Datganiad i'r wasg

Data Tueddiadau'r Farchnad mis Hydref 2015

Data Tueddiadau'r Farchnad y Gofrestrfa Tir ar gyfer prisiau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr.

House price heatmap

Mae data mis Hydref yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 5.6 y cant sy’n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £186,350. Mae prisiau tai misol wedi codi 0.4 y cant oddi ar fis Medi 2015.

Mae’r data rhanbarthol yn dangos mai:

  • Llundain welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf gyda symudiad o 10.6%
  • yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr gwelwyd y cynnydd misol mwyaf gyda chynnydd o 1.9%
  • Swydd Gaerefrog a’r Humber welodd y twf prisiau blynyddol isaf gyda chynnydd o 1.4%
  • Swydd Gaerefrog a’r Humber welodd y gostyngiad prisiau misol mwyaf arwyddocaol hefyd gyda gostyngiad o 1.8%

Mae’r ffigurau mwyaf cyfredol ar gyfer gwerthiannau ac adfeddiannau yn ystod mis Awst 2015 yn dangos:

  • i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ostwng 15% i 74,596 o’i gymharu ag 87,895 ym mis Awst 2014
  • y bu gostyngiad o 13 y cant yn nifer yr eiddo a werthwyd am fwy nag £1 filiwn yng Nghymru a Lloegr i 1,280 o 1,473 flwyddyn yn gynharach
  • i niferoedd yr adfeddiannau yng Nghymru a Lloegr ostwng 54% i 376 o’i gymharu ag 826 ym mis Awst 2014
  • y rhanbarth welodd y gostyngiad mwyaf mewn adfeddiannau oedd Swydd Gaerefrog a’r Humber

Mynediad i adroddiad llawn y Mynegai ar gyfer mis Hydref.

Rhanbarth Newid misol oddi ar fis Medi 2015 Newid blynyddol oddi ar fis Hydref 2014 Pris cyfartalog Hydref 2015
Gogledd Ddwyrain Lloegr 1.9% 2.9% £100,393
Llundain 1.8% 10.6% £503,431
Dwyrain Lloegr 1.2% 8.0% £212,881
Dwyrain Canolbarth Lloegr 1.2% 4.8% £137,823
De Ddwyrain Lloegr 1.0% 8.3% £257,818
De Orllewin Lloegr 0.6% 5.3% £194,827
Cymru 0.6% 3.3% £121,854
Cymru a Lloegr 0.4% 5.6% £186,350
Gogledd Orllewin Lloegr 0.2% 3.2% £115,835
Gorllewin Canolbarth Lloegr -0.4% 4.0% £141,362
Swydd Gaerefrog a’r Humber -1.8% 1.4% £122,058

Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo 2015 i 2014

Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) Hydref 2015 Hydref 2014 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £290,487 £278,017 4.5%
Tŷ pâr £175,829 £166,659 5.5%
Tŷ teras £141,002 £133,396 5.7%
Fflat/Fflat deulawr £179,378 £168,329 6.6%
Holl £186,350 £176,494 5.6%

Nifer y gwerthiannau 2014 i 2013

Mis Gwerthiannau 2014 Cymru a Lloegr Gwerthiannau 2013 Cymru a Lloegr Gwahaniaeth
Ionawr 65,221 43,414 50%
Chwefror 65,040 45,293 44%
Mawrth 67,368 54,757 23%
Ebrill 70,293 51,071 38%
Mai 77,535 66,384 17%
Mehefin 80,856 66,187 22%
Gorffennaf 84,707 73,765 15%
Awst 87,895 79,519 11%
Medi 78,859 69,747 13%
Hydref 86,374 76,698 13%
Tachwedd 73,158 82,885 -12%
Rhagfyr 77,955 79,644 -2%
Cyfanswm 915,261 789,364 16%

Nifer y gwerthiannau 2015 i 2014

Mis Gwerthiannau 2015 Cymru a Lloegr Gwerthiannau 2014 Cymru a Lloegr Gwahaniaeth
Ionawr 56,713 65,221 -13%
Chwefror 57,795 65,040 -11%
Mawrth 65,084 67,368 -3%
Ebrill 61,995 70,293 -12%
Mai 71,039 77,535 -8%
Mehefin 77,719 80,856 -4%
Gorffennaf 84,828 84,707 0%
Awst 74,596 87,895 -15%

