Llywodraeth y DU yn ariannu cymorth iechyd meddwl i helpu gweithwyr dur
£3.27 miliwn i roi hwb i ddarpariaeth cymorth iechyd meddwl yn y gymuned leol a helpu gweithwyr dur ddod o hyd i waith.

£3 million for mental health support to help affected steelworkers secure and stay in employment.
- Mae £3.27 miliwn wedi’i neilltuo gan Fwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot i roi hwb i ddarpariaeth cymorth iechyd meddwl yn y gymuned leol
- Bydd y cymorth yn helpu gweithwyr dur y mae’r broses bontio wedi effeithio arnynt i sicrhau ac aros mewn cyflogaeth
- Bydd y cyllid ar gyfer gwasanaethau yn cynnwys cymorth iechyd meddwl cymunedol a chymorth i ysgolion.
- Mae Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot eisoes wedi cyhoeddi dros £50 miliwn o gyllid i gefnogi gweithwyr a busnesau.
Bydd cronfa gwerth dros £3 miliwn yn cael ei chreu gan Lywodraeth y DU mewn partneriaeth â Chyngor Castell Nedd Port Talbot i gefnogi iechyd meddwl a lles gweithwyr Tata Steel a’u teuluoedd ym Mhort Talbot a’r gymuned ehangach.
Wrth gadeirio cyfarfod diweddaraf Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot heddiw (27 Mawrth) bu i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, gyhoeddi cronfa gwerth £3.27 miliwn i ariannu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl yng Nghastell Nedd Port Talbot i’r rhai hynny sydd wedi’u heffeithio arnynt gan Tata Steel yn trawsnewid i gynhyrchu dur mewn ffordd mwy gwyrdd.
Mae’r cyllid, sy’n hyblyg, ac a fydd efallai yn cynyddu yn ddibynnol ar y galw, wedi’i gynllunio i gwmpasu gwasanaethau gan gynnwys:
- cyflogi mwy o gwnsleriaid i weithio’n uniongyrchol â gweithwyr sydd wedi’u heffeithio arnynt gan y newid, a darparu adnoddau ychwanegol a grantiau i gefnogi’r ddarpariaeth iechyd meddwl sydd eisoes mewn lle
- ymestyn argaeledd cymorth cymunedol a chymorth gan gyfoedion, er enghraifft trwy Men’s Sheds, She Sheds a grwpiau cymunedol eraill;
- ariannu cymorth iechyd meddwl mewn ysgolion lle bo plant wedi’u heffeithio arnynt gan broses bontio Tata Steel;
- darparu cyngor arbenigol i weithwyr Tata Steel a’u teuluoedd sy’n llywio’r system lles neu sy’n ceisio ymdopi â dyled
- darparu hyfforddiant i weithwyr cymorth y cyngor ac undebau llafur ar godi ymwybyddiaeth o, ac atal hunanladdiad
Daw’r cyllid diweddaraf gan Fwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot Llywodraeth y DU, sydd, ers Gorffennaf y llynedd, wedi cyhoeddi gwerth dros £50 miliwn o nawdd i helpu gweithwyr dur a busnesau yng nghadwyn gyflenwi Tata Steel i ddiogelu swyddi a thyfu’r economi leol.
Y cyhoeddiad diweddaraf yw’r prosiect cyntaf i gefnogi iechyd meddwl a lles gweithwyr. Yn y misoedd i ddod, bydd degau o filiynau ychwanegol o gyllid yn cael ei neilltuo i brosiectau twf ac adfywio ym Mhort Talbot, gan sicrhau bod swyddi diogel gyda chyflogau da ar gael yn yr ardal leol.
Mae lles yn allweddol i sicrhau cyflogaeth dda ac aros mewn cyflogaeth. Felly bydd y cyllid hwn yn cyfrannu at genhadaeth Llywodraeth y DU i hybu twf economaidd a chodi safonau byw yng Nghymru, fel rhan o’i Chynllun ar gyfer Newid.
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:
Mae’r 18 mis diwethaf wedi bod yn anodd iawn i weithwyr dur Port Talbot, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach ond mi wnaethom ddweud y byddem yn eu cefnogi ym mha bynnag ffordd yr oedd angen.
Rydym yn helpu pobl i ddysgu sgiliau newydd ond rydym hefyd angen helpu i amddiffyn iechyd meddwl pobl, oherwydd mae lles yn hanfodol ar gyfer dychwelyd i’r gwaith ac aros mewn gwaith.
Trwy roi hwb i wasanaethau cymorth uniongyrchol, rydym yn buddsoddi ym mhobl yr ardal ac yn cefnogi twf yn yr economi leol.
Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:
Gan weithio ochr yn ochr â’n partneriaid ar y Bwrdd Pontio, byddwn yn parhau i sicrhau bod y cymorth a’r gefnogaeth priodol ar gael i’r unigolion y mae newidiadau Tata yn effeithio arnynt yn ogystal â darparu cyfleoedd ar gyfer twf, buddsoddiad a chyflogaeth lle bynnag y maent yn codi.”
Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell Nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt:
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn croesawu’r cyhoeddiad am y cyllid hwn a’r ymrwymiad i gefnogi lles ein cymunedau lleol drwy’r cyfnod anodd yma. Rydym yn gwybod bod effaith y newid yn y gwaith dur yn cael ei deimlo’n ddwfn ar draws yr ardal, ac yn enwedig o fewn Port Talbot ei hun, lle bydd pob aelwyd yn adnabod cyfeillion a effeithir yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.
Mae hwn yn ychwanegiad hanfodol i’r gefnogaeth y mae’r cyngor yn ei ddarparu ynghyd â’n partneriaid ar y Bwrdd Pontio, wrth i ni addasu i ddyfodol cynhyrchu dur yn y dref a pharatoi ar gyfer y cyfleoedd newydd a gynigir gan fuddsoddiad a datblygiadau yn y dyfodol fel y Porthladd Rhydd Celtaidd.
Meddai Martyn Wagstaff, Ymgynghorydd Iechyd Meddwl:
Mae’n bwysig iawn bod unrhyw un sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl yn gofyn am help.
Mae cymorth ar gael, a siarad gyda rhywun yw’r ffordd orau i wella.
Mae’r cyllid hwn gan y Bwrdd Pontio yn golygu bydd pobl yng Nghastell Nedd Port Talbot yn gallu cael mynediad at fwy o gymorth pan maen nhw ei angen.