Stori newyddion

Cofrestru eich ôl-gerbyd os ydych am ei gymryd dramor

O heddiw (28 Mawrth 2019), os oes gennych ôl-gerbyd ac rydych yn bwriadu ei ddefnyddio dramor, efallai y bydd angen i chi ei gofrestru trwy ddefnyddio ein gwasanaeth ‘Cofrestru eich ôl-gerbyd i’w gymryd dramor’.

Image of a lorry being driven on a road

Heddiw, mae Confensiwn Fienna ar Draffig Ffyrdd y Genhedloedd Unedig 1968 yn dod i rym yn y DU. Mae hyn yn golygu bod rhaid i ôl-gerbydau cael eu cofrestru os ydynt yn teithio trwy neu i wlad sydd hefyd wedi cytuno i Gonfensiwn Fienna ar Draffig Ffyrdd y Genhedloedd Unedig 1968.

Mae ein blog diweddar a thaflen wybodaeth yn esbonio mwy am gofrestru ôl-gerbydau a sut mae’r gwasanaeth yn gweithio.

Rhaid i ôl-gerbydau gael eu cofrestru os ydynt yn:

  • ôl-gerbydau defnydd masnachol yn teithio’n rhyngwladol â phwysau gros dros 750cg
  • ôl-gerbydau nad ydynt yn cael eu defnyddio’n fasnachol yn teithio’n rhyngwladol â phwysau gros dros 3,500cg

Gall ôl-gerbydau nad ydynt yn cael eu defnyddio’n fasnachol â phwysau gros o 3,500cg neu lai cael eu cofrestru’n wirfoddol, ond nid oes gofyniad cyfreithiol i wneud hynny.

Unwaith y mae ôl-gerbyd wedi ei gofrestru drwy ein gwasanaeth newydd, bydd DVLA yn cyhoeddi tystysgrif gofrestru ôl-gerbyd diogel drwy’r post ac anfon e-bost cadarnhâd sy’n cynnwys awdurdodiad i gael rhif plât wedi ei gynhyrchu ar gyfer yr ôl-gerbyd. Mae’n rhaid i’r platiau cael eu harddangos ar yr ôl-gerbyd a rhaid cadw’r dystysgrif gyda’r ôl-gerbyd.

Trwy ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein i gofrestru eich ôl-gerbyd i’w gymryd dramor gallwch gofrestru ôl-gerbyd am y tro cyntaf, gwneud cais am dystysgrif gofrestru newydd ar gyfer ceidwad newydd a gwneud cais am dystysgrif newydd. Mae’r gwasanaeth yn eich galluogi i gofrestru cerbydau lluosog os oes gennych fwy nag un ôl-gerbyd a fydd yn teithio dramor.

Os ydych yn cofrestru ôl-gerbyd rydych yn ei ddefnyddio dramor, efallai y bydd angen i chi hefyd feddwl am:

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 28 March 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 March 2019 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.