Diddymu’r tollau dros Afon Hafren yn lledaenu ffyniant ar draws de ddwyrain Cymru
Marchnad eiddo Casnewydd yn tyfu.
![](https://assets.publishing.service.gov.uk/media/5a37dabaed915d5a5f965fd7/s300_UKG_Logo__2_.png)
Mae’r newyddion heddiw mai marchnad eiddo Casnewydd sydd wedi symud gyflymaf ym Mhrydain wedi cael ei groesawu gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns.
Mae’r ffigurau a gyhoeddwyd gan y safle eiddo Rightmove yn dystiolaeth bellach o sut mae economi Cymru yn mynd o nerth i nerth, gyda hwb sylweddol lleihau’r tollau dros Afon Hafren ac ymrwymiad Llywodraeth y DU i’w diddymu ar ddiwedd y flwyddyn.
Roedd pol piniwn pwysig a gynhaliwyd yn Uwchgynhadledd Twf yr Hafren gyntaf Llywodraeth y DU ym mis Ionawr wedi datgelu bod 97% o’r cynadleddwyr yn teimlo y byddai diddymu’r tollau dros Afon Hafren o fudd i Gymru ac mae cwmnïau ar y naill ochr a’r llall o’r ffin eisoes yn elwa o dynnu’r TAW oddi ar y tollau yn gynharach ym mis Ionawr.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Pan gefais i swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru fy mlaenoriaeth gyntaf oedd diddymu’r tollau dros Afon Hafren ac anfon neges uniongyrchol i ddiwydiant, i deithwyr ac i dwristiaid yn y DU ac yn fyd-eang bod Cymru ar agor i fusnes. Mae penderfyniad Llywodraeth y DU yn ymwneud â lledaenu ffyniant ar draws rhanbarth economaidd naturiol sydd wedi cael ei llesteirio’n ddifrifol gan y tollau ers dros hanner canrif.
Gyda’r tollau’n cael eu diddymu yn nes ymlaen eleni, mae hi’n grêt gweld y trawsnewid yn rhagolygon economaidd a diwylliannol De Cymru a De Orllewin Cymru sydd eisoes ar waith. Dyma fegis dechrau cyfres o bolisïau a fydd yn gweld De Cymru i gyd yn elwa o ymyriad gweithredol gan Lywodraeth y DU.
Diddymu’r tollau fydd yr ysgogiad economaidd mwyaf ers degawdau a bydd yn trawsnewid rhagolygon economaidd a diwylliannol de Cymru a de orllewin Lloegr, gan ei gwneud hi’n haws cynnal busnes, cynyddu mewnfuddsoddiad a thwristiaeth a chreu swyddi.
Nodiadau i olygyddion
- Cynhaliwyd Uwchgynhadledd Twf yr Hafren ym mis Ionawr yng Ngwesty’r Celtic Manor pan ddaeth dros 300 o westeion o’r naill ochr a’r llall i’r ffin ynghyd i ymuno â’r Ysgrifennydd Gwladol i drafod cyfleoedd i dyfu ar draws y ffin ar ôl diddymu’r tollau dros Afon Hafren.
- Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn nodi dwy flynedd yn ei swydd ddydd Llun 19 Mawrth ac mae diddymu’r tollau yn llwyddiant allweddol yn ystod ei gyfnod yn y swydd.