Datganiad i'r wasg

Gweinidog yn Swyddfa Cymru yn croesawu’r fflam Olympaidd i Ogledd Cymru

Heddiw [28 Mai] bydd Gweinidog yn Swyddfa Cymru, David Jones AS, yn croesawu dyfodiad y fflam Olympaidd i Ogledd Cymru. Wrth i’r fflam deithio…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw [28 Mai] bydd Gweinidog yn Swyddfa Cymru, David Jones AS, yn croesawu dyfodiad y fflam Olympaidd i Ogledd Cymru. Wrth i’r fflam deithio drwy’r cymunedau ar hyd a lled y rhanbarth, bydd y Gweinidog yn mynychu dathliadau dinesig Bangor, sydd wedi’u trefnu gan Gyngor Gwynedd i ddathlu dyfodiad y fflam i Ogledd Cymru.

Bydd y Gweinidog yn cyfarfod Maer Bangor, y Cynghorydd Bryn Hughes, a hefyd cludwyr y fflam Olympaidd, Hazel Frost a Connor Laverty.

Mae Hazel, 47, o Borthaethwy, yn gweithio ym Mhrifysgol Bangor a chafodd ei henwebu drwy Lloyds TSB i gario’r fflam. Mae Hazel wedi ysbrydoli cymunedau lleol drwy ei hymgyrchu diflino dros gyfleuster sglefrio lleol i bobl ifanc, er cof am ei mab Darren.

Mae wedi cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau codi arian ar gyfer cronfa’r parc sglefrio, gan gynnwys abseilu i lawr Castell Penrhyn, nofio yn y mor eithriadol oer ar Ddydd San Steffan a cherdded i gopa’r Wyddfa bum gwaith. Mae ganddi gynlluniau i ddeifio awyr yn y dyfodol a bydd yn mynd ar daith codi arian i gopa Kilimanjaro ar Orffennaf 28ain.

Enwebwyd Connor, 16 oed o Ynys Mon, i gario’r fflam am ei ymrwymiad i chwaraeon. Mae wedi ennill llawer o gystadlaethau athletau cenedlaethol mewn disgyblaethau amrywiol ac mae’n dal i gael canlyniadau arbennig o dda yn yr ysgol.

Yna bydd Mr Jones yn ymweld ag arddangosfa sydd wedi’i threfnu gan Athrofa Prifysgol Bangor ar gyfer Seicoleg Perfformiadau Elitaidd. Bydd grŵp ymchwil yr uned ac aelodau’r adran yn dangos offer arbenigol, yn cynnal arbrofion ac yn arddangos eu gwaith yng Nghanolfan Siopa Deiniol.

Yn cyfarfod y Gweinidog bydd y Cydgyfarwyddwr Dr Tim Woodman, sydd wedi gweithio gyda pherfformwyr chwaraeon elitaidd y Gemau Olympaidd a Phencampwriaethau’r Byd ac mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Seicoleg Cymdeithas Gymnasteg Prydain er 2000.

Yn ddiweddarach, bydd y Gweinidog yn mynychu derbyniad i ffigyrau lleol amlwg ar Stad y Faenol, cyn mynychu’r dathliadau gyda’r nos. Mae Bangor yn un o bedwar lleoliad yng Nghymru a fydd yn cynnal digwyddiad gyda’r nos i groesawu’r fflam Olympaidd, a fynychir gan 7,500 o bobl leol.

Wrth siarad cyn y dathliadau ym Mangor, dywedodd David Jones:

“Rydw i’n falch iawn o fod yn ymuno yn y dathliadau sy’n cael eu cynnal ym Mangor i ddathlu dyfodiad y fflam Olympaidd i Ogledd Cymru. Mae Cyngor Gwynedd a Phwyllgor Trefnu Gemau Olympaidd Llundain wedi trefnu cyfres drawiadol o ddathliadau drwy gydol y dydd ac ymlaen i’r gyda’r nos, gan roi cyfle i bobl gymryd rhan yn y digwyddiad unigryw hwn.

“Bydd y fflam nid yn unig yn hoelio sylw pobl ar Wynedd, ond hefyd ar Gymru a’r DU yn gyffredinol. Mae cefndir chwaraeon cryf Cymru, ei threftadaeth falch a’i thraddodiadau i gyd yn rhan o stori Llundain 2012. Bydd y fflam wedi cael ei chario drwy fwy na 300 o strydoedd yng Nghymru a bydd ei siwrnai drwy Ogledd Cymru a hyd yn oed i gopa’r Wyddfa yn deyrnged briodol ac ysbrydoledig i’r athletwyr sy’n cymryd rhan yn y gemau a’r cymunedau sydd wedi dylanwadu arnyn nhw.”

Dywedodd y Cynghorydd Bryn Hughes (Maer Bangor):

“Mae’n bleser croesawu’r Gweinidog o Swyddfa Cymru, David Jones, yma heddiw i Fangor ar yr achlysur arbennig yma wrth i ni groesawu’r Fflam Olympaidd i’r ddinas. Rydyn ni wedi bod yn edrych ymlaen at ei ymweliad. Fel y Maer, rydw i’n gobeithio y byddwch chi i gyd yn mwynhau’r dathliadau.”

Dywedodd Dr Tim Woodman, Cyfarwyddwr yr Athrofa ar gyfer Seicoleg Perfformiadau Elitaidd:

“Mae ymchwilwyr yn Athrofa Prifysgol Bangor ar gyfer Seicoleg Perfformiadau Elitaidd wedi bod yn astudio effeithiau straen ar berfformwyr elitaidd am y 35 mlynedd diwethaf.

“Mae’r Gemau Olympaidd nid yn unig yn gyfle gwych i’n hathletwyr ni i gyd gystadlu, ond hefyd i ni fel ymchwilwyr mae’n cynnig cyfle rhagorol i wella ein dealltwriaeth o’r ffactorau cysylltiedig a pherfformio ar y lefel uchaf. ‘Allwn ni ddim disgwyl i’r Gemau gychwyn.”

Dywedodd un o Gludwyr y Fflam Olympaidd, Hazel Frost (o Fangor): “Ddwy flynedd a hanner yn ol, ar Ddydd San Steffan 2009, fe gollais i fy mab 18 oed, Darren, mewn damwain ffordd. Sefydlwyd Cronfa Goffa Darren Rhys a dechreuais godi arian ar gyfer Parc Sglefrio ym Mangor oherwydd dyna oedd fy mab i wrth ei fodd yn ei wneud. Ar 8 Medi 2011, (diwrnod pen blwydd Darren), agorwyd parc sglefrio er cof am fy mab.

“Rydw i wedi dal ati gyda’r codi arian oherwydd rydw i eisiau helpu i ddenu mwy o gyfleusterau i bobl ifanc i’r gymuned. Fy her fwya’ i fydd Kilimanjaro ddiwedd mis Gorffennaf eleni. Roedd cael fy enwebu i gludo’r fflam yn golygu cymaint i mi, ond mae cael fy newis i’w chario hi yn fraint ac yn anrhydedd a byddaf yn gwneud hynny gyda balchder.

“Bydd yn ddiwrnod eithaf emosiynol hefyd oherwydd byddaf yn cario’r fflam i Darren hefyd.”

Cyhoeddwyd ar 28 May 2012