Llywodraeth y DU yn Sioe Frenhinol Cymru
Ymunwch â ni yn y 100fed Sioe Frenhinol i glywed sut mae Llywodraeth y DU yn 'Cyflawni ar gyfer Cymru’
Mae Llywodraeth y DU yn dychwelyd i Sioe Frenhinol Cymru (22 - 25 Gorffennaf) i roi’r cyfle i aelodau’r cyhoedd siarad â staff Llywodraeth y DU ynghylch sut maent yn cyflawni ar gyfer pobl a chymunedau ym mhob rhan o’r wlad.
Yn ystod y digwyddiad pedwar diwrnod yn Llanfair-ym-Muallt, bydd amrywiaeth o dimau ac asiantaethau o adrannau Llywodraeth y DU yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau ar stondin C221 yn cynnwys:
Dydd Llun 22 Gorffennaf
AM – Cyflawni ar eich cyfer chi yn y gwaith a gartref
Ymunwch â’r Adran Gwaith a Phensiynau, DVLA, y Swyddfa Ystadegau Gwladol a’r Weinyddiaeth Amddiffyn i glywed sut mae Llywodraeth y DU yn gweithio i’ch cefnogi chi a’ch teulu yn y gwaith a gartref.
Dydd Mawrth 23 Gorffennaf
DRWY’R DYDD - Diogelwch ar y ffyrdd
Rhowch gynnig ar brawf llygaid plât cofrestru’r DVLA i wneud yn siŵr eich bod yn ddiogel ar y ffyrdd.
AM – Trafodaeth banel Food is Great
Bydd ymgyrch ‘GREAT’ Llywodraeth y DU sy’n adnabyddus yn fyd-eang yn cynnal trafodaeth banel ‘Food is Great’ gyda chyflenwyr bwyd a diod enwog o Gymru.
Gwrandewch ar eu cyngor ar allforio a siaradwch â staff Llywodraeth y DU ynghylch cymryd eich camau nesaf ar y daith allforio.
PM – Oes gennych chi fynediad at fand eang cyflym iawn?
Mae Openreach a’r Adran dros Faterion Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn cynnal sesiwn cyngor ar fand eang.
Cewch gyfle i ofyn cwestiynau am gyflymder eich band eang a gweld beth mae Llywodraeth y DU yn ei wneud i ddarparu cysylltiadau cyflym iawn ar hyd a lled Cymru.
Dydd Mercher 24 Gorffennaf
DRWY’R DYDD – Cyfle i glywed sut mae Llywodraeth y DU yn gweithio i roi diwedd ar dlodi eithafol
Bydd yr Adran Datblygu Rhyngwladol yn arddangos sut mae Llywodraeth y DU yn mynd i’r afael â heriau byd-eang yr oes sydd ohoni yn cynnwys tlodi ac afiechyd, ansicrwydd a gwrthdaro.
Dewch i weld pa offer arloesol mae Llywodraeth y DU yn eu defnyddio ledled y byd i ateb yr heriau hyn a sut mae’r Ymddiriedolaeth Halo yn gweithio i gael gwared ar ffrwydron tir a diogelu bywydau.
Dydd Iau 25 Gorffennaf
DRWY’R DYDD - Diwrnod Prydain Fawr Werdd
Ymunwch â ni i ddarganfod sut gallech chi a’ch busnes elwa o Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU a sut gallwch chi gymryd rhan yn wythnos Prydain Fawr Werdd.