Tri Chyfarwyddwr Anweithredol newydd wedi’u penodi
Penodiadau wedi’u cadarnhau ar gyfer Cyfarwyddwyr Anweithredol newydd.
Penodwyd Cyfarwyddwyr Anweithredol Newydd, sef Timothy Render, Catherine Salway a Kirsty Whitehead ym mis Medi 2024 am gyfnod o dair blynedd.
Byddant yn ymuno ag aelodau presennol y Bwrdd Llywio, Andrew Lawrence, Harriet Kelsall a Hilary Newiss, y ddau ohonynt wedi’u hailbenodi am dair blynedd (1 Hydref 2024 i 30 Medi 2027 a Laurie Benson).
Timothy Render
Mae Timothy Render yn aelod o banel Swyddfa’r Farchnad Fewnol, o fewn yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ac yn Gyfarwyddwr Tim Render Consulting Limited.
Mae wedi dal nifer o swyddi uwch gan gynnwys Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn Llywodraeth Cymru, a Chyfarwyddwr dros dro yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Cyn y rolau hyn, arweiniodd Timothy ymgysylltiad a chynrychiolaeth y DU â sefydliadau’r UE yng Nghynrychiolaeth Barhaol y DU i’r UE, Brwsel.
Catherine Salway
Mae Catherine Salway yn Gyfarwyddwr Bwrdd profiadol a oedd yn flaenorol wedi cronni 7 mlynedd o brofiad ar seddi bwrdd o fewn Grŵp Virgin.
Roedd Catherine yn ymddiriedolwr elusen am 8 mlynedd ar gyfer ‘Partners for Change Ethiopia’ ac arweiniodd y sefydliad ar drawsnewid strategol a strwythurol tuag at fenter gymdeithasol fodern a chynaliadwy. Rhwng 2012 a 2023 sefydlodd Catherine ‘Redemption’, sef brand cynaliadwy, fegan, a dderbyniodd ganmoliaeth feirniadol ac a gyflwynwyd i 3 bwyty poblogaidd yn Llundain.
Kirsty Whitehead
Mae gan Kirsty Whitehead brofiad arweinyddiaeth ar lefel Bwrdd a thîm Gweithredol ac mae wedi dal swyddi arwain uwch ar draws y sectorau cyllid, technoleg a’r cyfryngau.
Mae gan Kirsty gefndir cryf mewn llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol mewn amgylcheddau cymhleth a newid uchel ac roedd yn aelod o dîm gweithredol dau gwmni sy’n eiddo i ecwiti preifat ac a oedd yn mynd drwy raglenni trawsnewid helaeth. Ar hyn o bryd mae Kirsty yn Gyfarwyddwr Monamy Trustees Limited ac mae’n teimlo’n angerddol dros faterion amgylcheddol.
Cadarnhawyd nifer o ail-benodiadau hefyd gan DSIT. Mae Cadeirydd y Bwrdd Llywio Harry Rich a’r cyfarwyddwyr anweithredol Hilary Newiss a Harriet Kelsall oll wdi cael eu hailbenodi am dair blynedd arall.
Croesawodd Harry Rich, Cadeirydd Bwrdd Llywio’r IPO, y penodiadau newydd a dywedodd:
Mae Bwrdd Llywio’r IPO yn darparu cyngor, arweiniad a her adeiladol i’r tîm gweithredol ar strategaeth a darpariaeth yr IPO. Mae Tim, Catherine a Kirsty yn dod â chyfoeth o fewnwelediad a phrofiad i’r Bwrdd ac mae eu profiad cyfunol yn cynnwys busnesau o bob maint, brand a datblygu cynnyrch a’r sector cyhoeddus. Edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw a’n timau gweithredol ac anweithredol wrth i ni gefnogi twf economaidd y DU trwy system IP effeithiol.
Talodd deyrnged hefyd i aelodau sy’n gadael y Bwrdd Llywio:
Hoffwn ddiolch i Lopa Patel a Kevin Orford, fel aelodau o’r Bwrdd Llywio sy’n gadael, am eu cyfraniad eithriadol dros y blynyddoedd diwethaf. Daeth Lopa a Kevin â safbwyntiau a phrofiad entrepreneuraidd a sefydliadol pwerus i’r tîm.
Dywedodd Adam Williams, Prif Swyddog Gweithredol IPO:
Rwy’n falch o groesawu Tim, Catherine a Kirsty yn gyfarwyddwyr anweithredol yr IPO. Gyda’u sgiliau a’u profiad amrywiol, byddant yn dod â dimensiwn newydd i’n tîm, gan gyfrannu at ein gwelliant sefydliadol parhaus, ffocws rhagorol ar gwsmeriaid, atebolrwydd a llywodraethu corfforaethol effeithiol.