Stori newyddion

Gwahardd dros dro asiantiaid ardrethi busnes

Asiantiaid wedi’u gwahardd wrth i’r VOA ymchwilio i achos posibl o dorri ei safonau.

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) wedi gwahardd dros dro dau asiant ardrethi busnes, sef Rateable Value Experts a Re-Rates UK. Mae hyn tra ein bod yn ymchwilio i achos difrifol posibl o dorri safonau ein hasiantiaid.

Mae’r gwaharddiad yn golygu na fyddwn yn gweithio gyda’r asiantau hyn nac yn derbyn unrhyw wybodaeth ganddynt tra byddwn yn ymchwilio i’r toriad posibl.

Rydym wedi ysgrifennu at gwsmeriaid gafodd eu heffeithio. Ni allwn wneud sylw pellach tra bod ymchwiliadau’n parhau.

Mae Safonau i asiantiaid Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn nodi disgwyliadau clir ar gyfer asiantiaid o ran:

  • eu hymddygiad
  • eu harfer proffesiynol
  • y gwasanaeth y maent yn ei ddarparu i’w cwsmeriaid

Rydym yn cymryd achosion o dorri safonau ein asiantiaid yn ddifrifol iawn. Byddwn bob amser yn cymryd camau os byddwn yn cadarnhau achos o dorri’r safonau.

Dylech fod yn ofalus o unrhyw asiant sydd:

  • yn ceisio rhoi pwysau arnoch i wneud penderfyniad neu lofnodi contract
  • yn dweud ei fod yn gweithredu ar ran y VOA neu’n anfon e-byst ymlaen y maent yn honni eu bod yn dod oddi wrth y VOA
  • yn mynnu symiau mawr o arian ymlaen llaw
  • yn gwneud hawliadau am ‘gredydau heb eu hawlio’ neu debyg

Cofiwch – nid oes rhaid i chi ddefnyddio asiant i reoli eich ardrethi busnes.

Gallwch herio eich gwerth ardrethol drwy ein gwasanaeth ar-lein. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio.

Os ydych am i asiant reoli eich ardrethi busnes, defnyddiwch ein rhestr wirio i ddewis asiant. Peidiwch â gadael i asiant eich dewis chi.

Mae gennym hefyd ganllawiau ar gadw’n ddiogel rhag sgamwyr.

Rydym yn casglu tystiolaeth o ymddygiad ac arferion gwael asiantiaid yn ystod ein gwaith. Mae’r dystiolaeth hon yn ein galluogi i fynd i’r afael yn rhagweithiol â materion neu bryderon.

Os ydych yn pryderu am ymddygiad gwael gan asiantiaid, anfonwch unrhyw dystiolaeth at agentstandards@voa.gov.uk.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 Ionawr 2025 + show all updates
  1. Added Welsh translation.

  2. First published.