Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn penodi Cadeirydd anweithredol newydd i’r Bwrdd
Mae Alison Sansome wedi ei phenodi yn Gadeirydd anweithredol i’r Bwrdd ar gyfer Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Mae Alison Sansome wedi cael ei phenodi yn Gadeirydd anweithredol newydd i’r Bwrdd ar gyfer Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Yn ei rôl, bydd Alison yn arwain y Bwrdd, yn hwyluso cyfarfodydd y Bwrdd ac yn helpu i lywio penderfyniadau, gan ddefnyddio ei gwybodaeth a’i harbenigedd i ddarparu cyngor adeiladol a chraffu annibynnol.
Uwch-ffigyrau allanol yw aelodau anweithredol, sy’n cynghori, yn cefnogi ac yn herio’r llywodraeth yn annibynnol, mewn cysylltiad â gweithredu polisïau, cyflawni gweithredol a chyfeiriad strategol.
Mae Cadeirydd anweithredol y Bwrdd yn cwrdd yn rheolaidd â’r Prif Weithredwr i bwyso a mesur cyfeiriad y sefydliad a rôl y bwrdd o ran cefnogi a herio’r tîm gweithredol. Mae gan Alison brofiad helaeth o fod yn rhan o fyrddau, pwyllgorau a thribiwnlysoedd mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys cyfiawnder, iechyd, amddiffyn, gwasanaethau brys a thechnoleg gwybodaeth. Ar hyn o bryd mae ganddi nifer o rolau yn ei phortffolio anweithredol, gan gynnwys Is-gadeirydd y Bwrdd Safonau Tân ac Aelod o Fwrdd y Swyddfa Cwynion Cyfreithiol. Mae Alison hefyd wedi dal sawl rôl yn yr Uwch Wasanaeth Sifil – yn y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Wrth sôn am benodiad Alison, dywedodd y Gwarcheidwad Cyhoeddus a’r Prif Weithredwr Amy Holmes:
“Rydyn ni’n falch iawn bod Alison yn ymuno â Bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae gan Alison gyfoeth o wybodaeth a phrofiad, gan gynnwys cyfnod yn y Gwasanaeth Sifil. Mae’r Bwrdd yn croesawu ei harbenigedd a bydd yn allweddol wrth greu effaith gadarnhaol i’n cwsmeriaid.”