David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru’n croesawu cadarnhad y bydd dwy allan o dair gorsaf gwylwyr y glannau yn parhau ar agor yng Nghymru
Yn dilyn cadarnhad o’r “Glasbrint ar gyfer Sefydliad Gwylwyr y Glannau’r Dyfodol yn y DU” (‘Blueprint for the Future Coastguard Organisation…
Yn dilyn cadarnhad o’r “Glasbrint ar gyfer Sefydliad Gwylwyr y Glannau’r Dyfodol yn y DU” (‘Blueprint for the Future Coastguard Organisation in the UK’) heddiw, 22 Tachwedd, bydd gorsaf Aberdaugleddau a gorsaf Caergybi yn parhau ar agor. Croesawodd David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru hyn, wrth gydnabod siom Abertawe.
Dywedodd:
“Rwy’n falch o weld fod gorsafoedd Aberdaugleddau a Chaergybi i ddod yn rhan o system genedlaethol rwydweithiol gwylwyr y glannau. Mae hyn yn rhan o’r cynigion i ail-strwythuro gwasanaethau presennol y morlin yn y DU.
“Rwy’n deall y siom ynglŷn a dyfodol gorsaf Gwylwyr y Glannau Abertawe; fodd bynnag, yn gyffredinol, mae Cymru’n cadw dwy allan o’i thair gorsaf gwylwyr y glannau, i fyny o un dan gynlluniau’r weinyddiaeth flaenorol.
Nodiadau i’r Golygyddion: ****
1. Am fwy o fanylion am “Y Glasbrint ar gyfer Sefydliad Gwylwyr y Glannau’r Dyfodol yn y DU” dilynwch y ddolen http://www.dft.gov.uk/mca/mcga07-home/emergencyresponse/mcga-searchandrescue.htm
- Bydd adeilad Gorsaf Gwylwyr y Glannau Abertawe yn parhau i gael ei defnyddio fel both Gweithrediadau Arfordirol, yn darparu cyfleuster i dimau achub gwirfoddol lleol.