Datganiad i'r wasg

‘Richard Parks yn ysbrydoliaeth’, meddai Ysgrifennydd Cymru

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru heddiw, y dylai Richard Parks gael ei gydnabod yn llysgennad tros bobl ifanc ac elusennau yn dilyn ei sialens elusennol…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru heddiw, y dylai Richard Parks gael ei gydnabod yn llysgennad tros bobl ifanc ac elusennau yn dilyn ei sialens elusennol a dorrodd record y byd.

Heddiw, gorffennodd Richard Parks y sialens 737, sialens arwrol i godi arian   er budd Gofal Canser Marie Curie lle bu iddo ddringo Pegwn y Gogledd a Phegwn y De a chyrraedd copa Kilimanjaro ac Everest cyn gorffen y sialens  yn Mount Elbrus, Rwsia (mynydd uchaf y byd).

Bu i Cheryl Gillan gyfarfod Mr. Parks yn gynharach yn y flwyddyn yn Nhŷ Gwydyr, Llundain cyn iddo gychwyn ar ei gyrch i ddringo saith copa ar bob un cyfandir - a dod yr unigolyn cyntaf mewn hanes i sefyll ar dri phegwn yn yr un flwyddyn galendr.

Dywedodd Mrs. Gillan: “Mae Richard Parks wedi cwblhau siwrnai arwrol a fyddai’n gwthio’r athletwyr mwyaf  ymroddgar i ymylon eithaf dycnwch dynol.   Gyda dyfalbarhad a golwg benderfynol mae wedi goresgyn amgylchiadau heriol a blinderus er mwyn gwella bywydau pobl eraill.

“Mae’n llysgennad aruthrol dros Gymru ac yn wir ysbrydoliaeth i bobl ifanc.   Rwy’n hynod falch fod Gofal Canser Marie Curie yn elwa o gyrch Richard, ac rwy’n hyfrydu ar yr hyn mae wedi ei gyflawni.   Rwy’n gobeithio ei gyfarfod eto’n fuan i’w longyfarch yn bersonol ar ei lwyddiant.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 12 July 2011