Llywodraeth y DU yn cyhoeddi enwau'r Hyrwyddwyr Allforio newydd yng Nhyrmu
Bydd y naw Hyrwyddwr newydd yn hyrwyddo manteision allforio.
Ar ddechrau Wythnos Masnach Ryngwladol 2023, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi enwau naw Hyrwyddwr Allforio newydd i Gymru.
Maent yn cynrychioli sectorau allweddol yn economi Cymru, gan gynnwys gweithgynhyrchu, Deallusrwydd Artiffisial a Thechnoleg Ariannol. Bydd yr Hyrwyddwyr Allforio newydd yn hyrwyddo manteision allforio ac yn annog cwmnïau eraill ledled Cymru i ystyried gwerthu i farchnadoedd tramor.
Bydd hyn yn cael ei wneud drwy gymryd rhan mewn digwyddiadau masnach, rhannu eu straeon allforio â’r rheini yn eu sector a rhoi cyngor i fusnesau eraill ynghylch sut mae ymuno â marchnadoedd newydd dramor.
Mae gan Gymru bellach 18 o Hyrwyddwyr Allforio sy’n gweithio i hyrwyddo gwahanol sectorau o’r economi a chymerodd 10 ran mewn digwyddiad yn Swyddfa Cymru yn Whitehall, Llundain ddydd Llun (6 Tachwedd) i nodi dechrau Wythnos Masnach Ryngwladol (6-10 Tachwedd) ac i dynnu sylw at rai o fusnesau gorau Cymru.
Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru:
Mae Hyrwyddwyr Allforio yn cynnig arbenigedd yn y byd go iawn i fusnesau sy’n awyddus i gymryd eu camau cyntaf fel allforwyr.
Rydw i wrth fy modd bod naw Hyrwyddwr Allforio arall wedi dod ymlaen i gynrychioli rhai o fusnesau gorau Cymru. “Mae ganddyn nhw lawer iawn o arbenigedd i’w gynnig i fusnesau eraill sydd eisiau allforio i farchnadoedd gwahanol.
Mae cwmnïau o Gymru sy’n gweithredu mewn meysydd fel gwasanaethau ariannol, gweithgynhyrchu ac, wrth gwrs, ein sector bwyd a diod enwog yn allforwyr hynod lwyddiannus, ac rydym am gefnogi mwy o fusnesau i fynd â nwyddau a gwasanaethau o Gymru ar draws y byd.
Cyflwynodd yr Adran Busnes a Masnach (DBT) gymuned Hyrwyddwyr Allforio’r DU fel ymateb uniongyrchol i alwadau gan fusnesau am gymorth allforio cymar-i-gymar.
Dewiswyd pob Hyrwyddwr oherwydd bod ganddynt hanes llwyddiannus o fasnachu’n rhyngwladol, mae ganddynt straeon da i’w hadrodd am sut mae allforio’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gwmni ac maent eisiau rhannu eu gwybodaeth a’u profiad ag eraill.
Dywedodd Gareth Lewis, sy’n sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol cwmni Technoleg Ariannol Delio ac yn un o’r Hyrwyddwr Allforio newydd:
Mae gweithredu’n rhyngwladol wedi datgloi llawer o gyfleoedd i Delio, gan ei wneud yn elfen ganolog yn ein twf.
I’r rheini sy’n ystyried allforio, gall marchnadoedd rhyngwladol newydd swnio’n frawychus. Fodd bynnag, os wnewch chi eich gwaith ymchwil, os oes gennych chi gynnyrch sy’n datrys problem waeth beth fo’r lleoliad a’ch bod chi’n gweithio’n galed, byddwch ar y trywydd cywir i weithredu’n llwyddiannus yn rhyngwladol.
Dywedodd Richard Pring, cyfarwyddwr y cwmni gemau o Benarth, Wales Interactive:
Mae mynd ati i fasnachu’n rhyngwladol wedi trawsnewid ein cwmni’n sylweddol. Wrth i ni fentro i farchnadoedd newydd a mynd i’r marchnadoedd hynny, rydym wedi datgloi’r potensial i ymgysylltu â miliynau o gwsmeriaid newydd sbon, yn aml mewn ffyrdd annisgwyl.
Rwy’n galw ar gyd-fusnesau i fanteisio’n llawn ar y llwyfan byd-eang. Dylech chi fachu ar unrhyw gyfle i archwilio marchnad newydd. Gall y canlyniadau eich siomi ar yr ochr orau a bod yn gadarnhaol iawn.”
Roedd digwyddiad dydd Llun yn Nhŷ Gwydyr yn Llundain yn nodi dechrau Wythnos Masnach Ryngwladol. Mae Wythnos Masnach Ryngwladol, dan arweiniad yr Adran Busnes a Masnach mewn partneriaeth â diwydiant, yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau i gwmnïau sy’n awyddus i allforio, fel digwyddiadau, gweithdai a gweminarau.