‘Mae angen Diwygio Lles yng Nghymru’
Stephen Crabb AS, Gweinidog Swyddfa Cymru yn siaradwr gwadd yn seminar Fforwm Polisi Cymru
![](https://assets.publishing.service.gov.uk/media/5a61d745e5274a0a20489899/s300_Jobcentre_Plus_sign.jpg)
Jobcentre Plus
Bydd Stephen Crabb AS, Gweinidog Swyddfa Cymru yn dweud heddiw yn ei araith yn seminar Fforwm Polisi Cymru, fod diwygiadau lles Llywodraeth y DU yn “gyfle unwaith mewn oes i dorri’r cylch dibyniaeth ac i ddod â gwerth a phwrpas gwirioneddol yn ôl i’r system lles” (13 Chwefror 2014).
Bydd y Gweinidog, a fydd yn annerch cynadleddwyr yng Nghaerdydd, yn amlinellu’r prif egwyddorion sy’n llywio’r diwygiadau lles yng Nghymru. Bydd hefyd yn galw ar bob lefel o’r Llywodraeth i gydweithio gyda “diddordeb a rennir mewn gweld cyflwr economaidd ein cenedl yn gwella,” gan nodi na ddylai’r diwygiadau lles “fod yn fan dall i Lywodraeth Cymru”.
Dywedodd Stephen Crabb, Gweinidog Swyddfa Cymru cyn siarad yn y seminar:
Er bod y nifer fwyaf erioed o bobl allan yn gweithio heddiw, mae tua 200,000 o bobl yma yng Nghymru o hyd sydd erioed wedi gweithio diwrnod yn eu bywyd. Mae hynny’n drasiedi i bob un o’r unigolion hynny ac mae’n drasiedi i’n cenedl ni. Mae angen i wlad fach fel Cymru fanteisio i’r eithaf ar bob sgil, talent a photensial sydd gennym ni.
Disgwylir i Mr Crabb ddweud “mai’r peth cyfrifol i’w wneud yw peidio ag annog llai o ddiwygiadau lles yng Nghymru” a bod “angen y diwygiadau lles yng Nghymru gymaint ag unrhyw le arall yn y DU.
Yn ystod ei araith, bydd y Gweinidog yn dweud y dylai’r egwyddorion arweiniol ar gyfer proses ddiwygio lwyddiannus fod yn seiliedig ar y canlynol:
Dyletswydd foesol i ddarparu rhwyd diogelwch a llwybr allan o dlodi
Darparu ystod lawn o gymorth, canllawiau a chymhellion sy’n rhoi’r cyfle i bobl wella eu hamgylchiadau a dychwelyd at y rhyddid sy’n gysylltiedig â bywyd annibynnol.
Adfer gwerth gweithio, a rhoi mwy o gymhelliant i bobl weithio
Newid y sefyllfa fel bod pobl bob amser yn cael cymhelliant ariannol i weithio o gymharu â’r dewis amgen o gael budd-daliadau.
System budd-daliadau sy’n adlewyrchu’r realiti sy’n gysylltiedig â’r farchnad lafur fodern
Mae Credyd Cynhwysol yn annog pobl ac yn eu cefnogi i gymryd eu camau cyntaf yn ôl i’r gwaith, gan gynyddu eu horiau wrth iddynt feithrin hyder a sgiliau.
Pontio’r bwlch rhwng y rhai sy’n dibynnu ar fudd-daliadau a’r rhai sy’n gweithio
Cau’r bwlch rhwng y dewisiadau y mae’n rhaid i’r rhai sy’n gweithio eu gwneud a’r dewisiadau a gaiff eu gwneud gan bobl sy’n cael budd-daliadau e.e. math o eiddo a maint yr eiddo, rheoli arian.
Bydd y Gweinidog yn pwysleisio’r rôl bwysig sydd gan San Steffan, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol i’w chwarae o ran cefnogi’r diwygiadau lles, gan ychwanegu bod y diwygiadau lles yma i aros: “fyddwn ni ddim yn troi’r cloc yn ôl nac yn dychwelyd at y math o system lles nad yw’n annog gwaith caled ac nad yw’n meithrin symudedd cymdeithasol”.
Bydd yn dweud “gydag uchelgais a rennir ar gyfer diwygio lles, bydd yr effeithiau y gall y diwygiadau hyn eu cael ar sefyllfa economaidd a chymdeithasol y genedl yn drawsffurfiol”.
Yn dilyn y seminar, bydd y Gweinidog yn ymweld â Chyngor Bwrdeistref Caerffili, lle mae cynllun peilot Credyd Cynhwysol yn darparu gwersi pwysig ar gyfer rhoi diwygiadau lles ar waith yn llwyddiannus yng Nghymru. Drwy roi arweiniad a chyngor ar ddyledion i wella sefyllfa ariannol y tenantiaid eu hunain, bydd y Gweinidog yn clywed gan yr awdurdod lleol yn uniongyrchol am ei rôl allweddol yn y broses o ddiwygio lles.
Nodiadau Olygyddion
- Bydd Mr Crabb yn cyflwyno ei araith am 09:05awr ar 13 Chwefror 2014 yng nghynhadledd Fforwm Polisi Cymru – “Cynhadledd ar Ddiwygio Lles a Thlodi yng Nghymru”