Gogledd Cymru yn chwarae rhan hollbwysig yn ymgyrchoedd Llywodraeth y DU
Mae Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi treulio dau ddiwrnod yng Ngogledd Cymru yn cwrdd â busnesau blaenllaw yn y rhanbarth ac yn trafod eu cyfraniadau tuag at ymgyrchoedd ynni glân a thwf economaidd Llywodraeth y DU.

Welsh Secretary Jo Stevens at Wockhardt UK Ltd.
- Ysgrifennydd Cymru yn hyrwyddo gwerth busnesau arloesol yng Ngogledd Cymru
- Gallai prosiectau i leihau allyriadau carbon helpu i gyflawni uchelgeisiau sero net y llywodraeth
- Y sector gwyddorau bywyd arloesol yn sbarduno twf economaidd ac yn cyfrannu swyddi sy’n talu’n dda
Mae Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi treulio dau ddiwrnod (10 ac 11 Ebrill) yng Ngogledd Cymru yn cwrdd â busnesau blaenllaw yn y rhanbarth ac yn trafod eu cyfraniadau tuag at ymgyrchoedd ynni glân a thwf economaidd Llywodraeth y DU. Mae’r ymgyrchoedd yn gonglfeini i’r Cynllun ar gyfer Newid sydd gan Lywodraeth y DU i geisio codi safonau byw ledled y DU a rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl.
Yng ngwaith sment Heidelberg Materials yn Padeswood ger yr Wyddgrug, clywodd yr Ysgrifennydd Gwladol am brosiect arloesol Dal a Storio Carbon sy’n ceisio datgarboneiddio gwaith cynhyrchu sment a chyfrannu at nodau sero net y DU.
Mae Heidelberg Materials yn cynnig buddsoddi mwy na £600 miliwn yn ei waith yn Padeswood, a byddai hyn yn ei alluogi i gasglu hyd at 800,000 tunnell o CO2 y flwyddyn a chreu tua 50 o swyddi newydd.
Yng nghyfleuster Parc Adfer Enfinium yng Nglannau Dyfrdwy, gwelodd yr Ysgrifennydd Gwladol sut mae’r orsaf heddiw yn trosi gwastraff na ellir ei ailgylchu yn ynni a chynhyrchion defnyddiol eraill, a dangosodd y cwmni eu cynlluniau i ôl-osod Gorsaf Dal Carbon.
Mae’r prosiect Dal a Storio Carbon yn cynrychioli buddsoddiad o £200 miliwn yn economi werdd Gogledd Cymru ac mae Enfinium yn amcangyfrif y gallai dynnu hyd at 125,000t o garbon o’r atmosffer bob blwyddyn drwy’r deunydd organig y mae’r orsaf eisoes yn ei brosesu.
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae’n wych gweld Gogledd Cymru ar flaen y gad o ran cynlluniau ar gyfer Dal a Storio Carbon. Dyma dechnoleg sydd â photensial enfawr i’n helpu i gyflawni ein huchelgeisiau sero net.
Fel rhan o’n Cynllun ar gyfer Newid, rydym ni eisiau annog arloesedd a buddsoddiad fel y rhai sy’n cael eu dangos gan y cwmnïau hyn yng ngogledd Cymru, gan arwain at dwf economaidd yn ogystal â swyddi diogel sy’n talu’n dda yn y dyfodol.
Dywedodd Simon Willis, Prif Swyddog Gweithredol Heidelberg Materials UK:
Roeddem yn falch iawn o groesawu Jo Stevens i Padeswood a chael y cyfle i arddangos ein cynlluniau ar gyfer y safle.
Bydd ein prosiect Dal a Storio Carbon, a gafodd ganiatâd cynllunio yn gynharach y mis hwn, yn dod â buddsoddiad a chyfleoedd sylweddol i’r rhanbarth, gan roi hwb i economi Gogledd Cymru a sicrhau dyfodol tymor hir cannoedd o swyddi medrus.
Unwaith y bydd yn weithredol, bydd hefyd yn darparu deunyddiau adeiladu sero net ar gyfer prosiectau mawr ledled y wlad, gan roi’r diwydiant adeiladu ar lwybr tuag at ddatgarboneiddio a helpu’r llywodraeth i gyrraedd ei thargedau sero net erbyn 2050.
