Stori newyddion

Cynlluniau wedi’u cyhoeddi i ailddatblygu Barics Cawdor ar gyfer cynllun radar newydd

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi cynlluniau i ailddatblygu Barics Cawdor yng Nghymru i gynnal cynllun radar newydd.

DARC technical demonstrator in White Sands, New Mexico

Fe elwir yn Galluogrwydd Radar Uwch y Gofod Pell (DARC), a bydd y fenter yn sicrhau swyddi hirdymor ac yn helpu i amddiffyn cyfathrebu drwy loerennau a rhwydweithiau mordwyo. 

Bydd DARC yn gweld rhwydwaith radar ar y ddaear yn Awstralia, y Deyrnas Unedig ac Unol Daleithiau America ac yn darparu monitro byd-eang o’r gofod, gan gynyddu gallu’r gwledydd AUKUS i ganfod, olrhain ac adnabod gwrthrychau yn y gofod pell, hyd at oddeutu 36,000km i ffwrdd o’r ddaear.

Bydd y gallu hwn yn fuddiol i luoedd y cenhedloedd AUKUS ar y tir, yn yr awyr ac yn y moroedd, yn ogystal ag amddiffyn isadeiledd hollbwysig a bod yn fuddiol i’r diwydiant adeiladu domestig a’r diwydiant gofod.

Meddai’r Ysgrifennydd Amddiffyn, John Healey:

Mae’r ailddatblygu arfaethedig o Farics Cawdor yn sicrhau swyddi yma ym Mhrydain ac yn sicrhau galluoedd amddiffyn i’r dyfodol.

Mae’r gofod yn chwarae rhan hanfodol yn ein bywydau o ddydd i ddydd – fe ddefnyddir ar gyfer popeth o’n ffonau symudol i wasanaethau bancio. Fe’i ddefnyddir hefyd gan Sefydliadau Amddiffyn y DU i gyflawni tasgau hanfodol fel cefnogi gweithrediadau milwrol, y lluoedd mordwyo, ac i gasglu gwybodaeth.

Bydd y rhaglen radar newydd hon yn gwella ein hymwybyddiaeth o’r gofod pell, a hefyd yn helpu i amddiffyn ein hasedau yn y gofod ochr yn ochr â’n partneriaid agosaf.

Mae gan Farics Cawdor hanes hir o gefnogi Lluoedd Milwrol y DU. Mae’r safle wedi bod yn orsaf hedfan i’r Llu Awyr Brenhinol ac yn ganolfan i’r Llynges Frenhinol. Ar hyn o bryd mae’n gartref i Gatrawd Signalau 14, a chyhoeddodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn 2016 y byddai’r safle yn cau ddim cynharach na 2028. Byddai ailddatblygu’r safle ar gyfer y prosiect DARC yn sicrhau bod y safle yn parhau ar agor, gyda phresenoldeb parhaol o hyd at 100 o bersonél i weithredu a chynnal y galluogrwydd radar. 

Dywed Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Bydd y gwaith ailddatblygu arfaethedig ar Farics Cawdor yn helpu i sicrhau swyddi yn yr ardal yn ogystal ag amddiffyn ein diogelwch cenedlaethol.

Mae hwn yn brosiect pwysig i Sir Benfro ac mae’r llywodraeth hon wedi ymrwymo i weithio gyda’r gymuned leol i sicrhau ei fod yn llwyddiant.

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi ymrwymo i ymgymryd â’r holl brosesau cynllunio ac amgylcheddol angenrheidiol i gael cydsyniad ar gyfer yr ailddatblygu arfaethedig o’r safle a sicrhau ei weithrediad diogel. Mae Asesiad Amgylcheddol cynhwysfawr, gan gynnwys Asesiad Tirwedd ac Asesiad o’r Effaith Gweledol, yn mynd rhagddo i gefnogi cais cynllunio a gyflwynir i Gyngor Sir Benfro. Bydd p’un a fyddai’r Cyngor yn rhoi caniatâd cynllunio yn ddibynnol ar y prosiect DARC yn bodloni’r holl safonau diogelwch gofynnol.   

Yn benodol, bydd y prosesau diogelwch yn sicrhau bod DARC yn bodloni safonau amgylcheddol a safonau iechyd rhyngwladol fel y’u pennir gan y Comisiwn Rhyngwladol ar Ddiogelu rhag Ymbelydredd nad yw’n Ïoneiddio (ICNIRP) a Sefydliad Iechyd y Byd. Dyma’r ymarfer safonol ar gyfer holl osodiadau’r MOD.

Bydd ymgysylltu hefyd yn digwydd gyda’r gymuned wrth ddatblygu cynigion ar gyfer DARC, a chynhelir dau ddigwyddiad lleol i rannu gwybodaeth gyda’r cyhoedd cyn y cyfnod ymgynghori statudol sy’n ofynnol gan Gyngor Sir Benfro. Bydd aelodau Tîm DARC yr MOD yn mynychu’r digwyddiadau hyn i drafod y cynigion, ateb unrhyw gwestiynau a gwrando ar safbwyntiau’r gymuned leol. 

Cynhelir digwyddiadau gwybodaeth i’r cyhoedd yn ystod y cyfnod 13-14 Medi 2024.  

Dydd Gwener, 13 Medi 2024 

4pm-7pm 

Neuadd Goffa Solfach, 39 Stryd Fawr, Solfach, Hwlffordd SA62 6TE 

Dydd Sadwrn, 14 Medi 2024 

10am-2pm  

Neuadd Dinas Tyddewi, Y Stryd Fawr, Tyddewi, Hwlffordd SA62 6SD 

Bydd y byrddau gwybodaeth hefyd yn cael eu llwytho i’r wefan ymgysylltu ar ddydd Llun, 16 Medi 2024.

Galluogrwydd Radar Uwch y Gofod Pell (DARC)

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 8 August 2024