Mae hi’n ddiwedd blwyddyn pan fu lefelau cyflogaeth uwch nag erioed o’r blaen yng Nghymru
Roedd lefelau cyflogaeth diwedd 2016 yn uwch na'r lefelau ddiwedd 2015.
![Image of people working](https://assets.publishing.service.gov.uk/media/5a60d2c2ed915d7dfb57dfe4/s300_LMS.jpg)
Roedd lefelau cyflogaeth diwedd 2016 yn uwch na’r lefelau ddiwedd 2015. Yn ystod 2016 gwelodd Gymru lefelau cyflogaeth uwch nag erioed o’r blaen, dros y flwyddyn mae’r lefel wedi codi 39,000, yn ôl ystadegau newydd sydd wedi cael eu rhyddhau heddiw.
Mae’r lefel diweithdra wedi disgyn 21,000 dros y flwyddyn gyda’r nifer sy’n hawlio budd-daliadau 1,200 yn is; mae hyn yn dal yn is na chyfartaledd y DU.
Mae penawdau Ystadegau’r Farchnad Lafur heddiw fel a ganlyn:
- Dros y flwyddyn, cynyddodd y lefel cyflogaeth 39,000 ac roedd y gyfradd wedi cynyddu 2.3 pwynt canran. Dros y chwarter, yng Nghymru mae cyflogaeth wedi disgyn 8,000.
- Dros y flwyddyn, gostyngodd y lefel diweithdra 21,000 ac roedd y gyfradd wedi gostwng 1.4 pwynt canran. Mae cyfradd diweithdra Cymru nawr yn 4.3 y cant sydd 0.5 pwynt canran yn is na’r cyfartaledd ar gyfer y DU drwyddi draw. Dros y chwarter, mae’r lefel diweithdra wedi codi 2,000 ac mae’r gyfradd wedi codi 0.1 pwynt canran i 4.3 y cant.
- Roedd nifer yr hawlwyr wedi disgyn 200 rhwng mis Hydref a mis Tachwedd ac wedi disgyn 1,200 dros y flwyddyn. Mae’r gyfradd yn 2.9 y cant.
- Dros y flwyddyn, gostyngodd y lefel anweithgarwch economaidd 24,000 ac roedd y gyfradd wedi gostwng 1.2 pwynt canran. Mae anweithgarwch economaidd 2,000 yn uwch dros y chwarter.
- Dros y flwyddyn, roedd cyfanswm cyflogaeth yn y DU wedi cynyddu 342,000 a’r gyfradd wedi cynyddu 0.5 pwynt canran. Roedd cyfanswm cyflogaeth ar gyfer y DU wedi disgyn 6,000 dros y chwarter.
- Roedd cyfanswm diweithdra’r DU wedi disgyn 16,000 dros y chwarter i 1.616 miliwn, nid oedd y gyfradd wedi newid ac mae’n dal yn 4.8 y cant. Dros y flwyddyn, gostyngodd y lefel diweithdra 103,000 ac roedd y gyfradd wedi gostwng 0.3 pwynt canran. Roedd cyfanswm diweithdra yn y DU wedi disgyn 16,000 dros y chwarter.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae hi’n braf gorffen y flwyddyn gyda Chymru wedi gweld lefelau cyflogaeth gwell nag erioed o’r blaen. Mae’r ffigurau heddiw yn brawf o allu Cymru i greu hinsawdd lle mae busnesau’n gallu ffynnu ac yn hyderus ynghylch y cyfleoedd sydd o’u blaenau.
Mae hyn ynghyd â’r cyhoeddiad bod cyfleuster gweithgynhyrchu newydd Aston Martin yn Sain Tathan yng Nghymru yn cael y golau gwyrdd heddiw yn dangos bod gan fusnesau hyder i dyfu yng Nghymru. Mae rhagor o waith eto i’w wneud ond rydym yn edrych ymlaen at 2017 gyda gobaith newydd.