Blwyddyn tan i gynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm lansio
Bydd y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn dechrau ym mis Ebrill 2026 ar gyfer unig fasnachwyr a landlordiaid sydd ag incwm cymhwysol dros £50,000.

- Mae’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn mynd yn fyw ar 6 Ebrill 2026 – sy’n cefnogi Cynllun Newid y llywodraeth i gyflawni twf economaidd
- Mae trethdalwyr cymwys wedi’u hannog i gofrestru ar gyfer rhaglen brawf nawr i fynd ymlaen â’r newidiadau
- Bydd cadw cofnodion digidol yn arbed amser i drethdalwyr
Mae llai na blwyddyn i fynd nes y bydd yn ofynnol i unig fasnachwyr a landlordiaid sydd ag incwm dros £50,000 ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol (MTD) ar gyfer Treth Incwm.
Mae’r lansiad ar 6 Ebrill 2026 yn nodi newid sylweddol ac yn y pen draw yn arbed amser yn y ffordd y bydd angen i’r unigolion hyn gadw cofnodion digidol ac adrodd eu hincwm i Gyllid a Thollau EF (CThEF).
Trwy gadw cofnodion digidol drwy gydol y flwyddyn, gall unig fasnachwyr a landlordiaid arbed oriau a dreuliwyd yn casglu gwybodaeth yn ystod amser cyflwyno’r Ffurflen Dreth – gan ganiatáu iddynt dreulio mwy o amser yn canolbwyntio ar eu gweithgareddau busnes ac yn eu tro, gyrru twf economaidd fel rhan o’n Cynllun Newid.
Bydd diweddariadau chwarterol yn lledaenu’r llwyth gwaith yn fwy cyfartal drwy gydol y flwyddyn, yn dod â’r system dreth yn agosach at adrodd amser real ac yn helpu busnesau i aros ar ben eu cyllid ac osgoi’r rhuthro munud olaf.
Mae CThEF yn annog cwsmeriaid cymwys i gofrestru ar gyfer rhaglen brawf ar GOV.UK a dechrau paratoi nawr. Gall asiantau hefyd gofrestru eu cleientiaid drwy GOV.UK.
Meddai James Murray AS, Ysgrifennydd Siecr y Trysorlys:
Mae’r cynllun MTD ar gyfer Treth Incwm yn rhan hanfodol o’n cynllun i drawsnewid system dreth y DU yn un sy’n cefnogi twf economaidd.
Trwy foderneiddio sut mae pobl yn rheoli eu treth, rydym yn helpu busnesau i weithio’n fwy effeithlon a chynhyrchiol wrth sicrhau bod pawb yn talu eu cyfran deg.
Mae hwn yn gam hanfodol i’r llywodraeth hon wrth iddi fynd ati i gyflawni ei rhaglen degawd o adnewyddu cenedlaethol a’n Cynllun Newid, a hynny wrth i ni gael gwared ar rwystrau sy’n dal twf yn ôl.
Meddai Craig Ogilvie, Cyfarwyddwr Troi Treth yn Ddigidol, CThEF:
Y newid mwyaf sylweddol i’r gyfundrefn Hunanasesiad ers ei chyflwyniad ym 1997 yw’r cynllun MTD ar gyfer Treth Incwm. Bydd yn ei gwneud hi’n haws i bobl hunangyflogedig a landlordiaid gadw ar ben eu materion treth ac yn helpu i sicrhau eu bod yn talu’r swm cywir o dreth.
Trwy gofrestru ar ein rhaglen brawf nawr, bydd pobl hunangyflogedig a landlordiaid yn gallu ymgyfarwyddo â’r broses newydd a chael mynediad at gymorth penodedig gan ein Tîm Cymorth i Gwsmeriaid MTD, cyn iddo ddod yn orfodol y flwyddyn nesaf.
O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd angen i unigolion sydd ag incwm cymhwysol dros £50,000 gadw cofnodion digidol, defnyddio meddalwedd sy’n cydweddu â MTD a chyflwyno crynodebau chwarterol o’u hincwm a’u treuliau i CThEF. Bydd y gofynion digidol hyn yn helpu busnesau i arbed amser drwy gadw cofnodion mwy effeithlon, lleihau gwallau mewn cyfrifiadau treth, a darparu darlun cliriach o’u rhwymedigaethau treth drwy gydol y flwyddyn.
Mae incwm cymhwysol yn cynnwys incwm gros o hunangyflogaeth ac eiddo cyn i unrhyw lwfansau treth neu dreuliau gael eu didynnu. Bydd yn ofynnol i’r rhai sydd ag incwm cymhwysol dros £30,000 hefyd ddefnyddio’r cynllun MTD ar gyfer Treth Incwm o fis Ebrill 2027 ymlaen. Bydd y trothwy wedyn yn gostwng i £20,000 o fis Ebrill 2028.
Mae cyflwyno’r cynllun MTD ar gyfer Treth Incwm yn dilyn gweithrediad llwyddiannus MTD ar gyfer TAW, sydd bellach yn helpu mwy na dwy filiwn o fusnesau i leihau gwallau ac arbed amser ar eu materion treth. Roedd busnesau a ymunodd â’r cyfnod profi MTD ar gyfer TAW yn fwy parod ar gyfer y symud i adrodd chwarterol.
Roedd yr adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd yn 2021 wedi canfod fod 69% o fusnesau gorfodol wedi gweld o leiaf un budd o’r cynllun MTD ar gyfer TAW, tra bod 67% yn nodi ei fod yn lleihau’r potensial am gamgymeriadau yn eu cadw cofnodion.
Rhagor o wybodaeth
Cyflwynwyd y cynllun MTD gyntaf ar gyfer busnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW ym mis Ebrill 2019, gyda’n ofynnol i bob busnes cymwys ymuno o fis Ebrill 2022 ymlaen.
Ni fydd cosbau ar gyfer diweddariadau chwarterol hwyr yn berthnasol yn ystod y cyfnod profi, gan roi cyfle delfrydol i ddod i arfer â’r broses newydd, heb risg.
Bydd yn ofynnol i oddeutu 780,000 o unigolion a landlordiaid hunangyflogedig ddefnyddio’r cynllun MTD ar gyfer Treth Incwm o fis Ebrill 2026 ymlaen, gyda 970,000 arall yn ymuno o fis Ebrill 2027.
Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun MTD ar gyfer Treth Incwm ar gael ar: https://www.gov.uk/guidance/check-if-youre-eligible-for-making-tax-digital-for-income-tax.cy
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ddod o hyd i feddalwedd sy’n cydweddu ar gael ar: www.gov.uk/guidance/find-software-thats-compatible-with-making-tax-digital-for-income-tax.cy