Stori newyddion

Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Clwyd yn cydnabod deg o bobl

Mae cynrychiolydd y Brenin dros Glwyd wedi cydnabod ymdrechion deg o bobl o bob rhan o’r sir.

Clwyd Lord-Lieutenant with Certificate of Merit recipients and the Lord-Lieutenant Cadets. Copyright: RFCA for Wales.

I gydnabod eu gwasanaeth rhagorol a’u hymroddiad i ddyletswydd, dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i bump o bobl gan Henry George Fetherstonhaugh OBE FRAgS, yn y seremoni ym Marics Hightown, Wrecsam ddydd Iau 6 Mawrth.

Uwch-Sarjant Catrodol Ieuan Jones, Lefftenant Liam Mooney, 2il Lefftenant James Malins, Sarjant Staff John Magrath a’r Uwch Sarjant Cwmni Tony Hall oedd y rhain – sydd i gyd yn Llu Cadetiaid y Fyddin Clwyd a Gwynedd.

Cafodd llwyddiannau tri o gadetiaid yr Arglwydd Raglaw eu cydnabod a’u dathlu yn ystod y digwyddiad, lle’r oedd tua 90 o bobl yn bresennol.

Roedd Sarjant Gadét Maisie Roberts o Lu Cadetiaid y Fyddin Clwyd a Gwynedd, Sarjant Cadét Hedfan Holly Bunn o Lu Cadetiaid Cyfun Ysgol Santes Ffraid a Swyddog Gwarant y Cadetiaid Matthew Davies o Adain Gymreig Rhif 2 Cadetiaid Awyr yr RAF wedi amlinellu eu cyfnod yn y cadetiaid i’r gynulleidfa, gan sôn am uchafbwyntiau eu rôl dros y 12 mis diwethaf.

Mae rôl y cadetiaid hyn yn para tan fis Medi ac mae’n cynnwys mynychu digwyddiadau swyddogol gyda’r Arglwydd Raglaw mewn dyletswyddau swyddogol fel digwyddiadau Coffa, ymweliadau Brenhinol a gorymdeithiau.

Dewiswyd y tri ar gyfer rôl anrhydeddus cadetiaid yr Arglwydd Raglaw ar ôl cael eu henwebu gan arweinwyr grwpiau cadetiaid a Chymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru.

Hefyd yn ystod y noson, cyflwynwyd gwobr gan y Royal Humane Society i’r Uwch-sarsiant Hyfforddwr Bryan Ellis o Lu Cadetiaid y Fyddin Clwyd a Gwynedd. Cafodd Tystysgrif Gwasanaeth Da Llu Cadetiaid y Fyddin ei chyflwyno hefyd i Uwch-sarsiant Hyfforddwr Staff Steve Davies o Lu Cadetiaid y Fyddin Clwyd a Gwynedd.

Mae bron i 5,000 o gadetiaid yng Nghymru yn ennill sgiliau a chymwysterau drwy weithio gydag elusennau a chymunedau lleol, yn ogystal â chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol.

Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei gyflwyno gan 1,850 o hyfforddwyr gwirfoddol a chynorthwywyr sifil, sy’n rhoi o’u hamser rhydd gyda’r nos yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.

Cafodd y digwyddiad gwobrwyo ei drefnu gan Gymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru (RFCA) – sefydliad sydd wedi cefnogi’r Lluoedd Arfog ers dros 100 mlynedd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 Mawrth 2025