Nifer yr aelwydydd heb waith yng Nghymru yn gostwng
Gwelwyd gostyngiad yn nifer yr aelwydydd heb neb yn gweithio ym mhob un ond pedwar o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru rhwng 2012 a 2013.
Yn ôl dadansoddiad a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, gwelwyd y gostyngiadau mwyaf yng nghanran yr aelwydydd heb waith yng Nghaerdydd, Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot; a Chasnewydd, Ynys Môn, Blaenau Gwent a Thorfaen oedd yr unig ardaloedd lle gwelwyd cynnydd.
Mae’r dadansoddiad hwn yn ymwneud â chyfnod lle’r oedd 188,000 o aelwydydd heb waith yng Nghymru; fodd bynnag, roedd ystadegau diweddarach a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn dangos bod nifer yr “aelwydydd heb waith” yng Nghymru wedi gostwng 43,000 er Mehefin 2010, i 183,000 erbyn mis Mehefin eleni.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae creu swyddi a rhoi boddhad i bobl o ennill cyflog rheolaidd yn rhan o’n cynllun economaidd hirdymor ar gyfer Cymru. Mae ffigurau’r wythnos diwethaf yn dangos bod ein cynllun yn gweithio, ond yr hyn sy’n wir fesur o lwyddiant yw’r ffaith fod hyn yn digwydd ar hyd a lled y wlad. Er bod rhai ardaloedd lle mae’n rhaid i ni wneud mwy, mae’r dadansoddiad o 2013 yn galonogol iawn.
Darllenwch yr ystadegau diweddaraf yma