Datganiad i'r wasg

Mae Gogledd Cymru yn 'allweddol' i dyfu economi Cymru meddai Ysgrifennydd Cymru

Mae Ysgrifennydd Cymru yn hyrwyddo gweithgynhyrchu uwch yng Ngogledd Cymru trwy gynnal bwrdd crwn ac ymweld â busnesau yn yr ardal.

Welsh Secretary Jo Stevens meeting staff on the factory floor at Toyota on Deeside.

  • Ysgrifennydd Cymru yn canu clodydd gweithgynhyrchu uwch yng ngogledd Cymru ac yn gweld â’i llygaid ei hun sut mae’r sector yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl.
  • Cenhadaeth twf economaidd Llywodraeth y DU yn cael ei gwireddu gyda Pharth Buddsoddi £160 miliwn yn Wrecsam a Sir y Fflint.
  • Mae’r buddsoddiad yn rhan o’r Cynllun ar gyfer Newid sy’n helpu i gyrraedd y garreg filltir o godi safonau byw i bobl sy’n gweithio.

Mewn cyfarfod ar safle Toyota ar Lannau Dyfrdwy, fe wnaeth Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ddatgan yn glir wrth arweinwyr busnes yng ngogledd Cymru y byddant yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o helpu i ddatblygu’r economi yng Nghymru. Dyma’r drafodaeth ddiweddaraf gydag arweinwyr ym maes gweithgynhyrchu uwch mewn cyfres o gyfarfodydd bwrdd crwn dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru fel rhan o’i hymgyrch i sicrhau twf economaidd i Gymru.

Yr wythnos diwethaf, roedd Ms Stevens wedi lansio Grŵp Cynghori Twf Economaidd Cymru, a chyfarfu hefyd ag arweinwyr o’r diwydiannau digidol a thechnolegol yng Nghymru. Yr wythnos flaenorol, cyfarfu â’r sector creadigol.

Mae’r grŵp hefyd yn gweithio gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru i lywio Strategaeth Ddiwydiannol newydd Llywodraeth y DU i roi hwb i ddiwydiannau allweddol Cymru, ac i lywio blaenoriaethau Cymru ar gyfer yr Adolygiad nesaf o Wariant. Mae disgwyl y ddau beth hyn yn ystod gwanwyn 2025.

Yng Nghyllideb yr Hydref, cadarnhaodd y Canghellor £320 miliwn o gyllid ar gyfer dau Barth Buddsoddi yng Nghymru. Caiff Parth Buddsoddi Wrecsam a Sir y Fflint ei gefnogi gan £160 miliwn o arian Llywodraeth y DU a fydd yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo cyfleoedd buddsoddi, creu swyddi ychwanegol, a sbarduno twf economaidd. 

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae fy ffocws ar dyfu’r economi yng Nghymru a sicrhau bod gan bobl fwy o arian yn eu pocedi. Mae’r sector gweithgynhyrchu uwch yng ngogledd Cymru yn sbardun allweddol ar gyfer twf.

Yr wythnos diwethaf, cyflwynodd y Prif Weinidog ein Cynllun ar gyfer Newid gyda chenhadaeth glir i roi hwb i’r economi a chodi safonau byw i bawb.

Mae fy ymrwymiad i fusnesau yng ngogledd Cymru yn ymrwymiad personol. Dyma lle cefais fy magu ac rwy’n gwybod pa mor bwysig yw hi i helpu i sicrhau twf a gwneud gwahaniaeth go iawn i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal hon.

Dywedodd Richard Finchett, Cyfarwyddwr Toyota Motor Manufacturing (UK) Ltd, Plant Glannau Dyfrdwy:

Ers i ni ddechrau cynhyrchu injans yng Nglannau Dyfrdwy fwy na 30 mlynedd yn ôl, mae Toyota wedi bod yn falch o gyfrannu at gymdeithas Cymru ac at gyflogaeth o safon uchel yn yr ardal hon.

Mae gweithgynhyrchu uwch gan gynnwys y sector modurol yn parhau i fod yn hanfodol ar gyfer economi ddeinamig gyda’i fuddsoddiadau cysylltiedig mewn pobl, cynhyrchu sgiliau a’r gymuned ehangach. Mae Cyfarfod Ford Gron Llywodraeth y DU heddiw a gynhaliwyd yn Toyota Glannau Dyfrdwy yn gam pwysig yn y ddeialog barhaus rhwng busnes a’r llywodraeth ynghylch ein huchelgeisiau cyffredin ar gyfer twf economaidd, ffyniant cenedlaethol ac arweinyddiaeth garbon isel ledled Cymru.

Dywedodd John Whalley, Prif Weithredwr Awyrofod Cymru:

Dwi’n falch iawn bod y Prif Weinidog, ar ei ymweliad diweddar ag Airbus ym Mrychdyn, wedi cadarnhau buddsoddiad gwerth £975 miliwn gan Lywodraeth y DU yn y sector awyrofod. A dwi’n falch o’r arwyddion cynnar o gydweithio agos â Llywodraeth Cymru yn ogystal â’r datganiad o fwriad ym mhapur gwyrdd y Strategaeth Ddiwydiannol. Mae’r sectorau awyrofod a gofod yn edrych ymlaen at gydweithio ffrwythlon rhwng y ddwy lywodraeth a’r diwydiant gan arwain at fwy o ffyniant i bobl Cymru.

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion

Mynychwyr y cyfarfod bwrdd crwn Gweithgynhyrchu Uwch:

  • Richard Finchett, Cyfarwyddwr, Toyota Manufacturing UK Glannau Dyfrdwy
  • Helen Swift, Rheolwr Materion Cyhoeddus, Airbus
  • John Whalley, Prif Weithredwr, Awyrofod Cymru
  • Rachael Blackburn, Cyfarwyddwr, Awyrofod Cymru
  • Jackie Pearson, Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol, Shotton Mill Limited
  • David Chapman, Cyfarwyddwr Rhaglenni, Triumph
  • David Randall, Cyfarwyddwr Peirianneg, Magellan Aerospace

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 13 Rhagfyr 2024