Cyfarfod cyhoeddus yn wrecsam
Bydd yr Adolygiad Annibynnol o Dribiwnlys Waterhouse yn cynnal cyfarfod cyhoeddus yng Ngogledd Cymru fis nesaf i roi cyfle i bobl leol ddarparu rhagor o dystiolaeth, yn bersonol, i’r Adolygiad.
Mae Mrs Ustus Macur, sy’n arwain yr Adolygiad, wedi dweud ei bod yn dymuno clywed gan gynifer â phosib o unigolion a phartïon â diddordeb am faterion sy’n ymwneud â’i chylch gorchwyl.
Penderfynwyd cynnal cyfarfod cyhoeddus ar ôl cyhoeddi’r Papur Materion yn gynharach eleni.
Dyma ddywedodd Mrs Ustus Macur am y cyhoeddiad:
Ystyriaf ei bod yn hynod bwysig fy mod i a fy nhîm yn sicrhau ein bod ar gael mewn lleoliad sy’n lleol i’r digwyddiadau a’r amgylchiadau a arweiniodd at “Ymchwiliad Waterhouse” i gwrdd â’r bobl a oedd yn gysylltiedig yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol â hyn a chlywed am unrhyw wybodaeth y maent yn dymuno ei rhannu a allai fod yn arwyddocaol i fy ymchwiliad.
Mae’n hanfodol bwysig ein bod yn ymgysylltu’n uniongyrchol â’r rhai y mae’r materion sy’n greiddiol i fy adolygiad wedi effeithio arnynt.
Manylion
- Pwy: Bydd Mrs Ustus Macur â’r tîm yn cynnal dau sesiwn
- Ble: Gwesty’r Ramada Plaza yn Wrecsam
- Pa bryd: Dydd Mawrth, 18 Mehefin 2013 am 12:30 ac am 18:00
- Y Cyfryngau: Nid cynhadledd i’r wasg yw hon. Bydd cyfle ar ddechrau’r sesiwn am 12:30 i’r cyfryngau dynnu lluniau/ffilmio ar gyfer cefndir, ond ni chaniateir recordio na dyfynnu rhannau o’r sesiwn ei hun. Rhaid diffodd offer recordio a’i roi o’r neilltu drwy gydol y ddau sesiwn.
Fe ddewch o hyd i’r Papur Materion ar wefan Adolygiad Macur yn
Sefydlwyd yr Ymchwiliad Annibynnol yn dilyn datganiad gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, y Gwir Anrhydeddus Chris Grayling AS, ar 8 Tachwedd 2012 y byddai adolygiad o ymchwiliad Syr Ronald Waterhouse i gam-drin plant mewn gofal yn ardaloedd Cynghorau Gwynedd a Chlwyd yn cael ei sefydlu.
Bydd Mrs Ustus Macur yn cyflwyno argymhellion i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder ac i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar ôl cwblhau’r adolygiad.
Nodiadau i olygyddion
Mae Adolygiad Macur yn Adolygiad annibynnol a sefydlwyd gan y Llywodraeth ar 8 Tachwedd 2012.
Bydd ystafell breifat ar gael os bydd unrhyw un eisiau siarad â thîm yr Adolygiad oddi wrth y prif fforwm.
Cylch gorchwyl yr Adolygiad yw:
Adolygu cwmpas Ymchwiliad Waterhouse a pha un ai oedd unrhyw honiadau penodol o gam-drin plant a oedd yn berthnasol i’r cylch gorchwyl heb eu hymchwilio fel rhan o’r Ymchwiliad, a chyflwyno argymhellion i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder ac i Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Bywgraffiad Mrs Ustus Macur:
Galwyd yr Anrhydeddus Mrs Ustus Macur i’r bar ym 1979, ac roedd yn gweithio fel bargyfreithiwr yng Nghylchdaith Canolbarth Lloegr a Rhydychen rhwng 1979 a 2005. Fe’i penodwyd yn Gwnsler y Frenhines ym 1998, a bu’n Gofiadur Cynorthwyol ac yna’n Gofiadur yn
Llys y Goron rhwng 1995 a 2005, pan benodwyd hi’n un o Farnwyr yr Uchel Lys Barn (Adran Teulu). Bu’n Farnwr Llywyddol Cylchdaith Canolbarth Lloegr rhwng 1 Ionawr 2007 a 31 Rhagfyr 2011.
Mae ffotograff o Mrs Ustus Macur DBE ar gael drwy gysylltu â swyddfa’r wasg.
Mae Adolygiad Macur yn un o ddau ymchwiliad newydd sy’n ymwneud â Gogledd Cymru. Mae Prif Gwnstabl Gogledd Cymru wedi gofyn i Keith Bristow, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Asiantaeth Trosedd Genedlaethol archwilio honiadau penodol, diweddar a wnaethpwyd mewn perthynas â cham-drin yn y gorffennol. Cyhoeddodd yr ymchwiliad, sef Ymgyrch Pallial, ei adroddiad cyntaf fis diwethaf. Dylid cyfeirio ymholiadau gan y cyfryngau ynghylch Ymgyrch Pallial at: Swyddfa’r Wasg – Yr Asiantaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol: 0870 268 8100
Cysylltiadau
Am ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â swyddfa’r wasg – Adolygiad Macur ar 020 3334 3535.
Am ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â thîm yr Adolygiad yn:
Macur Review Room TM 10.02 Royal Courts of Justice Strand WC2A 2LL
E-bost: enquiries@macurreview.gsi.gov.uk