Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru yn arwain uwchgynhadledd ar ffonau symudol i fynd i’r afael â mannau di-gyswllt ledled Cymru
Gweinidog Swyddfa Cymru ac Ofcom yn cynnal cynhadledd i wella darpariaeth ffonau symudol ar draws Cymru.
Bydd Llywodraeth y DU ac Ofcom Cymru cynhaliodd uwchgynhadledd ar Iau 12 Ionawr lle y cafodd cwmnïau ffonau symudol, gwleidyddion a phobl y mae darpariaeth ffôn symudol wael yn effeithio arnynt yn dod ynghyd i geisio datrys y broblem yng Nghymru.
Mae Llywodraeth y DU yn ymrwymedig i wella cysylltedd ledled y wlad ac ym mhob cwr o Gymru. Roedd mynd i’r afael â mannau di-gyswllt yn un o’r materion a amlygwyd fel blaenoriaeth gan Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Guto Bebb, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, pan ddaethant i rym, ynghyd â’r neges na all Cymru gael ei gadael ar ôl gweddill y DU.
Mae Cymru yn dal i fod ar ôl gweddill y DU ac yn ôl Adroddiad diweddar Ofcom - Cysylltu’r Gwledydd, mae darpariaeth 4G dan do yng Nghymru 30% yn is nag yng Ngogledd Iwerddon, 28% yn is nag yn yr Alban a 42% yn is nag yn Lloegr.
Mae sicrhau bod pobl ledled Cymru gyfan yn gallu cael darpariaeth ffôn symudol gadarn yn flaenoriaeth i Lywodraeth y DU. Bydd y Bil Economi Ddigidol yn gwneud cyfraniad mawr i ymestyn y ddarpariaeth ledled y DU ac ym mis Rhagfyr cyhoeddodd y Llywodraeth y byddai’n buddsoddi £1 biliwn mewn seilwaith digidol.
Dywedodd Guto Bebb, Gweinidog Swyddfa Cymru:
Mae cysylltedd symudol yn rhan allweddol o fywyd modern ac mae’n hollbwysig i’n llwyddiant economaidd, ein hiechyd a’n lles. Nod yr uwchgynhadledd hon yw dod â Llywodraeth y DU, rheoleiddwyr a Darparwyr Rhwydwaith Symudol ynghyd i wella’r ddarpariaeth i fusnesau a chymunedau ledled Cymru. Dyma ddechrau proses a fydd yn mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n wynebu pobl ledled y wlad.
Mae’n annerbyniol bod Cymru yn dal i fod y tu ôl i weddill y DU o ran darpariaeth ffôn symudol mewn oes lle mae angen i fusnesau, teithwyr a phobl yn eu cartrefi allu dibynnu ar ddarpariaeth ffôn symudol gadarn. Er mwyn sicrhau bod Cymru yn ffynnu yn economi ddigidol y 21ain ganrif, mae angen i ni gael y rhwydwaith telegyfathrebu cywir ac rwy’n gobeithio y gallwn wneud cynnydd go iawn gyda’n gilydd a fydd yn fuddiol i fusnesau, pobl a chymunedau ledled Cymru.
Dywedodd Rhodri Williams, Cyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru:
Mae tir Cymru yn gwneud y dasg o adeiladu seilwaith digidol yn fwy anodd ac yn fwy costus na mewn rhannau eraill o’r DU. Fodd bynnag, mae disgwyliadau defnyddwyr yng Nghymru yn cynyddu ac mae pob un ohonom bellach am gael defnyddio ein dyfeisiau symudol lle bynnag yr ydym. Er mwyn i gyfathrebu weithio i bawb, dylai pob parti sydd â rhan i’w chwarae gydweithio i wneud beth y gallwn i gael yr ateb gorau i ddefnyddwyr yng Nghymru.
Hysbysiad Uwchgynhadledd Symudol
Cynhaliwyd cyfarfod ddydd Iau 12 Ionawr 2017 yn Swyddfeydd Ofcom Cymru ym Mae Caerdydd i drafod sut i wella darpariaeth signalau ffôn symudol yng Nghymru.
Roedd y cyfranogwyr yn cynnwys:
- Guto Bebb – Llywodraeth y Deyrnas Unedig
- Julie James - Llywodraeth Cymru
- Gweithredwyr Ffonau Symudol
- Awdurdodau Lleol
- Ofcom Cymru
Prif nod yr uwchgynhadledd oedd trafod y gwelliannau sy’n cael eu gwneud i gysylltedd dyfeisiau symudol yng Nghymru yn 2017, a sut gall gweithredwyr ffonau symudol, Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru weithio gyda’i gilydd yn y ffordd orau i fynd i’r afael â’r heriau sylweddol wrth gyflwyno gwelliannau pellach yn y ddarpariaeth yng Nghymru.
Clywodd y cyfranogwyr brofiadau bywyd go iawn pobl sy’n cael trafferth gyda derbyniad ffôn symudol gwael yn ogystal â chlywed gan y Gweithredwyr Rhwydwaith am waith presennol i wella lefelau gwasanaeth.
Roedd y cyfranogwyr yn cydnabod y cynnydd sy’n cael ei wneud a chynlluniau’r dyfodol, y ddibyniaeth gynyddol ar ddyfeisiau symudol, pwysigrwydd economaidd darpariaeth symudol 4G dda i fusnesau ac unigolion, a’r effaith y gall derbyniad gwael ei chael.
Buont yn trafod heriau penodol cyflwyno darpariaeth yng Nghymru, yn enwedig y topograffi unigryw a dosbarthiad y boblogaeth mewn rhannau o’r wlad. Cytunodd pawb fod ganddynt gyfrifoldeb i weithio gyda’i gilydd er mwyn parhau i wella’r sefyllfa bresennol ar gyfer busnesau ac unigolion ledled Cymru, a bod yr uwchgynhadledd yn rhan allweddol o’r broses honno.
Gwnaed yr ymrwymiadau a ganlyn:
- Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i leihau’r rhent ar gyfer gweithredwyr rhwydwaith ffonau symudol drwy ddiwygiadau i’r cod cyfathrebu electronig, a bydd yn archwilio sut gall gweithredwyr ffonau symudol ddefnyddio rhywfaint o’r rhwydwaith symudol mewn argyfwng newydd i wella’r ddarpariaeth
- Bydd Llywodraeth Cymru yn archwilio amrywiaeth o ddulliau sydd ar gael iddynt, gan gynnwys sut gellid defnyddio rheolaethau cynllunio i wella cyrhaeddiad y rhwydwaith telathrebu symudol mewn ardaloedd gyda derbyniad gwael
- Bydd y gweithredwyr ffonau symudol yn parhau i gydweithio â phartneriaid yn Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru i sicrhau gwelliannau yng nghysylltedd symudol yn y dyfodol ar gyfer defnyddwyr a busnesau yng Nghymru, gan gynnwys y ddarpariaeth o safbwynt daearyddol a dan do
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 January 2017 + show all updates
-
Updated with communique
-
First published.