Dywedodd Prif Weithredwr Enfinium, Mike Maudsley:
Pleser oedd croesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru i gyfleuster Parc Adfer yng Nglannau Dyfrdwy, i drafod ein cynlluniau i fuddsoddi yn y rhanbarth a helpu i dyfu’r economi werdd yng Ngogledd Cymru.
Er mwyn cyflawni sero net, mae angen i Gymru a’r DU ddod o hyd i ffordd o waredu carbon ar raddfa fawr. Drwy ddal carbon ym Mharc Adfer mae modd datgarboneiddio gwastraff nad oes modd ei ailgylchu yng Nghymru, a hefyd trawsnewid y safle i fod y prosiect gwaredu carbon mwyaf yng Nghymru.
Tra oedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn y gogledd, gwelodd hi’r busnesau arloesol yn sector gwyddorau bywyd yr ardal.
Mae Wockhardt UK Ltd yn is-gwmni i gwmni fferyllol byd-eang sydd â’i bencadlys Prydeinig yn Wrecsam. Mae gan y safle hefyd gyfleuster gweithgynhyrchu chwistrelladwy di-haint sydd wedi bod yn allweddol wrth gynhyrchu brechlyn COVID-19 Astra-Zeneca/Rhydychen.
Yn ystod ei hymweliad, aeth Jo Stevens ar daith o amgylch y labordai a’r ardaloedd gweithgynhyrchu, cwrdd â phrentisiaid, a thrafod y dylanwad y mae’r cwmni yn ei gael ar economi’r rhanbarth. Ailadroddodd ymrwymiad Llywodraeth y DU i gefnogi’r sector gwyddorau bywyd a sbarduno twf economaidd parhaus drwy fuddsoddi ac arloesi.
Yn ei hymweliad olaf, aeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Ipsen Biopharm, sef cwmni biofferyllol byd-eang sydd â chanolfan rhagoriaeth niwrowyddonol yn Wrecsam. Gwelodd eu gwaith yn datblygu ac yn cynhyrchu niwrodocsinau, sy’n cael eu defnyddio i drin pobl sy’n byw â chyflyrau niwrolegol.
Mae Ipsen wedi buddsoddi dros £100 miliwn yn ei safle yn Wrecsam dros y tair blynedd diwethaf, er mwyn ehangu ei waith ymchwil a datblygu yn ogystal â’i alluoedd gweithgynhyrchu. Mae’r safle’n defnyddio 100% o ynni adnewyddadwy ar draws ei unedau cynhyrchu ac ymchwil.
Dywedodd Rheolwr-gyfarwyddwr Wockhardt UK Ltd, Ravi Limaye:
Anrhydedd oedd croesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, i’n cyfleuster. Mae Wockhardt yn Wrecsam ers 21 o flynyddoedd ac mae wedi gweld y dref yn troi’n ddinas ac yn enwog ar lwyfan y byd.
Roedden ni’n rhan o’r gwaith o gynhyrchu’r brechlyn COVID ac rydym ni’n eithriadol o falch o’n staff ymroddedig a lwyddodd i wneud hyn er gwaethaf yr heriau na welwyd eu tebyg o’r blaen yn sgil y pandemig.
Dywedodd Jeannette Brend, Pennaeth Safle yn Ipsen yn Wrecsam:
Mae Ipsen yn Wrecsam sy’n creu cynnyrch sy’n cael ei allforio i gleifion mewn 90 a mwy o wledydd ledled y byd. Mae Wrecsam yn safle pwysig i Ipsen, ac rydym ni’n falch o fod yn gyflogwr o bwys yn y gymuned leol a buddsoddi yn yr ardal.
Rydym ni’n croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i gefnogi’r sector gwyddorau bywyd ac rydym ni’n gobeithio y bydd hyn yn parhau er mwyn i arloesedd barhau i ffynnu.”
Drwy gydol ei hymweliadau, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol fod Llywodraeth y DU yn blaenoriaethu twf economaidd ac ynni glân, gan bwysleisio mor bwysig yw buddsoddi mewn technolegau gwyrdd a gwyddorau bywyd i gefnogi datblygiadau yn y rhanbarth a chreu swyddi.
DIWEDD