Datganiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Chadeirydd Bwrdd Pontio Tata Steel/Port Talbot
Mae'r Bwrdd Pontio, dan arweiniad Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn cytuno ar gynllun cymorth eang ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt gan symudiad Tata i ddur mwy gwyrdd.
Heddiw (dydd Iau 25 Ebrill) cyfarfu Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot i gytuno ar y ffordd ymlaen i ryddhau arian i helpu’r miloedd yr effeithiwyd arnynt gan benderfyniad Tata i symud i gynhyrchu dur mwy gwyrdd yn ei ffatri ym Mhort Talbot.
Y camau nesaf fydd cytuno ar y manylion y tu ôl i bob achos busnes a rhyddhau cyllid Llywodraeth y DU a Tata Steel.
Dywed Gadeirydd Bwrdd Pontio Tata Steel/Port Talbot ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies:
Mae Tata Steel wedi cadarnhau y bydd yn bwrw ymlaen â’i benderfyniad i symud i gynhyrchu dur mwy gwyrdd. Wrth gwrs mae hwn yn gyfnod hynod bryderus i’r gweithwyr ac i’r gymuned ehangach.
Sefydlodd Llywodraeth y DU y Bwrdd Pontio i helpu gweithwyr yr effeithir arnynt a chyfarfod heddiw ym Mhort Talbot lle cytunodd partneriaid ar gynllun eang ar gyfer y ffordd orau o gefnogi gweithwyr.
O dan y cynlluniau fe fydd cyllid ar gyfer ailhyfforddi gweithwyr dur, cefnogaeth i fusnesau yn y gadwyn gyflenwi, a buddsoddiad mewn prosiectau adfywio ym Mhort Talbot.
Cyn gynted â phosibl bydd y Bwrdd Pontio yn symud ymlaen i gam nesaf ein gwaith ac yn gwario ein cyllideb o £100m lle rydym yn gwybod bod ei angen.