Ymchwil a datblygu yn allweddol i dwf economaidd yng Nghyrmu
Ysgrifennydd Gwladol Cymru Jo Stevens yn hyrwyddo’r ymchwil arloesol a wneir yng Nghymru

Welsh Secretary meeting with businesses at M-SParc in Anglesey.
- Ysgrifennydd Cymru yn hyrwyddo’r ymchwil arloesol a wneir yng Nghymru
- Mae’r Sector Ymchwil a Datblygu yn ffynhonnell hanfodol o gyflogaeth yng Nghymru gyda photensial enfawr ar gyfer twf economaidd
- Mae Prifysgol Bangor ymhlith y prifysgolion sydd ar flaen y gad o ran Ymchwil a Datblygu yng Nghymru ac mae Parc Gwyddoniaeth Menai yn gartref i fusnesau arloesol sy’n elwa o’u harbenigedd.
Mae Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, wedi dweud wrth arweinwyr ym maes Ymchwil a Datblygu bod ganddynt rôl hanfodol i’w chwarae o ran helpu i dyfu’r economi yng Nghymru pan gyfarfu â nhw ym mharc gwyddoniaeth Prifysgol Bangor M-SParc ar Ynys Môn. Dyma’r drafodaeth ddiweddaraf mewn cyfres o gyfarfodydd bwrdd crwn dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd Cymru fel rhan o’i hymgyrch i sicrhau twf economaidd i Gymru.
Mae Ymchwil a Datblygu yn arwain at arloesi cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd ac yn cynnwys academyddion a busnesau yn cydweithio. Cafodd yr enghreifftiau a welwyd yn M-SParc eu hyrwyddo fel arfer da.
Yng Nghymru, mae’r sector yn gonglfaen arloesi, ac mae’n chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o lunio dyfodol diwydiant a gwella cystadleurwydd byd-eang.
Cafodd Ms Stevens ei briffio am y gwaith sy’n cael ei wneud gan wyddonwyr yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion ym Môr Iwerddon a’r Môr Celtaidd. Mae’r ymchwil hon yn dod â llunwyr polisi, arweinwyr diwydiant a chymunedau at ei gilydd i weithio ar gadwraeth ac adfer morol, dyframaethu a physgodfeydd, ac ynni adnewyddadwy morol. Gwelodd hefyd ddeorfa lwyddiannus ar gyfer rhywogaethau wystrys brodorol, sy’n chwarae rhan hollbwysig yn rhaglenni bridio ac ymdrechion adfer y DU.
Yn M-SParc ar Ynys Môn, parc gwyddoniaeth pwrpasol cyntaf Cymru, cyfarfu Ysgrifennydd Cymru â busnesau sy’n cydweithio ag academyddion Prifysgol Bangor i gynhyrchu ymchwil arloesol yn y sectorau gwyddoniaeth, technoleg ac arloesi.
Gwelodd waith yn cael ei wneud gan MDF Recovery Ltd sydd wedi datblygu proses arloesol i adfer ffeibr o wastraff MDF, y gellir ei ailddefnyddio ar gyfer cynhyrchion newydd fel inswleiddio thermol.
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Bydd y Cynllun ar gyfer Newid gan Lywodraeth y DU yn rhoi hwb i’r economi ac yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl.
Mae gan Gymru sector Ymchwil a Datblygu ffyniannus, sy’n hanfodol i’n heconomi yn ogystal â chreu datblygiadau arloesol sydd â’r pŵer i wella bywydau pobl.
Rydw i eisiau adeiladu ar y llwyddiant hwnnw a chefnogi’r sector i greu’r swyddi medrus iawn sy’n talu’n dda ac a fydd yn sbarduno twf ar hyd a lled Cymru.
Dywedodd yr Athro Paul Spencer, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil, Prifysgol Bangor:
Fel sefydliad blaenllaw sy’n cael ei arwain gan ymchwil, rydym yn gweithio gyda diwydiant i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol ac economaidd heddiw - o leihau allyriadau carbon i addasu i ddatblygiad ac effaith deallusrwydd artiffisial - ac mae gennym hanes o drosi ein hymchwil yn effaith.
Mae Gwobr Pen-blwydd y Frenhines yn ddiweddar am ein gwaith monitro covid yn cydnabod y rhagoriaeth ymchwil ac, o ganlyniad, mae wedi arwain at bartneriaeth gyda chwmni gwyddorau bywyd byd-eang. Mae ein llwyddiant yn seiliedig ar gydweithio, ac rydym yn croesawu ymrwymiad llywodraeth y DU i gefnogi ymchwil fel sbardun i dwf economaidd.
Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc:
Mae M-SParc yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o hwyluso cydweithio rhwng diwydiant a’r byd academaidd. Ein pwrpas craidd yw sicrhau twf economaidd sy’n seiliedig ar ragoriaeth ymchwil Prifysgol Bangor a’n hecosystem hynod arloesol, sy’n cynnwys amrywiaeth o fusnesau ac arloeswyr arloesol ledled Cymru sydd, gyda’i gilydd, â’r uchelgais o sicrhau effaith economaidd ystyrlon yn y rhanbarth.