Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru’n lansio rhaglen canmlwyddiant

Baroness Jenny Randerson yn mynychu lansiad swyddogol 'Cymru’n Cofio – Wales Remembers 1914-1918’

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
L-R: Baroness Jenny Randerson; John Griffiths AM, Minister for Culture and Sport; Rt Hon Carwyn Jones AM, First Minister of Wales; Rosemary Butler AM, Presiding Officer, National Assembly for Wales; David Melding AM, Deputy Presiding Officer, National Ass

L-R: Baroness Jenny Randerson; John Griffiths AM, Minister for Culture and Sport; Rt Hon Carwyn Jones AM, First Minister of Wales; Rosemary Butler AM, Presiding Officer, National Assembly for Wales; David Melding AM, Deputy Presiding Officer, National Assembly for Wales and Prof Sir Deian Hopkin, Chairman of the Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-18 programme board.

Bydd canmlwyddiant y Rhyfel Mawr yn gyfle i’r genedl sylweddoli pam bod cofio’n bwysig, yn ôl Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson, ar drothwy lansio’r rhaglen ‘Cymru’n Cofio - Wales Remembers 1914-1918’ yng Nghaerdydd ddydd Sul (28 Hydref 2013).

Bydd Rhaglen Coffau’r Rhyfel Mawr yng Nghymru yn ategu’r gweithgarwch cofio ar hyd a lled y Deyrnas Unedig sy’n cael eu trefnu gan Lywodraeth y DU. Gwasanaeth ar gyfer arweinwyr y Gymanwlad a gwylnos olau cannwyll yn Abaty San Steffan ar 3 Awst 2014 fydd dechrau’r rhaglen genedlaethol bedair blynedd i nodi’r canmlwyddiant.

Bydd y Farwnes Randerson yn mynychu lansiad swyddogol Cymru’n Cofio – Wales Remembers 1914-1918’, yn Amgueddfa’r Milwr Cymreig yng Nghastell Caerdydd. Datblygwyd y rhaglen gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â sefydliadau allweddol ar hyd a lled Cymru.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson:

Mae’r canmlwyddiant yn gyfle unigryw i ddod â phawb at ei gilydd fel cenedl i anrhydeddu bywydau a dewrder pob un a wasanaethodd yn y rhyfel – yn y fyddin ac yn y ffrynt cartref.

Ein nod yw darparu coffâd gwirioneddol genedlaethol. Drwy wneud hynny, gallwn osod y sylfeini ar gyfer adeiladu gwaddol diwylliannol ac addysgol, gan osod pobl ifanc ar flaen ac wrth galon ein coffâd, a sicrhau bod aberth a gwasanaeth can mlynedd yn ôl yn dal i gael eu cofio mewn can mlynedd eto.

Byddwn yn annog cymunedau a phobl o bob oed i ddod at ei gilydd i nodi a chofio bywydau’r rhai a fu fyw, a ymladdodd ac a fu farw yn y Rhyfel Mawr.

Ychwanegodd Helen Grant, Gweinidog yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon sydd â chyfrifoldeb dros raglen y Llywodraeth i nodi Canmlwyddiant y dyddiad pan ymunodd Prydain â’r Rhyfel Mawr:

Mae’n wirioneddol bwysig ein bod yn dathlu canmlwyddiant y Rhyfel Mawr gyda rhaglen ar hyd a lled y Deyrnas Unedig a’n bod yn gwneud ein gorau i helpu pobl ifanc, yn enwedig, i wneud synnwyr o’r hyn a ddigwyddodd, a’r effaith aruthrol ar y cyfan a ddaeth wedyn.

Mae canmlwyddiant yn nodi’r adeg pan fydd rhywbeth yn pasio o gof byw i hanes ysgrifenedig, ac mae hi’n ddyletswydd arnom i sicrhau bod yr aberth eithaf y bu’n rhaid i gynifer o’n cyndeidiau diweddar ei gwneud yn cael ei deall a’i gwerthfawrogi gan bobl ifanc sy’n tyfu i fyny heddiw.

Yn ogystal â digwyddiadau 4 Awst 2014, nodir pum dyddiad allweddol arall gan Lywodraeth y DU: canmlwyddiant glaniadau Gallipoli, Brwydr Jutland, diwrnod cyntaf Brwydr y Somme, diwrnod cyntaf Passchendaele ac, yn olaf, Diwrnod y Cadoediad.

Yng Nghymru, bydd yr Eisteddfod Genedlaethol - a gynhelir yn Llanelli y flwyddyn nesaf – yn llwyfannu digwyddiadau ar thema Canmlwyddiant, gan wahodd pobl o bob rhan o’r wlad i chwarae eu rhan yn y coffâd.

I gefnogi rhaglen y canmlwyddiant, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y rhoddir mwy o gefnogaeth i gymunedau lleol sydd eisiau coffau’r canmlwyddiant mewn ffyrdd cyffrous a chreadigol. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cyhoeddi’r grantiau cyntaf dan ei rhaglen grantiau bach ‘y Rhyfel Mawr - Bryd Hynny a ’Nawr’ i gefnogi prosiectau’n amrywio o adfer a gwella cofebion rhyfel, i greu arddangosfeydd addysgiadol neu berfformiadau theatrig.

Nodiadau i olygyddion:

Cronfa Dreftadaeth y Loteri

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn darparu cyllid ar gyfer helpu grwpiau, cymunedau a mudiadau i nodi’r canmlwyddiant drwy archwilio, gwarchod a rhannu treftadaeth y Rhyfel Mawr - o gofebion, adeiladau a safleoedd i ffotograffau, llythyrau a llenyddiaeth. Mae gwahanol grantiau ar gael yn amrywio o £3,000 - £100,000 a mwy.

Bydd prosiectau llwyddiannus yn cynnwys:

  • ymchwilio, canfod a chofnodi treftadaeth leol;
  • creu archif neu gasgliad cymunedol;
  • datblygu dehongliad newydd o dreftadaeth drwy arddangosfeydd, llwybrau, aps ffôn clyfar ayb;
  • ymchwilio, ysgrifennu a pherfformio deunydd creadigol yn seiliedig ar ffynonellau treftadaeth;
  • gall y rhaglen newydd hefyd gyfrannu nawdd ar gyfer gwarchod cofebion rhyfel.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 28 October 2013