Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol yn croesawu cytundeb rhwng Airbus ac Indonesia a fydd yn rhoi hwb i swyddi

Heddiw (11 Ebrill), mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi croesawu’r newyddion y bydd swyddi’n cael eu diogelu yn Airbus, Sir …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (11 Ebrill), mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi croesawu’r newyddion y bydd swyddi’n cael eu diogelu yn Airbus, Sir y Fflint yn dilyn cyhoeddiad am gytundeb gwerth £326m i werthu 11 awyren A330 i’r cwmni awyrennau, Garuda. Daeth y cyhoeddiad wrth i’r Prif Weinidog ymweld ag Indonesia.

Meddai Mrs Gillan:

“Mae Airbus yn gyfrannwr mawr at yr economi yn y DU ac rwyf wedi ymweld a’u ffatri ym Mrychdyn sawl tro, felly rwy’n gwybod y bydd hwn yn newyddion i’w groesawu. Mae cytundeb Garuda yn deyrnged i arbenigedd gweithlu Airbus ac mae’n newyddion da i economi Gogledd Cymru a’r DU gyfan.  

“Mae Airbus yn parhau i adeiladu ar eu llwyddiant ac roeddwn i’n ddigon lwcus i fod gyda’r Prif Weinidog pan agorodd eu ffatri newydd yn y Gogledd ym Mrychdyn ychydig fisoedd yn ol, ble bydd yr adenydd ffibr carbon ar gyfer yr A350 newydd yn cael eu gwneud.”

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 April 2012