Stephen Crabb yn gosod allan ei weledigaeth i Gymru yn ei araith fawr ar yr economi
Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb yn cyflwyno araith fawr ar yr economi i arweinwyr busnes yng Nghaerdydd.
Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, yn traddodi araith gyweirnod am yr economi i arweinwyr busnes yng Nghaerdydd
Cafodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Cymru, ddechrau da yr wythnos hon drwy roi araith bwysig am economi Cymru.
Amlinellodd ei weledigaeth i Gymru, gan egluro sut y bydd Llywodraeth y DU yn parhau i gefnogi busnesau i gynhyrchu twf ac amlinellu beth sydd yn y fantol yn 2015.
Dywedodd wrth arweinwyr busnes yng Nghaerdydd heddiw (7 Ionawr 2015) fod cynllun economaidd hirdymor Llywodraeth y DU yn gweithio i Gymru. Er bod goruchafiaeth Llundain a De Ddwyrain Lloegr wedi sugno talent, buddsoddiad ac egni gwleidyddol i mewn yn y gorffennol, meddai, mae cynllun hirdymor y Llywodraeth hon wedi creu twf cyflymach yng Nghymru nag mewn unrhyw ran arall o’r DU.
Meddai Stephen Crabb:
Yng Nghymru, bu cynnydd mwy yn nifer y busnesau newydd a gychwynnodd nag yn unman arall yn y DU yn 2014… Y llynedd, denodd Cymru ei nifer mwyaf o brosiectau mewnfuddsoddi ers bron i chwarter canrif. Ac mae nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau diweithdra ar ei isaf ers chwe mlynedd.
Dywedodd hefyd fod ar Gymru angen gweledigaeth economaidd ar gyfer yr 21ain ganrif o ran buddsoddi mewn sgiliau a seilwaith.
Mae llwyddiant yn yr 21ain ganrif yn perthyn i’r economïau hynny sy’n gallu harneisio technoleg ac arloesed.
Ni ddylai hirdymor olygu siarad am yr un prosiect am ddegawdau, ond sicrhau bod cynllun ar waith sy’n uchelgeisiol ac yn realistig. Mae ein cytundebau ar yr M4, ar drydaneiddio, Wylfa a Charchar Wrecsam, ymysg eraill, yn dangos ein bod yn llywodraeth sy’n deall seilwaith ac yn dymuno i Gymru gael ei chyfran deg.
Dywedodd Mr Crabb wrth arweinwyr busnes fod angen i ni lynu at y cynllun yn 2015, er mwyn cynnal twf cyson hirdymor i gau’r bwlch rhwng Cymru a rhannau eraill o’r DU.
Dywedodd ei fod yn benderfynol i bob sector a phob cwr o’n gwlad weld a theimlo twf ac uchelgais.
Mae fersiwn llawn o’r araith fel y cafodd ei thraddodi ar gael yma
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 January 2015 + show all updates
-
Added translation
-
Added translation
-
First published.