Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi ar gyfer Dyfed yn cydnabod 12 o bobl
Mae ymdrechion 12 o bobl o bob rhan o Ddyfed, gan gynnwys saith cadét ifanc, wedi cael eu cydnabod gan gynrychiolydd y Brenin dros y sir.

Dyfed Lord-Lieutenant standing with Certificate of Merit recipients and the Lord-Lieutenant Cadets of Dyfed. RFCA for Wales copyright.
I gydnabod eu gwasanaeth rhagorol a’u hymroddiad i ddyletswydd, dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i bump o bobl gan Miss Sara Edwards, yn y seremoni ym Marics Picton, Caerfyrddin, ddydd Iau 20 Chwefror.
Y pump oedd Lefftenant Aled Davies o Gadetiaid Môr Aberdaugleddau; Lefftenant Steven Grant o Gadetiaid Môr Abergwaun; Jane Sanders, Swyddog Gwarant o Adain Gymreig Rhif 3 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol; Lisa Bevan, Hyfforddwr Sifil o Adain Gymreig Rhif 3 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol a Richard Fisher, Rhingyll Hedfan, sydd hefyd o Adain Gymreig Rhif 3 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol.
Cafodd llwyddiannau saith o gadetiaid yr Arglwydd Raglaw eu cydnabod a’u dathlu yn ystod y digwyddiad, lle’r oedd dros 120 o bobl yn bresennol.
Bu Chloe Faulkner, y Prif Gadét o Gadetiaid Môr Llanelli; Finley Fells, y Prif Gadét o Gadetiaid Môr Abergwaun; Zuzanna Radkowska, y Rhingyll Cadét o Lu Cadetiaid y Fyddin Dyfed a Morgannwg; Archie Measey, Uwch-ringyll Sgwadron Gadét o Lu Cadetiaid y Fyddin Dyfed a Morgannwg; Mariana Lemon, Rhingyll Cadét o Gadetiaid Awyr y Llu Awyr Brenhinol Dyfed a Morgannwg; Katy Moyes, Rhingyll Hedfan y Cadetiaid o Adain Gymreig Rhif 3 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol a Laura Edwards, Rhingyll Hedfan y Cadetiaid o Adain Gymreig Rhif 3 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol, i gyd yn sôn wrth y gynulleidfa am eu hamser gyda’r cadetiaid, gan gynnwys uchafbwyntiau eu gwaith dros y 12 mis diwethaf.
Mae rôl y cadetiaid hyn yn para tan fis Medi ac mae’n cynnwys mynychu digwyddiadau swyddogol gyda’r Arglwydd Raglaw mewn dyletswyddau swyddogol fel digwyddiadau Coffa, ymweliadau Brenhinol a gorymdeithiau.
Dewiswyd y saith ar gyfer rôl anrhydeddus cadetiaid yr Arglwydd Raglaw ar ôl cael eu henwebu gan arweinwyr grwpiau cadetiaid a Chymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru.
Mae bron i 5,000 o gadetiaid yng Nghymru yn ennill sgiliau a chymwysterau drwy weithio gydag elusennau a chymunedau lleol, yn ogystal â chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol.
Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei gyflwyno gan 1,850 o hyfforddwyr gwirfoddol a chynorthwywyr sifil, sy’n rhoi o’u hamser rhydd gyda’r nos yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.
Cafodd y digwyddiad gwobrwyo ei drefnu gan Gymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru (RFCA) – sefydliad sydd wedi cefnogi’r Lluoedd Arfog ers dros 100 mlynedd.