Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynghylch rhoi Organau yn mynd rhagddo i’r broses craffu cyn deddfu
Heddiw [dydd Llun 10 Ionawr], cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, y bydd y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynghylch Rhoi…
![](https://assets.publishing.service.gov.uk/media/5a37dabaed915d5a5f965fd7/s300_UKG_Logo__2_.png)
Heddiw [dydd Llun 10 Ionawr], cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, y bydd y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynghylch Rhoi Organau yn mynd rhagddo i’r broses craffu cyn deddfu yn y Senedd.
Dywedodd Mrs Gillan: “Rwy’n falch fy mod yn cyflwyno’r LCO hwn i’r broses craffu cyn deddfu. Mae’n hollbwysig archwilio’r mater sensitif hwn yn drylwyr yn y Cynulliad ac yn San Steffan.
“Mae craffu cyn deddfu yn rhan arwyddocaol o’r broses LCO, gan ganiatau i Aelodau’r Cynulliad ac ASau archwilio’r materion a godir yn y cais hwn yn drylwyr, a chynnig safbwynt o ran p’un ai a fyddai’n addas datganoli’r pwerau ai peidio.
“Roeddwn yn falch o roi gwybod i Brif Weinidog Cymru bod hwyluso’r cais hwn yn profi bod Swyddfa Cymru yn cyflawni ei ymrwymiad i barhau i weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru.”
Nodiadau
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd wedi cyflwyno’r LCO arfaethedig i’r broses craffu cyn deddfu yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ceisio pwerau i gyflwyno system caniatad tybiedig ar gyfer rhoi organau yng Nghymru.