Datganiad ar ran yr unfed ar ddeg Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot
Cadeiriodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Jo Stevens yr unfed ar ddeg Bwrdd Pontio Tata Steel/Port Talbot
![](https://assets.publishing.service.gov.uk/media/67ab5e5e4a8e03aa8a56aa4c/s300_GMBgc57XQAA2yON.jpeg)
Cafwyd cyfarfod Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot ar 6 Chwefror 2025.
Gofynnodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Chadeirydd y Bwrdd Pontio, sef y Gwir Anrhydeddus yr Aelod Seneddol Jo Stevens, am gymeradwyaeth gan y Bwrdd i gyhoeddi £8.2 miliwn ar gyfer SWITCH (South Wales Industrial Transition from Carbon Hub). Bydd y prosiect hwn yn cefnogi dros 100 o swyddi ac yn cynhyrchu dros £87 miliwn ar gyfer economi De Cymru, gan gefnogi Cynllun y Llywodraeth ar gyfer Newid a’i chenhadaeth ar gyfer twf economaidd.
Dyma’r prosiect cyntaf i dderbyn cyllid fel rhan o’r prosiectau twf ac adfywio ym Mhort Talbot. Mae’n gydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru, gyda phartneriaid yn y diwydiant a’r sector cyhoeddus. Mae cyllid y Bwrdd Pontio yn ychwanegol at yr £20 miliwn gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Bydd SWITCH yn cyflawni ymchwil i gefnogi ac uno’r newid i ddatgarboneiddio. Disgwylir y bydd rhagor o brosiectau twf ac adfywio yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Yr arian sy’n cael ei ryddhau heddiw yw’r pedwerydd cyhoeddiad o gronfa £80m Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot Llywodraeth y DU – sydd, ers mis Gorffennaf diwethaf, wedi cyhoeddi £51 miliwn i gefnogi gweithwyr a busnesau dur unigol yng nghadwyn gyflenwi Tata Steel i ddiogelu swyddi a thyfu’r economi leol.
Bu’r Bwrdd hefyd yn trafod cymorth iechyd meddwl. Bydd rhagor o wybodaeth am yr ymyriadau sy’n cael eu datblygu i gefnogi iechyd meddwl yn y gymuned yn cael ei chyhoeddi yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd Pontio ar 27 Mawrth, yn dilyn cynllun peilot iechyd meddwl yng Nghanolfan Gymorth Cyngor Castell-nedd Port Talbot yng Nghanolfan Siopa Aberafan.
Cafodd y Bwrdd ddiweddariadau ar y canlynol hefyd:
- Rhaglen ddatgarboneiddio Tata Steel UK;
- Cynlluniau’r Adran Busnes a Masnach ar gyfer strategaeth ddur;
- Cymhorthfa Undeb Community ar gyfer gweithwyr yr effeithir arnynt;
- Cronfeydd y Bwrdd Pontio sydd eisoes wedi’u cyhoeddi, gan gynnwys ceisiadau a ddaeth i law ar gyfer cronfa’r Gadwyn Gyflenwi, a chymorth sy’n cael ei ddarparu gan y gronfa Cyflogaeth a Sgiliau.
Roedd y canlynol yn bresennol: Y Gwir Anrhydeddus Jo Stevens AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru; Rebecca Evans AoS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn Llywodraeth Cymru; Sarah Jones AS, y Gweinidog Gwladol yn yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net a’r Adran Busnes a Masnach; y Cynghorydd Steve K Hunt, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot; Frances O’Brien, Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot; Rajesh Nair, Prif Weithredwr Tata Steel UK; Stephen Kinnock, AS Aberafan Maesteg; David Rees, AoS Aberafan; Tom Giffard, AoS dros ranbarth Gorllewin De Cymru; Luke Fletcher AoS dros ranbarth Gorllewin De Cymru; Sarah Williams-Gardner; Anne Jessopp CBE a Katherine Bennet CBE, aelodau annibynnol o’r Bwrdd; Alun Davies, Swyddog Cenedlaethol Dur a Metelau, yr Undeb Cymunedol; a Jason Bartlett Swyddog Rhanbarthol ar gyfer Unite the Union.
DIWEDD