŵer glân a dibynadwy i filiynau o gartrefi – gallai greu miloedd o swyddi sy’n talu’n dda a dod â buddsoddiad i’r ardal leol.

Mae’r DU yn bwrw ymlaen â’r ehangu mwyaf ar bŵer niwclear mewn 70 mlynedd a bydd safleoedd addas yn hollbwysig er mwyn gwireddu’r uchelgais o gynyddu’r capasiti niwclear bedair gwaith - hyd at 24GW - erbyn 2050. Daw hyn o gymysgedd o orsafoedd pŵer traddodiadol ar raddfa fawr ac adweithyddion modiwlaidd bach, y gellir eu cyflwyno’n gynt a chyflwyno nifer ohonynt ar yr un pryd.

Yn y cyfamser, nod Great British Nuclear yw cyhoeddi’r cynigwyr llwyddiannus yn y gystadleuaeth am adweithyddion modiwlaidd bach erbyn diwedd y flwyddyn hon.

Dywedodd Gwen Parry-Jones, Prif Swyddog Gweithredol Great British Nuclear:

Ar ôl cytuno i brynu safle Wylfa yn gynharach eleni, mae GBN yn edrych ymlaen at weithio gyda’r llywodraeth ar y rhaglen ymgysylltu â’r farchnad ar gyfer darparwyr gigawat mawr a hefyd at gyflawni’r prosiect hollbwysig hwn yn y blynyddoedd i ddod.

Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae hyn yn newyddion arwyddocaol sydd i’w, i’w groesawu, i Gymru, a sy’n addo dod â miloedd o swyddi o ansawdd uchel i’r economi leol.

Ochr yn ochr ag adfywio pŵer niwclear yn Wylfa, mae’r mesurau diweddar rydyn ni wedi’u cyhoeddi yn cynnwys Porthladd Rhydd ar gyfer Ynys Môn, £17 miliwn o arian Ffyniant Bro ar gyfer Caergybi a thrydaneiddio rheilffordd Gogledd Cymru sy’n dangos bod llywodraeth y DU yn parhau i gyflawni ar gyfer Ynys Môn a Gogledd Cymru.

Dywedodd Sue Ferns, Uwch Ddirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol undeb Prospect

Wylfa yw’r safle gorau yn Ewrop ar gyfer gorsaf bŵer niwclear ar raddfa fawr. Mae hyn yn bellach wedi cael ei gydnabod gan lywodraeth y DU gyda’r cyhoeddiad hwn.

Mae gorsafoedd pŵer niwclear newydd ar raddfa Gigawat yn hanfodol er mwyn cyrraedd sero-net ac i sicrhau ein diogelwch ynni. Ond maent hefyd yn cynnal swyddi sy’n talu’n dda ac yn gofyn am lefel uchel o sgiliau, sy’n golygu y byddai’r prosiect hwn yn hwb mawr i economi Cymru.

Nawr mae angen i ni ganolbwyntio’n ddiwyro ar gyflawni ynni niwclear newydd i wneud yn siŵr nad yw sgiliau a phrofiad yn cael eu colli, a bod costau’n cael eu lleihau wrth i ni symud ymlaen.

Dywedodd Tom Greatrex, Prif Weithredwr yr NIA:

Mae’r llywodraeth yn gwbl gywir i fynd ar drywydd mwy o bŵer niwclear ar raddfa fawr ochr yn ochr â’r rhaglen SMR: mae’n dechnoleg sydd wedi’i phrofi sy’n darparu pŵer glân, sofran ac sy’n gallu trawsnewid cymunedau gyda miloedd o swyddi a phrentisiaethau hirdymor o ansawdd uchel. Mae Wylfa yn lle delfrydol ar gyfer prosiect niwclear mawr, ac mae’r gymuned yn gwybod am ynni niwclear.

Rydym yn croesawu ymgysylltiad y llywodraeth â phartneriaid posibl yn rhyngwladol, ac rydym yn eu hannog i symud ymlaen yn gyflym. Prosiect ar raddfa fawr yn Wylfa fyddai’r mewnfuddsoddiad mwyaf yn hanes Cymru, a byddai’n gam enfawr tuag at ddiogelwch ynni a sero net i’r wlad gyfan.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 22 May 2024