Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn dathlu 35 mlynedd o ddarlledu yn yr iaith Gymraeg

Guto Bebb: Pen-blwydd S4C yn garreg filltir i sector darlledu cyfoethog y DU

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
UK Government celebrates 35 years of S4C

Mae lle hynod arwyddocaol i S4C yn nhirlun diwylliannol Cymru, yn ôl Gweinidog Llywodraeth y DU Guto Bebb heddiw (1 Tachwedd) wrth i’r sianel ddarlledu yn yr iaith Gymraeg ddathlu 35 mlynedd o ddarlledu o ansawdd uchel.

Wedi i’r rhaglen gyntaf gael ei darlledu ar 1 Tachwedd 1982, symudodd y sianel o fod yn un ddwyieithog i fod yn wasanaeth 100% yn yr iaith Gymraeg pan ddaeth y newid i ddigidol yng Nghymru yn 2010.

Ers hynny, mae S4C wedi tyfu i ddatblygu mwy a mwy o gynnwys gwreiddiol sy’n cyrraedd cynulleidfa o dros 9 miliwn ar draws y DU. Mae hefyd wedi ehangu ei phresenoldeb ar-lein gyda 9.1 miliwn o wylwyr teledu a 18 miliwn yn gwylio clipiau o gynnwys S4C ar Facebook, Twitter a YouTube ledled y DU yn 2016-17.

Dywedodd Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y DU:

Mae S4C yn rhan bwysig a hirsefydlog o gyd-destun darlledu gwasanaeth cyhoeddus cyfoethog y Deyrnas Unedig. Mae’r sianel a’i chynnwys yn gwneud cyfraniad pwysig at fywyd diwylliannol ac economaidd Cymru, ffyniant y Gymraeg a chryfder ein sector creadigol.

O Patrol Pawennau i Pobol y Cwm, mae’r sianel yn gwasanaethu pob oed, yn siaradwyr Cymraeg rhugl a rhai sy’n cymryd y camau cyntaf tuag at ddysgu’r iaith.

Mae’r pen-blwydd hwn hefyd yn bwysig i’n hatgoffa o’r rhan y gall y diwydiannau creadigol eu chwarae yng nghyswllt gyrru twf drwy greu swyddi a denu mewnfuddsoddi. Mae Llywodraeth y DU wedi pwysleisio droeon ei hymrwymiad i gael gwasanaeth teledu annibynnol a chryf yn yr iaith Gymraeg. Rydym eisiau gweld y sianel yn ffynnu ac yn croesawu cyfleoedd yr oes ddigidol.

Gyda gweledigaeth glir ar gyfer y blynyddoedd i ddod, does dim dwywaith bod dyfodol disglair i S4C. Carwn longyfarch y Prif Weithredwr newydd, Owen Evans, a phob un aelod o staff, sy’n gweithio ag ymroddiad diflino i arddangos talentau a galluoedd diwydiant creadigol Cymru. Pob dymuniad da ar gyfer y 35 mlynedd nesaf a mwy.

Gwybodaeth pellach:

  • Lansiodd Guto Bebb adolygiad annibynnol o’r sianel yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst eleni. Bydd yr adolygiad, dan gadeiryddiaeth Euryn Ogwen Williams, yn edrych ar gylch gorchwyl y sianel, trefniadau cyllido a llywodraethu. Disgwylir i ganlyniadau’r adolygiad gael eu cyhoeddi yn ddiweddarach yn yr hydref.

  • Ym mis Mawrth eleni, cymeradwyodd Llywodraeth y DU fenthyciad o £10 miliwn ar gyfer adleoli pencadlys y sianel i Gaerfyrddin, a fydd yn creu dros 800 o swyddi yn yr ardal leol. Bydd yr arian yn golygu hefyd y gellir rhannu cyfleusterau technegol gyda’r BBC yng Nghaerdydd, gan leihau costau gorbenion S4C a chynyddu ei chronfa o dalent creadigol.

Cyhoeddwyd ar 1 November 2017