Mae cefnogi busnesau i gael gafael ar arian yng Nghymru yn allweddol, yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dilyn cyfarfod y Grŵp Cynghori ar Fusnes
Cael gafael ar gyllid a chydweithio rhwng busnesau a sefydliadau addysg uwch oedd ar frig yr agenda yng nghyfarfod diweddaraf Grŵp Cynghori ar Fusnes Ysgrifennydd Gwladol Cymru (9 Gorffennaf 2013).
Business Advisory Group meeting at Gwydyr House.
Daeth cynrychiolwyr o gwmnïau yn cynnwys General Dynamics, Dragon LNG, Toyota ac Airbus ynghyd i gael trafodaeth bwrdd crwn ar yr amgylchedd busnes presennol, a’u hymateb i’r heriau economaidd presennol ym mhencadlys Swyddfa Cymru yn Whitehall.
Rhoddodd swyddogion o Drysorlys EM gyflwyniad i’r grŵp ar sut y gall busnesau yng Nghymru gael gafael ar gyllid. Yn amrywio o gyllid ar gyfer benthyca, i waith y banc busnes, rhoddwyd trosolwg i’r cynrychiolwyr o’r cynlluniau sydd ar gael iddynt ar hyn o bryd i’w helpu i lywio twf yng Nghymru.
Yna aeth yr Athro Michael Scott o Brifysgol Glyndŵr ati i arwain trafodaethau ar gyfleoedd i ddatblygu cysylltiadau cryfach rhwng busnesau ac addysg uwch. Clywodd y grŵp sut y gellir cymhwyso arbenigedd ymchwil a gaiff ei ddatblygu mewn prifysgolion yn lleol ac yn genedlaethol i greu swyddi a denu buddsoddiad.
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Symud o achub i adfer yw prif flaenoriaeth y Llywodraeth hon, ac mae cyfarfod heddiw unwaith eto wedi bod yn llwyfan ardderchog i glywed beth yw sefyllfa busnesau yng Nghymru yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.
Roeddwn i’n arbennig o falch o gael y cyfle i groesawu cydweithwyr o Drysorlys EM a’r Athro Michael Scott, a gynigiodd gipolwg o’r newydd ar y gwaith a gaiff ei wneud mewn adrannau eraill o’r Llywodraeth a’r sector addysg uwch i gefnogi busnesau.
Ar ôl gweld y cydweithio rhwng Prifysgol Abertawe a Tata Steel yn ddiweddar ar brosiect SPECIFIC, rwy’n credu’n gryf fod cydweithio rhwng prifysgolion a busnesau yn gallu llywio ein heconomi yn y dyfodol. Po agosaf yw’r cysylltiadau rhwng y ddau sector, y mwyaf anhygoel a chyffrous yw’r canlyniadau”.
Dywedodd yr Athro Michael Scott:
Mae angen i brifysgolion eu hunain feddwl yn ‘ddarbodus’ nid dim ond ynghylch eu trefniadau gweithredu a rheoli mewnol eu hunain, ond o ran eu rhyngweithio â Busnesau a’r Diwydiant. Dyma ble y daw partneriaethau ystyrlon â rhanddeiliaid busnes yn her iddynt. Ni all eu rôl o ran creu cyfoeth gael ei hystyried fel rôl ‘llywiwr’ yn unig. Rhaid iddynt fod yn sefydliadau sydd eu hunain yn cael eu ‘llywio’ gan ofynion yr economi a pherchenogaeth gorfforaethol eu rhanddeiliaid rhanbarthol a chenedlaethol.
Mae Prifysgol Glyndŵr yn awyddus i ddod yn bartner anhepgor yn natblygiad economaidd a chymdeithasol ei rhanbarth a’i gwlad. Ei her yw cyflawni’r hyn y mae’n ei eirioli tra’n ehangu mewn meysydd eraill”.
Roedd Stephen Crabb, un o Weinidogion Swyddfa Cymru, wrth law yn y cyfarfod i amlinellu canlyniadau cyfarfod cyntaf Gweithgor Seilwaith Swyddfa Cymru. Fis diwethaf, ymunodd uwch swyddogion o ddiwydiant Cymru, Trysorlys y DU a Llywodraeth Cymru â’r Ysgrifennydd Gwladol a Mr Crabb, i drafod y prif flaenoriaethau ar gyfer datblygu seilwaith gyda’r nod o hybu economi Cymru.
Ychwanegodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Dyma’r tro cyntaf i’r Grŵp Cynghori ar Fusnes ddod ynghyd ers cyhoeddiadau diweddar Llywodraeth y DU ar wariant a seilwaith. Mae’r penderfyniadau rydym wedi’u gwneud yn dangos bod y Llywodraeth hon yn ymrwymedig i gryfhau economi Cymru, a sbarduno buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith.
Heddiw, mae busnesau wedi cael y cyfle i glywed sut y gall manteisio ar gymorth ariannol sydd ar gael drwy fentrau Llywodraeth y DU, a gweithio ar draws ffiniau sector agor y drws i dwf, marchnadoedd a syniadau newydd, a bod yn rhan newydd allweddol o’r gwaith o sicrhau economi lwyddiannus i Gymru”.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 July 2013 + show all updates
-
Added translation
-
First published.