Stori newyddion

Darparu ein gwasanaethau yn y Gymraeg

Diweddariad ar ein gwaith i ddarparu gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg.

Man using a laptop

Rydym yn cymryd goblygiadau ein Cynllun Iaith Gymraeg yn gwbl o ddifrif, ac rydym eisiau i’n cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith allu cael mynediad at ein gwasanaethau yn y Gymraeg. Wrth inni ddatblygu ein gwasanaethau ar-lein, rydym yn sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau hyn yn y Gymraeg, a bu inni gynnal grwpiau ffocws gyda hwy yn ddiweddar i ddeall beth, yn eu barn nhw, yw gwasanaeth digidol Cymraeg gwych.

Mae GLlTEM eisoes wedi datblygu gwasanaethau newydd sydd ar gael yn y Gymraeg. Gall ein defnyddwyr gael help i dalu ffioedd, cofnodi ple ar-lein yn Gymraeg](https://www.gov.uk/cofnodi-ple-ar-gyfer-trosedd-traffig) neu dalu dirwy yn Gymraeg in Welsh. Mae rhestr lawn o’r holl wasanaethau Cymraeg ar GOV.UK ar gael.

Rydym hefyd yn y broses o adolygu ein Cynllun Iaith Gymraeg i sicrhau ei fod yn adlewyrchu anghenion siaradwyr Cymraeg yn ddigonol. Byddwn hefyd yn edrych ar ffyrdd o godi ymwybyddiaeth o’r ffaith bod gan siaradwyr Cymraeg hawl gyfreithiol i siarad Cymraeg mewn unrhyw wrandawiad llys neu dribiwnlys yng Nghymru.

Sylw gan gwsmer:

Diolch yn fawr iawn, rydych chi wedi bod yn wych yn fy helpu i wneud pethau yn y Gymraeg, gan fy mod yn ei chael yn haws o lawer yn fy iaith fy hun yn hytrach na gorfod meddwl am y geiriau yn Saesneg!

Sylw gan gwsmer:

Mae mynd i’r llys yn gallu achosi digon o straen, ond roedd y ffaith fy mod i’n gallu trafod fy achos gyda chi yn Gymraeg wedi gwneud y profiad yn un llawer gwell ac wedi tawelu fy meddwl.

Trafododd Hywel Hughes, Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg GLlTEM, y datblygiad o wasanaethau Cymraeg yn ei flog Inside HMCTS.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 13 April 2017