Stori newyddion

Gweinidogion Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cynnal sesiwn holi ac ateb rhithiol gydag arweinwyr busnes yng Nghymru

Mae Gweinidogion o Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn tanlinellu ymrwymiad ar y cyd i gefnogi busnesau drwy'r pandemig COVID-19 parhaus

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
Top left: Heather Myers. Top right: Welsh Government Deputy Minister Lee Waters AM. Bottom left: UK Government Minister Nadhim Zahawi. Bottom right: UK Government Minister for Wales David TC Davies.

Top left: Heather Myers (Chair of Q&A & CEO of South and Mid Wales Chambers of Commerce). Top right: Welsh Government Deputy Minister for the Economy and Transport Lee Waters AM. Bottom left: UK Government Minister for Business and Industry Nadhim Zahawi. Bottom right: UK Government Minister for Wales David TC Davies.

Mae Gweinidog Cymru Llywodraeth y DU David TC Davies, y Gweinidog Busnes a Diwydiant Nadhim Zahawi, a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru Lee Waters, wedi cynnal rhith gyfarfod bwrdd crwn gyda chynrychiolwyr o fyd busnes o bob cwr o Gymru i drafod heriau parhaus COVID-19.

Roedd y gweinidogion yn tanlinellu ymrwymiad y naill lywodraeth a’r llall i wneud beth bynnag sydd ei angen i gefnogi busnesau drwy her unigryw a pharhaus pandemig y coronafeirws a pharhau i gydweithio ar ymateb y cyd.

Yn ystod y sesiwn holi ac ateb, a oedd yn cynnwys nifer o unigolion blaenllaw o gorfforaethau rhyngwladol mawr, cwmnïau cyfreithiol blaenllaw a rhai o fusnesau bach-meicro Cymru, dywedodd y Gweinidog Davies ei fod yn cydnabod pryderon arweinwyr busnes a’u gweithwyr ac fe dynnodd sylw at y pecyn cymorth y mae Llywodraeth y DU wedi’i ddarparu, gan gynnwys £330 biliwn o fenthyciadau wedi’u gwarantu gan Lywodraeth y DU a’r Cynllun Cadw Swyddi a gafodd ei lansio wythnos yma.

Amlinellodd y Gweinidog Davies a’r Gweinidog Zahawi yr ymrwymiad parhaus i weithio gyda Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r coronafeirws yng Nghymru, gan nodi bod dros £2 biliwn o gyllid nawr wedi cael ei roi i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU i ddelio â’r argyfwng hwn.

Roedd Dirprwy Weinidog yr Economi Llywodraeth Cymru Lee Waters hefyd yn tynnu sylw at y cymorth mae’r weinyddiaeth ddatganoledig wedi’i ddarparu gan gynnwys rhyddhad ardrethi busnes a grantiau i fusnesau bach. Roedd cynrychiolwyr o fusnesau ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys dur, addysg uwch a’r diwydiant adeiladu, wedi rhoi adborth pwysig ynghylch sut mae’r pandemig yn effeithio ar eu busnesau ac ar eu gweithwyr.

Cafwyd trafodaethau hefyd ynghylch sut bydd y ddwy lywodraeth a busnesau yn cydweithio ar yr adferiad ar ôl y pandemig a sicrhau cryfder economi Cymru i’r dyfodol.

Dywedodd Gweinidog Cymru Llywodraeth y DU David TC Davies:

Rydyn ni’n hynod ddiolchgar am yr adborth onest sydd wedi cael ei roi gan fusnesau yng Nghymru. Mae’n caniatáu i ni ddatblygu pecynnau cymorth sy’n gwneud byd o wahaniaeth i gwmnïau a’u gweithwyr, gan ddiogelu swyddi a’r economi.

Byddaf yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau Cymru, gan wneud beth bynnag sydd ei angen er mwyn i ni allu mynd drwy’r cyfnod unigryw ac anodd hwn.

Dywedodd Gweinidog Busnes a Diwydiant Llywodraeth y DU, Nadim Zahawi:

Mae hi’n hanfodol ein bod ni’n clywed gan fusnesau sy’n wynebu pwysau’r argyfwng coronafeirws, ac rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu’r cymorth hollbwysig sydd ei angen ar fusnesau Cymru.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddiogelu swyddi a pharatoi’r ffordd ar gyfer adferiad economaidd yng Nghymru, ac ar draws gweddill y DU, wrth i ni wynebu’r pandemig byd-eang hwn.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 27 April 2020