Datganiad i'r wasg

Mae dros chwarter o fodurwyr y DU yn enwi eu ceir, yn ôl ymchwil newydd

Mae ymchwil gan DVLA yn dangos bod dros chwarter o fodurwyr y DU wedi enwi eu ceir, gyda 28% o’r rhai hynny a holwyd yn dweud eu bod wedi rhoi enw i’w car.

Roedd ‘Boris’, ‘Dave’, ‘Henry’, ‘Herby’ a ‘Bumble’ yn ddewisiadau poblogaidd, gyda’r canran mwyaf o’r rhai hynny sydd wedi enwi eu ceir yn dod o Ddwyrain Canolbarth Lloegr (28%). Roedd y canran lleiaf yn dod o Ogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru (1%, 3% a 6% yn y drefn honno).

Roedd menywod bron dwywaith yn fwy tebygol o roi enw i’w car na dynion (65% a 35% yn y drefn honno), gyda’r mwyafrif o bobl a ddywedodd eu bod yn enwi eu ceir rhwng 55 a 64 oed (41% o fewn y grŵp oedran hwn yn dweud eu bod yn rhoi enw i’w car).

Y gwneuthuriad, model, lliw a ‘golwg cyffredinol’ y car oedd y rhesymau cyffredinol a roddwyd am y dewis enw, gyda’r gwneuthuriadau o gerbydau Ford, Vauxhall, Toyota, BMW a Hyundai y rhai mwyaf aml a oedd yn cael eu henwi.

Gyda 87% yn dweud eu bod wedi prynu rhif cofrestru personol i gyd-fynd ȃ’r enw maent wedi eu rhoi i’w car, gallai hwn esbonio rhai o’r rhifau cofrestru personol mwyaf rhyfedd a welir ar geir.

Dywedodd Jody Davies, rheolwr arwerthiant Cofrestru Personol DVLA:

Rydym wedi gwerthu DOR 1S, DAV 3S, HEN 2Y a HER 81E yn y gorffennol, a hefyd rhifau cofrestru personol ble y mae’r ystyr ac arwyddocâd yn ymddangos yn llai amlwg. Nid yw’n annisgwyl gwybod bod pobl am ddweud rhywbeth am eu ceir yn y modd hwn – p’un ai bod yr enw yn rhywbeth personol iddynt neu’n ychydig o hwyl eu bod am rannu gydag eraill.

Gall rhifau cofrestru personol gael eu gwerthu mewn ocsiwn am symiau amrywiol – ac weithiau’n uchel iawn - o arian, ond ar-lein maent yn dechrau o £250 felly gall cael y rhif cofrestru personol delfrydol ar gyfer eich car yn llai drud nag oeddech yn ei feddwl.

Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf 2017 i 2018, roedd gwerthiant rhifau cofrestru personol gan DVLA wedi codi dros £160 miliwn ar gyfer Drysorlys Ei Mawrhydi. Gyda thua 50 miliwn o rifau cofrestru personol ar werth ar wefan DVLA, gall modurwyr gweld os yw enwau eu ceir ar gael drwy ychydig o gliciau.

Nodiadau i olygyddion

Mae’r rhifau cofrestru personol a gyfeiriwyd atynt yn y testun wedi eu gwerthu gan DVLA mewn ocsiwn fel a ganlyn:

  • DOR 1S - £6,800 Medi 1990
  • DAV 3S - £9,100 Medi 1999
  • HEN 2Y - £6,300 Mehefin 2005
  • HER 81E - £700 Ionawr 2003

Nid yw’r prisiau a dyfynnwyd uchod yn cynnwys TAW ar y ‘pris morthwyl’ a restrir; premiwm y prynwr (+TAW) a ffi aseinio DVLA.

Ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017 i 2018, roedd gwerthiant rhifau cofrestru personol gan DVLA wedi cynhyrchu refeniw o £161,902,560 i Drysorlys Ei Mawrhydi, gan gynnwys TAW a ffioedd aseinio.

Roedd yr enwau ag ymddangosodd mwy nag unwaith yn cynnwys:

  • The Beast
  • Betsy
  • Bertie
  • Bumble
  • Dave
  • Doris
  • Henry
  • Herb / Herbie
  • Landy
  • Sparky

Mae’r rhif cofrestru personol sydd yn y llun, BR17 NEY ar gael i’w werthu yn yr ocsiwn byw DVLA nesaf, sydd yng Ngwesty Oxford Belfry, Milton Common ar 18, 19 a 20 Gorffennaf 2018, gyda phris wrth gefn o £700.

Mae’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn seiliedig ar ymatebion i arolwg DVLA.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 29 June 2018