OPG yn penodi cyfarwyddwr anweithredol newydd, Veronika Neyer
Penodi Veronika Neyer yn gyfarwyddwr anweithredol gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Mae Veronika Neyer wedi ei phenodi yn gyfarwyddwr anweithredol gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Mae cyfarwyddwyr anweithredol yn uwch unigolion o’r tu allan i’r llywodraeth, ac maen nhw’n cael eu penodi i herio adrannau ac asiantaethau gweithredol. Eu rôl yw gwneud y canlynol:
- rhoi cyngor i weinidogion a swyddogion ar oblygiadau cynigion polisi yng nghyd-destun gweithredu a chyflawni
- darparu cefnogaeth, arweiniad a her annibynnol ar gynnydd a gweithrediad cyfeiriad strategol y sefydliad
- cynghori ar berfformiad a monitro gweithrediad cynlluniau busnes
Fel rhan o’i gwaith bydd Veronika yn cael ei gwneud yn aelod o Fwrdd y Swyddfa Gwarcheidwad Cyhoeddus, ac yn aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.
Mae gan Veronika dros 20 mlynedd o brofiad fel uwch arweinydd. Mae ei phrofiad yn cynnwys arwain ar wasanaethau Cymdeithas y Plant a Barnardo’s, yn ogystal â bod yn gyfrifol am bolisi diogelu, iechyd a diogelwch a rheoli risg gyda’r Cadetiaid Môr.
Dywedodd Amy Holmes, Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Swyddog Gweithredol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus: “Mae Veronika yn eiriolwr brwdfrydig dros amrywiaeth a chynhwysiant, ac mae hi wedi treulio ei gyrfa yn ceisio gwella canlyniadau i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.
“Rydym ni’n falch iawn bod Veronika wedi ymuno â’n bwrdd. Bydd ei hymroddiad i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau bregus yn werthfawr iawn.”