Y Prif Weinidog yn cyhoeddi swyddi a buddsoddiad newydd i Gymru
David Cameron yn cyhoeddi contract gwerth £390m i gefnogi cerbydau ymladd arfog, fydd yn dod â 250 o swyddi i Gymru.
Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog ddiwrnod cyn Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru y llynedd, yn nodi y byddai’r Llywodraeth yn prynu 589 o gerbydau ymladd arfog o safon fyd-eang ar gyfer y Lluoedd Arfog, mae wedi cyhoeddi contract newydd gwerth £390 miliwn gyda General Dynamics i gynnal y cerbydau a dod a 250 o swyddi medrus, newydd, ychwanegol i’r rhanbarth.
Bydd y contract hwn yn ymestyn y contract cynnal presennol yn y gwasanaeth ar gyfer Cerbydau Arbenigol Scout (SV) tan 2024, gan ddarparu gwaith cynnal a chadw a pheirianneg dechnegol o safle yn Ne Cymru. O ganlyniad, mae General Dynamics UK wedi penderfynu dod â gwaith cydosod, cyfuno a phrofi’r cerbydau, a oedd yn arfer cael ei wneud dramor, i Gymru.
Bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu mewn cyn gyfleuster ar gyfer Tryciau Fforch-Godi ym Merthyr Tudful, a fydd yn cael ei adnewyddu. Bydd y safle segur yn cael ei drawsnewid yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer peirianneg ac yn dod yn gartref newydd i gerbydau Scout SV yn y DU.
Dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron, wrth groesawu’r cytundeb:
Mae penderfyniad General Dynamics heddiw i ddod â’r gwaith o gydosod y cerbydau arfog o safon fyd-eang hyn i Dde Cymru yn glod i’r sgiliau a’r arbenigedd sydd yn yr ardal leol.
Bydd y 250 o swyddi medrus, newydd yn GD yn ychwanegu at y rheini sydd eisoes wedi’u diogelu diolch i’r penderfyniad i brynu 589 o gerbydau Scout ar gyfer ein Lluoedd Arfog, i sicrhau bod gan ein dynion a’n merched yn y fyddin y cyfarpar gorau posib i’n cadw ni’n ddiogel.
Bydd y 589 o’r cerbydau ymladd arfog newydd hyn, sy’n cael eu galw’n gerbydau arbenigol Scout, yn “lygaid a chlustiau’’ i Fyddin Prydain ar feysydd cad yn y dyfodol.
General Dynamics UK, sydd â chanolfan yn Oakdale, De Cymru, sydd wedi dylunio’r cerbyd newydd a fydd yn golygu gwell gwybodaeth a dulliau gwell o oruchwylio, amddiffyn, canfod targedau a rhagchwilio. Bydd hefyd yn gallu ei amddiffyn ei hun gyda chanon 40 milimedr hynod effeithiol.
Y Scout fydd cerbyd ymladd arfog cyntaf y fyddin i fod yn gwbl ddigidol, a bydd yn effeithiol yn nhiriogaethau anoddaf y byd hyd yn oed.
Wrth i’r Prif Weinidog ymweld â Chymru heddiw (dydd Iau), deellir fod y Llywodraeth yn fodlon sicrhau bod cyfleusterau’r Weinyddiaeth Amddiffyn ar gael yma yng Nghymru fel rhan o’i hymdrechion i ddenu Aston Martin i symud ei brosesau gweithgynhyrchu.
Dywedodd y Prif Weinidog:
Fel y gwnaethom nodi ddydd Mawrth yr wythnos hon, rydyn ni am wneud mwy i ryddhau tir y sector cyhoeddus i greu cyfleoedd newydd i bobl sy’n gweithio’n galed.
Yma yng Nghymru, rwy’n credu bod potensial go iawn i ryddhau tir y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan, ac rydyn ni’n fodlon sicrhau bod y tir hwnnw ar gael fel rhan o’r ymdrechion i berswadio Aston Martin Lagonda i weithgynhyrchu ei SUV newydd o fri yn y DU.
Wrth groesawu’r cyhoeddiad am gerbydau Scout, dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae hyn yn bleidlais enfawr o hyder yn y gweithlu yng Nghymru a bydd yn hwb enfawr i swyddi ym Merthyr Tudful.
Mae’r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru yn mynd o nerth i nerth, ac rwy’n falch iawn ein bod ni wedi gallu gweithio gyda General Dynamics i sicrhau’r cytundeb hwn.
Rydyn ni’n adfer cydbwysedd yr economi ar hyd a lled y wlad, ac yn denu busnesau newydd i Gymru ac yn eu cefnogi i lwyddo yma.