Stori newyddion

Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Gwent yn cydnabod 16 o bobl

Mae ymdrechion 16 o bobl o bob rhan o Went, gan gynnwys tri chadét ifanc, wedi cael eu cydnabod gan gynrychiolydd y Brenin dros y sir.

Lord-Lieutenant of Gwent Awards. Copyright of RFCA for Wales.

Cafodd llwyddiannau tri o gadetiaid yr Arglwydd Raglaw eu cydnabod a’u dathlu yn ystod y digwyddiad, lle’r oedd tua 80 o bobl yn bresennol.

Cyflwynwyd trosolwg o’u huchafbwyntiau yn y cadetiaid i’r gynulleidfa gan Uwch Sarjant y Cadetiaid Robert Lewis ac Uwch Sarjant y Cadetiaid Thomas Wilson, ill dau o Lu Cadetiaid y Fyddin Gwent a Phowys, a Swyddog Gwarant y Cadetiaid Megan Hutton o Adain Gymreig Rhif 1 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol.

Mae’r rôl, sy’n para am flwyddyn, yn cynnwys mynd i ddigwyddiadau swyddogol gyda’r Brigadydd. Mae’r Brigadydd yn gweithredu fel cynrychiolydd y Brenin mewn dyletswyddau swyddogol fel digwyddiadau Cofio, gorymdeithiau ac ymweliadau Brenhinol.

Dewiswyd y tri ar gyfer rôl anrhydeddus cadetiaid yr Arglwydd Raglaw ar ôl cael eu henwebu gan arweinwyr grwpiau cadetiaid a Chymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru.

Hefyd yn ystod y noson cyflwynwyd Medal Coroni’r Brenin i’r Staff-ringyll Paul Carter, aelod o Lu Cadetiaid y Fyddin Powys a Gwent a dau aelod o Gadetiaid Awyr Adain Gymreig Rhif 1 yr RAF, i gydnabod eu gwasanaeth. Mae Medal Coroni’r Brenin yn rhodd o ddiolch gan y genedl i’r rhai a oedd yn aelodau o’r Lluoedd Arfog ar 6 Mai 2023 â phum mlynedd o wasanaeth di-dor.

Y rhain oedd yr Ail Lefftenant Greg McFarlane, yr Hyfforddwr Staff-ringyll Peter Clements, yr Hyfforddwr Staff-ringyll Peter Hire, yr Hyfforddwr Staff-ringyll Kevin Trigg, yr Hyfforddwr Staff-ringyll Clive Scott o ACF Powys a Gwent a’r Arweinydd Sgwadron Ken Lavender a’r Arweinydd Sgwadron Chris Stubbs o Gadetiaid Awyr Adain Gymreig Rhif 1 yr Awyrlu Brenhinol.

Hefyd, cyflwynwyd Medal Lluoedd y Cadetiaid i’r Staff-ringyll Peter Hire a ddyfernir i aelodau o Lu’r Cadetiaid am 12 mlynedd o wasanaeth.

Cyflwynwyd gwobrau i gydnabod gwasanaeth gwirfoddol i dri aelod o Gorfflu y Cadetiaid Môr hefyd.                                                                                                                                                                                                                                                     

Yr aelodau oedd yr Hyfforddwr Sifiliad Brendyn Metcalfe o Gadetiaid Môr Torfaen, a anrhydeddwyd am 12 mlynedd o wasanaeth, Is-swyddog Bryony Duggan o Gorfflu Cadetiaid Môr Casnewydd a anrhydeddwyd am chwe blynedd o wasanaeth, a Mr Robin Lawlor o Gadetiaid Môr Torfaen a anrhydeddwyd am chwe blynedd o wasanaeth hefyd.

Mae bron i 5,000 o gadetiaid yng Nghymru yn ennill sgiliau a chymwysterau drwy weithio gydag elusennau a chymunedau lleol, yn ogystal â chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol.

Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei gyflwyno gan 1,850 o hyfforddwyr gwirfoddol a chynorthwywyr sifilaidd, sy’n rhoi o’u hamser rhydd gyda’r nos yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.

Cafodd y digwyddiad gwobrwyo ei drefnu gan Gymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru (RFCA) – sefydliad sydd wedi cefnogi’r Lluoedd Arfog ers dros 100 mlynedd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 3 Chwefror 2025