Stori newyddion

Gwobr euraidd i ddeuddeg sefydliad o Gymru yng Nghastell Hensol

Mae 12 cyflogwr wedi derbyn Gwobr Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr (ERS) o fri mewn seremoni arbennig mewn castell ym Mro Morgannwg.

Gold ERS Awards 2022. Copyright: RFCA for Wales

Cafodd y 12 cyflogwr o bob cwr o’r wlad eu cydnabod am eu cefnogaeth eithriadol i Gymuned y Lluoedd Arfog mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yng Nghastell Hensol ar 1 Rhagfyr. Dechreuodd y noson wobrwyo ddisglair gyda derbyniad diodydd i westeion a cherddoriaeth dan ofal The Royal Air Force Salon Orchestra.

Arweinydd y noson oedd Sian Lloyd, gyda Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog dros Bartneriaeth Gymdeithasol, yn traddodi’r anerchiad croesawu.

Dyma’r enillwyr: Admiral Group Plc, Cyngor Sir Caerdydd, Cyngor Sir Ddinbych, Ymddiriedolaeth Ebarr CIC, Hugh James, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Pro Steel Engineering Ltd, Rubicon Facilities Management Ltd, Cyngor Bro Morgannwg, Veterans Award CIC, Woody’s Lodge a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Cyflwynwyd y gwobrau ar y cyd gan yr Ôl Lyngesydd Jude Terry OBE, y Brigadydd Andrew Dawes CBE, Cadlywydd Brigâd 160 (Cymreig), y Brigadydd Jock Fraser MBE ADC Môr-filwyr Brenhinol a Swyddog Awyr Cymru, Comodor yr Awyrlu Adrian Williams OBE.

Cafwyd prif anerchiad gan yr Ôl Lyngesydd Jude Terry OBE - llyngesydd benywaidd cyntaf y Llynges Frenhinol. Hefyd, clywodd y gwesteion gan AS1 Malembe Makawa o @614 Sgwadron RAuxAF (Royal Auxiliary Air Force) a siaradodd am yr hyn a’i symbylodd i ymuno â lluoedd wrth gefn yr RAF.

Mae’r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr, a ddyfarnwyd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, yn cydnabod yn ffurfiol sefydliadau sy’n cyflogi ac yn cefnogi’r rhai sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd. Cafodd 156 o sefydliadau y wobr Aur eleni ar hyd a lled y DU.

Er mwyn ennill gwobr, rhaid i sefydliadau ddarparu 10 diwrnod ychwanegol o wyliau â thâl i filwyr wrth gefn, gyda pholisïau Adnoddau Dynol cefnogol ar waith ar gyfer cyn-filwyr, milwyr wrth gefn ac oedolion sy’n Wirfoddolwyr Llu’r Cadetiaid, yn ogystal â gwŷr/gwragedd a phartneriaid y rhai sy’n gwasanaethu gyda’r Lluoedd Arfog. Hefyd, rhaid i sefydliadau hybu manteision cefnogi’r rhai yng nghymuned y Lluoedd Arfog drwy annog eraill i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog a chymryd rhan yn y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr.

Dywedodd Pennaeth Pobl Grŵp Admiral, Rhian Langham:

Rydym wrth ein boddau o gael ein cydnabod gyda Gwobr Aur uchel ei pharch y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr. Mae cynwysoldeb yn rhan allweddol o’n diwylliant yn Admiral, ac rydyn ni’n falch o greu amgylchedd lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi.

Mae ein cydweithwyr sydd â chysylltiadau â’r Lluoedd Arfog yn cael effaith mor gadarnhaol ar ein busnes, yn enwedig trwy eu cadernid rhyfeddol a’u gallu i addasu, ac rydyn ni wedi ymrwymo i barhau i roi’r cymorth sydd ei angen arnyn nhw.

Meddai Richard Selby, cyfarwyddwr a chyd-sylfaenydd Pro Steel Engineering:

Rydyn ni wrth ein boddau o fod ymhlith 156 o sefydliadau ledled y DU i ennill y wobr ar y lefel uchaf. Fel sefydliad, rydyn ni wedi ymrwymo i lesiant a chyfleoedd i gyn-filwyr, eu teuluoedd a’r cymunedau ehangach ers blynyddoedd lawer, a thrwy barhau â’n gwaith gyda’r RFCA Cymru, rydyn ni wedi gallu parhau i wella polisïau ac arferion gwaith i gefnogi’r Lluoedd Arfog. O’n profiad ni mae cyflogi staff sydd â phrofiad milwrol wedi helpu i gryfhau ein busnes a gobeithiwn y bydd y wobr hon yn helpu i annog cyn-filwyr a milwyr wrth gefn i barhau i weithio gyda ni yn y dyfodol.

Dywedodd Mr Tony Fish, Cyfarwyddwr Ymgysylltu â Chyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn, Rhanbarth Gogledd Cymru:

Rydyn ni’n falch iawn bod cynifer o gyflogwyr yng Nghymru wedi cael eu cydnabod gyda’r Wobr Aur hon. Mae’r cwmnïau hyn wedi rhoi o’u hamser i sicrhau bod cefnogaeth ar gael i gymuned y Lluoedd Arfog. Lansiwyd y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr yn 2014 gan y Prif Weinidog ar y pryd, David Cameron, i gydnabod cefnogaeth cyflogwyr i egwyddorion ehangach Cyfamod y Lluoedd Arfog a’r sbectrwm llawn o bersonél Amddiffyn. Mae hyn yn cynnwys y lluoedd wrth gefn, rhai sydd wedi gadael y fyddin, cadetiaid, eu gwŷr/gwragedd, rhai wedi’u hanafu ac sy’n sâl.

Mae rhestr lawn enillwyr gwobrau Aur, Arian ac Efydd y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr ar gael yma.

Mae’r Cyfamod yn addewid gan y genedl i sicrhau bod y rhai sydd naill ai’n gwasanaethu neu wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, a’u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg. Mae rhagor o wybodaeth am Gyfamod y Lluoedd Arfog a sut i gymryd rhan ar gael yma.

2022 yw nawfed flwyddyn y cynllun gwobrwyo. I ddysgu mwy am ERS a sut y gallai eich sefydliad gefnogi personél Amddiffyn yn y gweithle trwy Gyfamod y Lluoedd Arfog cysylltwch â:

  • Tony Fish, Cyfarwyddwr Ymgysylltu â Chyflogwyr, Rhanbarth Gogledd Cymru, wa-reed2@rfca.mod.uk Swyddfa’r Wyddgrug. Ffôn: 01352 752782 Ffôn symudol: 07508 193902.
  • Audrey Hamilton-Nealon, Cyfarwyddwr Ymgysylltu â Chyflogwyr, Rhanbarth De Cymru, wa-reed@rfca.mod.uk Swyddfa Caerdydd. Ffôn: 029 2037 5734 Ffôn symudol: 07970 49308

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 December 2022