PecynUK – lansio gweinyddwr newydd cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros Becynwaith
PecynUK – lansio gweinyddwr newydd cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros Becynwaith heddiw

Mae PecynUK – gweinyddwr cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros Becynwaith – yn lansio’n ffurfiol heddiw. PecynUK fydd yn gweithredu rhaglen newydd y Deyrnas Unedig, Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros Becynwaith (pEPR). Daeth Offeryn Statudol EPR i rym ar 1 Ionawr ac mae sefydlu PecynUK fel gweinyddwr y cynllun yn rhan allweddol.
Buddsoddi mewn Gwasanaethau Ailgylchu Lleol Effeithlon ac Effeithiol
Bydd PecynUK yn symud cost rheoli gwastraff pecynwaith cartref oddi wrth y trethdalwyr a’r awdurdodau lleol i’r busnesau hynny sy’n defnyddio ac yn cyflenwi’r pecynwaith, gan ddefnyddio’r egwyddor mae’r ‘llygrwr sy’n talu’. Yn ei dro, bydd hyn yn hybu buddsoddiad mewn gwasanaethau ailgylchu lleol: ochr yn ochr â Simpler Recycling yn Lloegr a’r Cynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd, bydd y diwygiadau pecynwaith yn ysgogi buddsoddiad o amcangyfrif o £10 biliwn mewn gwasanaethau ailgylchu ledled y Deyrnas Unedig dros y 10 mlynedd nesaf, ac yn Lloegr yn unig, yn cefnogi hyd at 21,000 o swyddi newydd.
Bydd PecynUK yn gosod ffioedd pEPR, yn codi’r ffioedd hyn oddi wrth y cynhyrchwyr sydd dan rwymedigaeth ac yn gwneud taliadau gwaredu gwastraff pecynwaith i’r awdurdodau lleol yn gyfnewid am ddarparu gwasanaethau casglu ac ailgylchu effeithlon ac effeithiol. Wrth wneud hyn, bydd yn darparu cynllun sy’n dangos gwerth am arian i’r cynhyrchwyr ac i ddinasyddion. Bydd PecynUK hefyd yn gyfrifol am ymgyrchoedd cyfathrebu a gwybodaeth cyhoeddus i annog dinasyddion i waredu gwastraff pecynwaith yn gywir a pheidio â thaflu eu pecynwaith fel sbwriel.
Cyflawni gyda Busnes
Mae PecynUK yn cael ei chynnal gan Defra, ac yn cyflawni ar ran pedair gwlad y Deyrnas Unedig. Heblaw yng Nghymru, cyfeirir ato fel PackUK. Mae ei ddyluniad a’r broses sefydlu wedi’u goruchwylio gan grŵp llywio dan arweiniad y diwydiant, dan gadeiryddiaeth Sebastian Munden (cyn brif weithredwr Unilever UK & Ireland).
Bydd PecynUK yn parhau i weithio gyda chynhyrchwyr pecynwaith i edrych ar ffyrdd i wella rôl busnesau ar draws darpariaeth pEPR, gan gynnwys penodi Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (PRO) newydd.
Rydyn ni wedi sefydlu proses gyd-ddylunio i symud y PRO yn ei flaen, gan gynnwys aelodau o Grŵp Llywio PRO sydd wedi’i gynnull gan y Ffederasiwn Bwyd a Diod (FDF) yn ogystal ag awdurdodau lleol a chynrychiolwyr eraill o bob rhan o’r gadwyn werth. Byddwn yn gweithredu ar argymhellion y grŵp hwn, i gynyddu ymwneud y gadwyn werth i’r eithaf a darparu llywodraethiant cadarn ar gyfer PecynUK yr un pryd.
Pontio i economi cylchol
Mae gweithredu’r cynllun pEPR yn gam hanfodol tuag at greu economi cylchol. Bydd yn moderneiddio dull y Deyrnas Unedig o drin pecynwaith a gwastraff pecynwaith ac yn gweithredu’r arferion gorau rhyngwladol sydd wedi ennill eu plwyf. Gyda’i gilydd, bydd y diwygiadau pecynwaith yn ysgogi buddsoddiad mewn seilwaith ailgylchu ac yn creu swyddi gwyrdd, ochr yn ochr â bod yn allweddol ar gyfer cyflawni Sero Net, gan leihau allyriadau’r Deyrnas Unedig o safleoedd tirlenwi yn ôl amcangyfrif sy’n gyfwerth â 32 miliwn tunnell o CO2 erbyn 2037.
Ymunwch â ni yn ein digwyddiad cyhoeddus cyntaf
I nodi ei lansio, bydd PecynUK yn Packaging Innovations Birmingham ar 12-13 Chwefror 2025. Bydd y digwyddiad ma yn cynnwys siaradwyr arbenigol a ffigurau o’r diwydiant a fydd yn rhannu gwybodaeth allweddol, sesiynau arbennig, a chyfleoedd i ymgysylltu’n uniongyrchol â thîm PecynUK.
Bydd Seb Munden (cyn Brif Swyddog Gweithredol Unilever) yn cynnal y sesiwn lansio cychwynnol ar lwyfan canolog yr economi cylchol gyda’r siaradwyr gwadd Emma Bourne, David McPhee, Rhodri Asby a Shane Doris yn cynrychioli eu priod wledydd.
Yna bydd y Gweinidog dros Natur, Mary Creagh, yn cadeirio panel, unwaith eto ar lwyfan canolog yr economi cylchol, gan groesawu lleisiau allweddol o’r gadwyn werth wrth drafod dyheadau cyffredin ar gyfer pEPR a sut mae cydweithio rhwng PecynUK a’i randdeiliaid yn allweddol i gyflawni cynllun teg ac effeithlon. Ymunwch â ni yn y digwyddiad yma yn Birmingham ym mis Chwefror i ddysgu mwy am rôl PecynUK yn y gwaith o gyflawni’r cynllun pEPR newydd ledled y Deyrnas Unedig.
Terfynau amser cyflwyno pEPR
Dylai pob busnes sydd dan rwymedigaeth i roi gwybod am ddata o dan y rheoliadau ar roi gwybod am ddata pecynwaith EPR fod wedi cyflwyno’u data am Ionawr i Fehefin 2024 erbyn dydd Mawrth 1 Hydref 2024. Os nad yw cynhyrchwyr pecynwaith dan rwymedigaeth wedi rhoi gwybod am eu data, fe allen nhw wynebu camau gorfodi.
Os ydych chi’n gynhyrchydd mawr sydd dan rwymedigaeth i roi gwybod am ddata o dan reoliadau adrodd data pecynwaith EPR, a bod gennych yr holl ddata o dan y rheolau newydd, dylech roi gwybod amdano mewn dau swp:
-
Rhowch wybod am ddata Ionawr i Fehefin erbyn 1 Hydref
-
Rhowch wybod am ddata Gorffennaf i Ragfyr erbyn 1 Ebrill
Os ydych chi dan rwymedigaeth fel cynhyrchydd bach, bydd gofyn i chithau roi gwybod am eich data o dan Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Deunyddiau Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024, a dylech roi gwybod amdano mewn un cyflwyniad blynyddol:
- Data Ionawr i Ragfyr erbyn 1 Ebrill
Mae rhagor o help a chyngor ar sut i gyflwyno’ch data ar gael yma.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes arnoch angen arweiniad ychwanegol, cysylltwch â packUK.support@defra.gov.uk.