Trydydd asiant ardrethi busnes wedi’i wahardd
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn parhau â’i hymchwiliad i achosion posibl o dorri ei safonau.

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) wedi gwahardd dros dro asiant ardrethi busnes Rate Masters Limited (yn masnachu fel ‘My Rates’). Mae hyn tra ein bod yn ymchwilio i achos difrifol posibl o dorri safonau ein hasiantau.
Mae’r gwaharddiad yn golygu na fyddwn yn gweithio gyda, nac yn derbyn unrhyw wybodaeth o, My Rates tra byddwn yn ymchwilio i’r toriad posibl.
Rydym wedi ysgrifennu at gwsmeriaid gafodd eu heffeithio. Ni allwn wneud sylw pellach tra byddwn yn ymchwilio.
Mae’r cam hwn yn dilyn gwahardd dros dro Rateable Value Experts a Re-Rates UK ar 2 Ionawr 2025.
Rydym yn ymwybodol o fusnes arall o’r enw Rerate. Mae hwn yn fusnes gwahanol. Nid yw’n cael ei effeithio gan waharddiad dros dro ac nid yw’r VOA yn ymchwilio iddo.
Mae Safonau i asiantiaid Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn nodi disgwyliadau clir ar gyfer asiantiaid o ran:
- eu hymddygiad
- eu harfer proffesiynol
- y gwasanaeth y maent yn ei ddarparu i’w cwsmeriaid
Rydym yn cymryd achosion o dorri safonau ein hasiantiaid yn ddifrifol iawn. Byddwn bob amser yn cymryd camau os byddwn yn cadarnhau achos o dorri’r safonau.
Dylech fod yn ofalus o unrhyw asiant sydd:
- yn ceisio rhoi pwysau arnoch i wneud penderfyniad neu lofnodi contract
- yn dweud ei fod yn gweithredu ar ran y VOA neu’n anfon e-byst ymlaen y maent yn honni eu bod yn dod oddi wrth y VOA
- yn mynnu symiau mawr o arian ymlaen llaw
- yn gwneud hawliadau am ‘gredydau heb eu hawlio’ neu debyg
Cofiwch – nid oes rhaid i chi ddefnyddio asiant i reoli eich ardrethi busnes.
Gallwch herio eich gwerth ardrethol drwy ein gwasanaeth ar-lein. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio.
Os ydych am i asiant reoli eich ardrethi busnes, defnyddiwch ein rhestr wirio i ddewis asiant. Peidiwch â gadael i asiant eich dewis chi.
Mae gennym hefyd ganllawiau ar gadw’n ddiogel rhag sgamwyr.
Rydym yn casglu tystiolaeth o ymddygiad ac arferion gwael asiantiaid yn ystod ein gwaith. Mae’r dystiolaeth hon yn ein galluogi i fynd i’r afael yn rhagweithiol â materion neu bryderon.
Os ydych yn pryderu am ymddygiad gwael gan asiantiaid, anfonwch unrhyw dystiolaeth at agentstandards@voa.gov.uk.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 22 Ionawr 2025Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Ionawr 2025 + show all updates
-
Welsh translation added.
-
First published.