Adfeddiannau fesul rhanbarth 2015 i 2014

Adfeddiannau fesul rhanbarth Awst 2015 Awst 2014 Gwahaniaeth
Dwyrain Lloegr 29 59 -51%
Dwyrain Canolbarth Lloegr 31 75 -59%
Llundain 28 66 -58%
Gogledd Ddwyrain Lloegr 17 33 -48%
Gogledd Orllewin Lloegr 102 196 -48%
De Ddwyrain Lloegr 32 82 -61%
De Orllewin Lloegr 26 50 -48%
Cymru 36 72 -50%
Gorllewin Canolbarth Lloegr 33 80 -59%
Swydd Gaerefrog a’r Humber 42 113 -63%
Holl 376 826 -54%

Mae Data Pris a Dalwyd yn cynnwys manylion dros 95,300 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i’w cofrestru ym mis Hydref 2015.

Yn Belgravia, Llundain SW1 cafwyd y gwerthiant drutaf yn ystod mis Hydref 2015 (£21,475,000). Roedd y gwerthiant rhataf yn ystod mis Hydref 2015 ym Middlesbrough, Gogledd Swydd Gaerefrog (£10,000).

Mynediad i’r set lawn o ddata

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir Data Tueddiadau’r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir y Mynegai Prisiau Tai ar gyfer mis Tachwedd am 9.30 y bore ar ddydd Mercher 30 Rhagfyr 2015. Cyhoeddir y Data Pris a Dalwyd am 11 y bore ar yr un diwrnod.

  2. Mae calendr gyda dyddiadau rhyddhau y prif ffigur a’r Mynegai llawn ar gael.

  3. Mae’r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy’n fwy na’r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae’n cael ei gyfrifo ar sail set ddata’r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995 yn amodol ar eithrio.

  4. Mae set ddata’r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am dros 20 miliwn o drafodion preswyl. O’r rhain mae dros 7 miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy’n darparu’r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio’r mynegai. Mae’r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.

  5. Mae’r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.

  6. Mae’r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i’r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy’n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi’r trafodion hyn, rydym yn tynnu’r wybodaeth pris a dalwyd o’r cofnod perthnasol yn y gofrestr.

  7. Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau’n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006. Gweler data adfeddiannau i gael rhagor o wybodaeth.

  8. Mae tablau cefndir y Mynegai ar gael fel Data Agored ar ffurf Excel a CSV ac mewn ffurf y gellir ei darllen gan beiriant fel data cysylltiedig. Maent ar gael i’w defnyddio a’i hail-ddefnyddio am ddim o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA).

  9. Mae Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i’w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae’r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo: * y cyfeiriad llawn * y pris a dalwyd * dyddiad y trosglwyddiad * y math o eiddo * ai adeilad newydd yw’r eiddo ai peidio * ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw’r eiddo

  10. Gellir llwytho Data Pris a Dalwyd i lawr am ddim ar ffurf txt, csv ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig. Mae ar gael i unrhyw un ei archwilio neu ei ail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.

  11. Mae Data Pris a Dalwyd yn cynnwys Data Pris a Dalwyd Safonol (DPDS) ar gyfer gwerthiannau eiddo preswyl unigol am bris llawn y farchnad a Data Pris a Dalwyd Ychwanegol (DPDY) ar gyfer trafodion a eithriwyd cyn hynny o’r DPDS megis: * trosglwyddiadau i unigolyn nad yw’n unigolyn preifat, er enghraifft cwmni, corff corfforaethol neu fusnes * trosglwyddiadau o dan bŵer gwerthu (adfeddiannau) * trafodion prynu i osod (lle y gellir eu hadnabod gan forgais) Bydd y wybodaeth sydd ar gael ar gyfer pob eiddo yn nodi a yw’n DPDY neu’n DPDS a statws y cofnod – ychwanegiad/newid/dilead (A/C/D).

  12. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir wedi bod ar agor i’r cyhoedd ei harchwilio oddi ar 1990.

  13. Gyda’r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o’r fath gyda manylion mwy na 24 miliwn o deitlau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cefnogi’r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy’n werth biliynau o bunnoedd.

  14. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.gov.uk/land-registry

  15. Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov a @CofrestrfaTir, ein blog, LinkedIn a Facebook

Cysylltu

Swyddfa'r wasg

Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ

E-bost HMLRPressOffice@landregistry.gov.uk

Ffôn (dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am a 5.30pm) 0300 006 3565

Symudol (5.30pm a 8.30am) 07864 689 344

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 November 2015