Rhybudd i weithwyr proffesiynol cyfreithiol pan fyddant yn cyflwyno ceisiadau i’r Swyddfa Apeliadau Troseddol
Nodyn i atgoffa gweithwyr proffesiynol cyfreithiol i ddilyn y weithdrefn gywir ar gyfer cyflwyno apeliadau yn uniongyrchol
Daeth newidiadau i ran 39 o’r Rheolau Trefniadaeth Droseddol i rym ar y 1af o Hydref 2018. O ganlyniad i’r newidiadau hyn, dylid cyflwyno apeliadau yn erbyn collfarn, dedfryd neu atafaeliad yn uniongyrchol i’r Swyddfa Apeliadau Troseddol ac nid Llys y Goron. At hynny, mae angen Ffurflen NG ar wahân ar gyfer pob math o gais.
Yn dilyn y newidiadau, mae llawer o weithwyr proffesiynol cyfreithiol wedi mabwysiadu’r weithdrefn newydd ond mae rhai ceisiadau yn dal i gael eu cyflwyno ar ffurflenni anghywir (yr hen rai). Ni all y Swyddfa Apeliadau Troseddol dderbyn y ceisiadau hyn a gall hynny arwain at oedi.
Er mwyn lleihau nifer y ffurflenni anghywir, rydym yn atgoffa pawb i wneud yn siŵr eu bod yn dilyn Rhan 39 o’r Rheolau Trefniadaeth Droseddol fel y’i diweddarwyd.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 January 2020 + show all updates
-
Added translation
-
First published.