Cynlluniau i symud profion gyrru’n nes at ymgeiswyr
Gallai ymgeiswyr prawf gyrru elwa o wasanaeth mwy lleol wrth i'r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) yn treialu dull newydd o brofi cyflwyno.
Gallai ymgeiswyr prawf gyrru elwa o wasanaeth mwy lleol wrth i’r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) gyflawni treial sy’n ymchwilio i agwedd newydd tuag at gyflenwi profion.
Yn ogystal a defnyddio canolfannau prawf gyrru confensiynol, mae’r DSA yn ystyried a ellid cyflenwi profion hefyd o leoliadau eraill fel adeiladau awdurdod lleol, gwestai neu ganolfannau hamdden.
Bydd y treialon yn darparu profion ceir ymarferol mewn ardaloedd penodol sydd bellach heb ganolfan brawf leol, ond sydd a galw arwyddocaol am brofion o hyd. Y nod yw i ddarparu gwasanaeth ar gyfer y gymuned leol ac i sicrhau y gall ymgeiswyr sefyll eu prawf mewn lleoliadau cyfleus.
Meddai’r Gweinidog Diogelwch ar y Ffyrdd Mike Penning:
Rwyf eisiau inni fod yn fwy hyblyg ac yn fwy arloesol wrth gyflenwi profion gyrru er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig y gwasanaeth gorau bosibl i bobl ble bynnag maent yn byw.
Ein nod yw i ddarparu gwasanaeth mwy lleol sydd yn gyfleus i ymgeiswyr a sydd yn gosteffeithiol ill dau.
Dylai’r treialon ddigwydd mewn saith lleoliad ar draws Prydain: Ashford, Ayrshire, Din Alclud, Louth, Warrington, Wiltshire ac un lleoliad yng Nghymru sydd i’w ddewis o hyd. Caiff y treialon eu monitro er mwyn asesu unrhyw effaith ar lefelau o wasanaeth i gwsmeriaid ac ar y gost gyflenwi, yn ogystal a sicrhau y cynhelir uniondeb y prawf.
Wedyn bydd y DSA yn penderfynu a ellir rhoi’r treialon ar waith mewn ardaloedd eraill sydd heb ganolfan brawf ble mae galw arwyddocaol, a ble y gellir adnabod ffyrdd a lleoliadau addas.
Bydd y treialon yn cynnwys profion ceir ymarferol yn unig; nid effeithir ar ganolfannau prawf theori.