Datganiad i'r wasg

Gall Cymru fod wrth galon yr economi werdd newydd, meddai Cheryl Gillan wrth yr Uwch Bwyllgor Cymreig

Heddiw, yng nghyfarfod yr Uwch Bwyllgor Cymreig ar Ynni, dywedodd Ysgrifennydd Cymru bod Cymru mewn sefyllfa ddelfrydol wrth i’r Llywodraeth…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, yng nghyfarfod yr Uwch Bwyllgor Cymreig ar Ynni, dywedodd Ysgrifennydd Cymru bod Cymru mewn sefyllfa ddelfrydol wrth i’r Llywodraeth symud at economi werdd newydd.

Roedd Charles Hendry, y Gweinidog Gwladol dros Ynni, hefyd yn bresennol, a chafodd Aelodau Seneddol Cymru gyfle i’w holi ynghylch Polisi Ynni’r Llywodraeth a’i oblygiadau i Gymru.

Dywedodd Mrs Gillan: “Roeddwn yn arbennig o falch o gael galw trafodaeth gyntaf yr Uwch Bwyllgor Cymreig ar ynni er 2008, er mwyn rhoi cyfle i Aelodau Seneddol Cymru drafod mater sydd mor bwysig i Gymru. Mae’r Llywodraeth hon yn benderfynol o wneud yn siŵr bod y DU ar flaen y gad yn y ras fyd-eang i fuddsoddi mewn trydan, gan sbarduno twf diwydiannau ynni glan a sicrhau’r fargen orau bosib i ddefnyddwyr. Rwyf am i Gymru chwarae rhan allweddol yn hyn o beth.

“Mae’r Llywodraeth hon eisoes wedi cyflwyno mesurau i helpu pobl i reoli ei biliau ynni drwy’r Fargen Werdd, gan helpu cartrefi a busnesau i ddefnyddio llai o ynni.  Mae mwy i’r Fargen Werdd na dim ond helpu pobl a busnesau i ddefnyddio llai o ynni.  Mae cyfleoedd mawr ar gael i’n busnesau - nid yn unig ar gyfer y diwydiant insiwleiddio, ond ar gyfer y cadwyni cyflenwi ar hyd a lled y wlad hefyd.  Mae gan y cynlluniau hyn y potensial i ddatgloi biliynau ar filiynau o bunnoedd o arian sector preifat dros y blynyddoedd nesaf, ac mae hynny hefyd yn golygu swyddi.”

Pwysleisiodd Mrs Gillan y cyfraniad sylweddol mae Cymru wedi’i wneud at gyflenwad ynni’r DU, a bod hyn yn golygu bod y wlad mewn sefyllfa dda i elwa o’r chwyldro Gwyrdd.

“Mae Cymru’n wlad gyfoethog o safbwynt ynni, ac wedi bod yn flaenllaw wrth gyflenwi ynni yn y DU ers cenedlaethau. Rydym yn hynod ffodus o’n hadnoddau naturiol rhagorol sy’n cynnig atebion i ynni adnewyddadwy. Mae gennym eisoes safleoedd ar y mor megis North Hoyle a Gwastadeddau’r Rhyl, a bydd gwaith yn dechrau ar Gwynt y Mor cyn hir hefyd. Rhaid cofio hefyd am ffatri Sharp yn Wrecsam, sy’n gweithgynhyrchu modiwlau solar drwy ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf. Cafwyd cyhoeddiad ddim ond fis yn ol bod y ffatri’n dyblu ei chynhyrchiant ac yn creu 300 o swyddi newydd. Dim ond ambell enghraifft yw’r rhain.

“Rwyf am weld arbenigedd ac adnoddau Cymru yn arwain y chwyldro Gwyrdd sydd ar droed i ddatgarboneiddio ein heconomi. Rwy’n siŵr y byddwn yn gwneud hyn drwy ehangu’r diwydiant ynni gwynt, morol, solar, pŵer niwclear a glo glan - gan gyfrannu’n sylweddol at sicrwydd ynni’r genedl.”

Cyhoeddwyd ar 10 March 2011