Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru'n gweld adenydd newydd Airbus yng ngogledd Cymru

Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn ymweld ag Airbus a Raytheon.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Mae Cymru’n ganolbwynt gweithgynhyrchu medrus iawn, ac mae’n wych gweld cwmnïau fel Airbus yn ysgogi’r economi leol ac yn datblygu technolegau newydd.

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn ymweld ag Airbus heddiw, 18 Medi, i weld cenhedlaeth newydd o adenydd cyfansawdd A350 XWB yn cael eu hadeiladu ar gyfer cwsmeriaid, gan gynnwys Qatar Airways.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae llu o gwmnïau arloesol ac o’r radd flaenaf yng Nghymru, sy’n rhoi hwb i’r economi, yn creu swyddi ac yn newid bywydau ar draws y wlad. Ond nawr yw’r amser i godi’r safon a dangos i’r byd beth yn union sydd gan Gymru i’w gynnig.

Mae Airbus yn esiampl wych o gwmni sy’n gwneud hynny - cwmni gyda phencadlys lleol ond eto sydd ag enw da yn rhyngwladol - gan roi Cymru ar y map ym mhob cwr o’r byd.

Wrth i Brydain baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd mae gennym ni gyfle yn awr i ddylanwadu ar ein cyfleoedd masnachu a buddsoddi uchelgeisiol yn Ewrop a thu hwnt, a gosod Cymru a Phrydain yn gadarn mewn lle blaenllaw yn y byd masnachu a buddsoddiad byd-eang.

Mae Cymru eisoes yn wlad sy’n allforio. Yn 2016, aeth 4,000 o gwmnïau ati am y tro cyntaf i allforio i’r farchnad fyd-eang, a oedd yn werth £12.4 biliwn. Ledled y Deyrnas Unedig, mae allforion yn cyfrannu dros £570 biliwn at y Cynnyrch Domestig Gros (GDP) yn flynyddol.

Cynhaliwyd yr ymweliad ar ôl i Ysgrifennydd Cymru gyhoeddi y bydd yn ysgrifennu at 26,000 o fusnesau yng Nghymru sydd wedi cael eu nodi fel allforwyr posib ac y bydd yn anfon copi atynt o arweiniad allforio pwrpasol ar gyfer busnesau Cymru.

Mae Canllaw Allforio Cymru yn nodi’r ystod lawn o gymorth sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac mae’n cynnwys hanesion ysbrydoledig am gwmnïau yng Nghymru sy’n allforio’n llwyddiannus. Mae Alun Cairns yn gobeithio y bydd busnesau’n gweld y potensial enfawr sydd ar gael i’w helpu i fuddsoddi a thyfu.

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymweld â gwaith Airbus ym Mrychdyn yn y Gogledd, lle dechreuodd y cysylltiad â’r byd awyrennau gyda’r Wellington Bomber. Mae’r safle gwaith yn gyfrifol am gydosod adenydd holl awyrennau sifil Airbus, gan gynnwys y genhedlaeth nesaf o awyrennau A350 XWB. Gan gynhyrchu dros 1,000 o adenydd y flwyddyn, mae’r safle’n cyflogi tua 6,000 o bobl - yn bennaf mewn gweithgynhyrchu, ond hefyd mewn swyddogaethau peirianneg a chymorth fel caffael a chyllid.

Bydd yn cyfarfod uwch swyddogion gweithredol y cwmni i glywed am ddatblygiadau ar y safle yn y dyfodol ac i bwysleisio ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu sicrwydd a sefydlogrwydd i fusnesau yng Nghymru wrth i’r Deyrnas Unedig baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd hefyd yn mynd ar daith o gwmpas y cyfleuster, sy’n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gynhyrchu rhai o awyrennau mwyaf poblogaidd a thechnolegol ddatblygedig y byd, cwrdd â phrentisiaid a gweld yr adenydd diweddaraf a grëwyd gan Airbus.

Tra bydd ym Mrychdyn, bydd Mr Cairns hefyd yn ymweld â Raytheon, yn dilyn eu cyfarfod yn Expo Amddiffyn y Byd yn ddiweddar, ar gyfer sesiwn friffio, taith o gwmpas y safle a chwrdd â phrentisiaid.

Ychwanegodd Mr Cairns:

Ein nod ni yw dod yn genedl allforio fwyaf y byd, gan roi hwb i hyder busnesau a balchder cenedlaethol a grymuso mwy o gwmnïau Cymru i fynd allan a llwyddo mewn marchnadoedd byd eang.

Dyna pam rydym yn rhannu’r cyngor, yr arweiniad a’r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig (yn benodol gan yr Adran dros Fasnachu Rhyngwladol) ar gyfer busnesau yn ein Canllaw Allforio ar gyfer Cymru. Rydyn ni eisiau eu helpu i ddatblygu eu brand dramor wrth i ni barhau i gynyddu allforion o’r Deyrnas Unedig ac annog mewnfuddsoddi.

NODIADAU I OLYGYDDION

Yn flynyddol, mae Airbus yn gwario tua £4 biliwn gyda chyflenwyr yn y Deyrnas Unedig, sy’n gyfraniad sylweddol at ddiwydiant awyrofod y Deyrnas Unedig, sy’n cynnal tua 110,000 o swyddi gwerth uchel a medrus iawn. Caiff setiau adenydd eu cludo i’r llinellau adeiladu terfynol mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys ar y ffordd ac ar awyren gludo fawr Beluga Airbus.

Mae Raytheon UK yn arweinydd yn y maes technoleg ac arloesi sy’n arbenigo mewn Amddiffyn, Awyrofod, Diogelwch, Seibr a marchnadoedd masnachol eraill ar draws y byd. Gyda chyfleusterau yng Nghymru, yr Alban a Lloegr, mae Raytheon yn cyflogi mwy na 1,500 o staff yn y Deyrnas Unedig a hefyd yn allforiwr technoleg pwysig i fwy na 40 o wledydd, gan gynnwys Unol Daleithiau America.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 18 September 2017