Datganiad i'r wasg

Bwrdd Pontio yn symud o drafod i gyflawni wrth i Ysgrifennydd Cymru gadeirio ei chyfarfod cyntaf

Mae Ysgrifennydd newydd Cymru, Jo Stevens, wedi gofyn am gynllun gweithredu brys i gefnogi gweithlu Tata Steel a’r gadwyn gyflenwi.

Welsh Secretary Jo Stevens at the Tata Steel/Port Talbot Transition Board.

Mae Ysgrifennydd newydd Cymru, Jo Stevens, wedi gofyn am gynllun gweithredu brys i gefnogi’r gweithlu a’r gadwyn gyflenwi, wrth iddi gadeirio cyfarfod cyntaf Bwrdd Pontio Dur Port Talbot/Tata dan y llywodraeth newydd. 

Mae’r Bwrdd Pontio bellach wedi symud o drafod i gyflawni. 

Fel rhan o gyfraniad gwerth £20 miliwn i’r Bwrdd Pontio, bydd Tata Steel yn dechrau gweithio gyda Choleg Pen-y-bont ar Ogwr i roi cyfle i weithwyr cynhyrchu ym Mhort Talbot drosi’r sgiliau y maen nhw wedi’u hennill wrth weithio yn Tata Steel yn gymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol, a fydd yn eu helpu i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol. 

Mae Tata Steel hefyd wedi ail-gadarnhau ei ymrwymiad i gynnig pecyn dileu swyddi gwell ac mae wedi dechrau gofyn am ddatganiadau o ddiddordeb gan weithwyr a fydd yn para tan 7 Awst.

Mae Ms Stevens, a benodwyd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan y Prif Weinidog yn dilyn Etholiad Cyffredinol 4 Gorffennaf, wedi cymryd yr awenau fel cadeirydd y Bwrdd. 

Roedd cyfarfod y Bwrdd Pontio heddiw (11 Gorffennaf 2024) yn cynnwys cynrychiolwyr o fyd busnes, undebau, Llywodraeth Cymru a gwleidyddion lleol ac roedd yn cynnwys newid yn y ffordd y mae’r bwrdd yn cael ei gadeirio. 

Wrth arwain ei chyfarfod cyntaf, comisiynodd Ysgrifennydd Cymru’r bwrdd i gydweithio’n gyflym i gyflwyno opsiynau ar sut i gefnogi busnesau a gweithwyr y mae cynllun trawsnewid Tata Steel yn effeithio arnyn nhw.

Bydd y broses hon yn rhedeg ochr yn ochr â thrafodaethau parhaus gyda Tata Steel ynglŷn â dyheadau’r busnes yn y DU yn y dyfodol. 

Mae llawer o swyddi contractwyr a chadwyn gyflenwi yn dibynnu’n uniongyrchol ar y prosesau sydd eisoes wedi dod i ben yng ngwaith dur Port Talbot, gyda chau Ffyrnau Golosg Morfa a Ffwrnais Chwyth 5. 

Eglurodd yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd y bydd y bwrdd yn bartneriaeth gyfartal rhwng cynrychiolwyr gwleidyddol, busnesau ac undebau o hyn ymlaen. 

Ym Mhort Talbot, bu Ysgrifennydd Cymru hefyd yn cwrdd â gweithwyr dur presennol mewn caffi lleol lle bu’n trafod eu pryderon am ddyfodol Tata Steel yn y dref, bu’n ymweld ag Academi Sgiliau Tata Steel gan gwrdd â phrentisiaid, ac yn ddiweddarach teithiodd i RunTech yn Abertawe – cwmni logisteg yng nghadwyn gyflenwi Tata Steel – i glywed sut y bydd yn effeithio ar weithwyr yno. 

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru: 

Mae’r Llywodraeth hon yn benderfynol o wneud popeth o fewn ei gallu i ddiogelu ein diwydiant dur yng Nghymru ac mae wedi ailosod ein dull gweithredu o ran sut rydym ni’n gweithio gyda busnesau a chymunedau, a hynny ar unwaith. Byddwn ni’n cydweithio gydag un ffocws i gefnogi ein diwydiant dur a’r cymunedau y mae’n effeithio arnyn nhw.

Ond mae busnesau a gweithwyr eisoes yn teimlo effaith trawsnewid Tata Steel. Mae’r amser ar gyfer siarad wedi dod i ben. Heddiw, rydw i wedi comisiynu asesiad cyflym o sut y gallwn ni gynnig cymorth ar unwaith a bydd cyhoeddiadau pellach yn dilyn yn fuan.

Byddwn ni’n cyflawni ar gyfer gweithwyr a busnesau ym Mhort Talbot ac ar draws De Cymru, beth bynnag sy’n digwydd.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 July 2024