Rhannu rhagor o wybodaeth am brisiadau ardrethi busnes
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (y VOA) wedi cyhoeddi manylion ynghylch sut y bydd yn gwella’r wybodaeth y mae’n ei datgelu am brisiadau ardrethi busnes.
Bydd y VOA yn rhannu gwybodaeth o safon uwch am brisiadau ardrethi busnes. Bydd hyn yn digwydd fesul cam:
-
Erbyn 2026, bydd talwyr ardrethi yn gallu gweld mwy o wybodaeth wedi’i theilwra am eu heiddo.
-
Erbyn 2029, bydd talwyr ardrethi yn gallu gweld gwybodaeth a thystiolaeth brisio fwy penodol.
Mae hyn yn dilyn ymgynghoriad yn 2023. Gwnaethom ofyn i dalwyr ardrethi, asiantau ac eraill pa wybodaeth yr oeddent am ei gweld yn cael ei datgelu o ran sut rydym yn prisio eiddo.
Meddai Carolyn Bartlett, Prif Swyddog Strategaeth a Thrawsnewid Asiantaeth y Swyddfa Brisio: “Rydym yn deall pwysigrwydd lefel uwch o dryloywder o ran prisiadau ardrethi busnes. Dangosodd yr ymgynghoriad fod safbwyntiau gwahanol ynghylch pa wybodaeth prisio eiddo y dylid ei datgelu.
“Rydym wedi cydbwyso’r awydd gan rai pobl am fwy o dryloywder â phryderon pobl eraill ynghylch cyfrinachedd eu data a’r ffaith bod yn well ganddynt wybodaeth symlach.”
Darllenwch y crynodeb llawn o’r ymatebion i’r ymgynghoriad.
Newidiadau i ardrethi busnes
Mae hyn yn rhan o set ehangach o newidiadau sy’n dod i ardrethi busnes yng Nghymru a Lloegr rhwng 2026 a 2029. Mae’r newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno fesul cam. Byddant yn cefnogi’r VOA i gyflawni ailbrisiadau eiddo yn amlach.
Mae’r newidiadau’n cynnwys dyletswydd newydd ar dalwyr ardrethi i ddarparu gwybodaeth am eu heiddo i’r VOA.
Disgwylir i’r ddyletswydd wybodaeth newydd ar dalwyr ardrethi gael ei chyflwyno ar ôl y 1af o Ebrill 2026. Bydd yn cael ei phrofi gyda niferoedd bach o gwsmeriaid fesul cam o’r pwynt hwnnw fel y gallwn wneud yn siŵr bod y system yn gweithio i bob talwr ardrethi.
Yna bydd y ddyletswydd yn cael ei roi ar waith yn ffurfiol ac yn orfodol i bawb erbyn y 1af o Ebrill 2029.
Nid oes unrhyw gamau y mae angen i chi eu cymryd nawr. Byddwn yn dweud wrthych am y newidiadau a phryd yr effeithir arnoch.
Mae’r ddyletswydd newydd yn golygu y bydd yn rhaid i dalwyr ardrethi roi gwybod i Asiantaeth y Swyddfa Brisio cyn pen 60 diwrnod pan fo newidiadau i’w heiddo. Mae’r rhain yn cynnwys newidiadau i’r canlynol:
-
y meddiannydd
-
y brydles neu rent
-
yr eiddo.
Bydd yn rhaid i nifer fach o dalwyr ardrethi ddarparu gwybodaeth fasnachol unwaith y flwyddyn hefyd, os defnyddir yr wybodaeth honno i brisio eu heiddo.
Unwaith y flwyddyn, gofynnir i dalwyr ardrethi hefyd gadarnhau eu bod wedi rhoi gwybod i Asiantaeth y Swyddfa Brisio am unrhyw newidiadau i’w heiddo.
Meddai Carolyn Bartlett: “Bydd y newidiadau hyn yn ein helpu i ailbrisio eiddo bob tair blynedd. Mae ailbrisio eiddo’n amlach yn golygu y bydd biliau ardrethi busnes yn adlewyrchu amrywiadau yn y farchnad eiddo’n gynt. Bydd hyn yn gwneud y system yn un decach.”
Mae newidiadau, a fydd yn cyflymu ac yn symleiddio’r broses Gwirio, Herio, Apelio, wedi’u cynllunio ar gyfer 2029, ar ddechrau’r rhestrau ardrethu newydd.
Gweithio gyda chi
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi cadarnhau amserlen y diwygiadau ar ôl i amserlenni enghreifftiol gael eu cyhoeddi yn 2021.
Bydd yr amserlenni newydd yn rhoi amser i chi baratoi. Byddwn yn rhoi digon o rybudd i chi cyn i’r newidiadau i ardrethi busnes ddod i rym, a byddwn yn eich helpu i gael pethau’n iawn.
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio eisoes wedi bod yn gweithio gyda busnesau a’u cynrychiolwyr. Byddwn yn parhau i’w cynnwys wrth i ni ddylunio, adeiladu a phrofi’r systemau a’r newidiadau sy’n rhan o’r diwygiadau hyn.
Meddai Carolyn Bartlett: “Ein nod yw adeiladu system sy’n gweithio i bob talwr ardrethi. Does dim ots a oes ganddynt un asesiad neu filoedd ohonynt, a dim ots a ydynt yn defnyddio asiant neu’n delio â ni’n uniongyrchol.
“Byddwn yn sicrhau bod y system wedi’i phrofi’n drylwyr gan dalwyr ardrethi cyn i ni gyflwyno’r gofynion newydd yn ffurfiol.”
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 7 Tachwedd 2024Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 Ionawr 2025 + show all updates
-
Added Welsh translation.
-
First published.