Nawr yw’r amser i gyflawni a sicrhau canlyniadau: Ysgrifennydd Cymru yn ymateb i Ystadegau’r Farchnad Lafur
Heddiw [14eg Rhagfyr] dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, bod y darlun o ffyniant economi Cymru yn dal i fod yn gymysg iawn.…
Heddiw [14eg Rhagfyr] dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, bod y darlun o ffyniant economi Cymru yn dal i fod yn gymysg iawn.
Roedd ffigurau a gafodd eu cyhoeddi heddiw yn dangos bod yr ystadegau Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYC) blynyddol yn dangos bod lefelau ffyniant wedi tyfu’n gyflymach yng Nghymru nag yn unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig y llynedd.
Ond yn y chwarter diwethaf, fe wnaeth Ystadegau’r Farchnad Lafur, a gafodd eu cyhoeddi heddiw, ddangos cynnydd yn y gyfradd cyflogaeth yn ogystal a chynnydd mewn diweithdra.
Dywedodd Mrs Gillan fod y newyddion yn ailddatgan pa mor bwysig yw hi i Weinidogion Llywodraeth Cymru weithio gyda’u cyd-Weinidogion yn Llywodraeth y DU er mwyn gwneud y gorau o’r potensial ar gyfer twf economaidd yng Nghymru.
Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos mai 67.8% oedd y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru, sef cynnydd o 0.1% ar y chwarter diwethaf. Roedd 25.4% yn economaidd anweithgar (cwymp o 0.6%), a 5.5% yn hawlio budd-daliadau. Roedd yr ystadegau hefyd yn dangos bod canran y bobl ddi-waith wedi codi 0.7%, wrth i lefel y bobl ifanc sy’n hawlio budd-daliadau diweithdra godi 3,400 ym mis Tachwedd 2010.
Dywedodd Mrs Gillan: “Mae’n siomedig iawn bod y lefel diweithdra yn parhau i godi yng Nghymru. Fodd bynnag, mae newyddion gwell, gan fod cwymp bach wedi bod yn nifer y bobl sy’n hawlio Lwfans Chwilio am Waith, yn ogystal a chwymp yn nifer y rhai sy’n economaidd anweithgar.
“Mae’r wybodaeth GYC a gafodd ei rhyddhau heddiw yn galonogol hefyd. Mae’r wybodaeth yn dangos bod GYC Cymru wedi tyfu’n gyflymach na rhannau eraill y DU ym mlwyddyn gyntaf y Llywodraeth hon, gyda chynnydd mewn GYC y pen o 3.3. y cant yn 2010. Ymddengys bod ein hymdrechion i adfer cydbwysedd economi y DU yn llwyddiannus, er bod Cymru’n parhau i fod a’r GYC isaf yn y DU, a hynny er 1998. Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ein holl ymdrechion - oddi mewn i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru - ar newid hynny.
“Mae Llywodraeth Cymru yn cael £238m yn fwy o ganlyniad i ddatganiad yr Hydref, arian sy’n ychwanegol at y £60m a gawsant yn y Gyllideb a thua £15b o grant bloc blynyddol y mae Gweinidogion yng Nghaerdydd yn ei gael gan y Trysorlys a Chronfeydd Strwythurol Ewrop. Yn fwy nag erioed, nawr yw’r amser i gyflawni a sicrhau canlyniadau, a bydd pobl Cymru am weld llai o siarad a mwy o weithredu, er mwyn sicrhau bod Cymru ar y blaen o ran twf a swyddi.
“Rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, mae llu o fesurau ar waith er mwyn mynd i’r afael a’r diffyg, yn ogystal a hybu cyfleoedd twf ledled y wlad, ond mae gwaith mawr i’w wneud o hyd.”